Gwirfoddoli
Ydych chi’n caru’r awyr agored a chadwraeth?
Rydym yn dal i edrych am bobl i gymryd rhan yn ein tîm gwirfoddoli, mae’n tyfu’n gyflym! Trwy gydol y flwyddyn, fe fyddwn yn cynnal amryw o brosiectau diddorol y gallwch fod yn rhan ohonynt er mwyn gwneud gwahaniaeth i fyd natur ar Ystâd Elan.
Ad-delir costau
Milltiroedd @ 45c /y filltir bob ffordd (hyd at uchafswm o 20 milltir bob ffordd)
Cost cinio hyd at £5
Helpwch ni i migw blannu yn
13eg o Chwefror 2025
27ain o Chwefror 2025
Mae Ymddiriedolaeth Gwm Elan angen gwirfoddolwyr i helpu i blannu migwyn ar
ein tiroedd mawn er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r prosiect adferiad.
Mae migwyn yn floc adeiladu allweddol, yn atafaelu carbon ac yn dal dŵr sy’n helpu i greu cynefin iach i’r gorgors.
Clirio Coed Conwydd o’r Mawndir
20fed o Chwefror 2025
Mae Ymddiriedolaeth Gwm Elan yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo i glirio coed conwydd hunan eginol o gynefin ein mawndir gwerthfawr!
Cais am wirfoddolwyr: Gwaith mawndir
Dydd Mawrth 4ydd o Fawrth
Dydd Mawrth 11fed o Fawrth
Dydd Mawrth 18fed o Fawrth
Dydd Mawrth 25ain o Fawrth
Mae angen cymorth ar ein hyfforddeion sy’n arolygu ein mawndir i gyflawni arolygon tir yn ein mawndiroedd gwerthfawr.
Prosiect Monitro Gylfinirod gan Wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Gwm Elan
Ymrwymiad:
Rhaid mynychu hyfforddiant ar ddydd Mercher 19eg o Fawrth. Yna, monitro rheolaidd trwy gydol y tymor.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i:
Gadarnhau bod y gylfinirod wedi dychwelyd
Darganfod ble mae’r gylfinirod wedi dewis nythu
Monitro i weld os ydynt wedi cenhedlu’n llwyddiannus
Fe fydd rhaid i’r gwylwyr fod yn amyneddgar ac yn barod i wylio’r ardal am
oddeutu un sesiwn bob wythnos am y tymor. Mae profiad o gylfinirod yn
ddefnyddiol ond nid yw’n hanfodol (fe roddir hyfforddiant) ond fe fydd angen
ysbienddrych/telesgop da arnoch.Fe fydd angen eich cerbyd eich hun ar
gyfer mynediad i’r safleoedd.