Nod Prosiect Archif Elan Links yw diogelu, cofnodi a dathlu deunydd treftadaeth ddiwylliannol Elan sy’n cynnwys dogfennau, atgofion, lluniau ac arteffactau.
Mae’n ofynnol i wirfoddolwr gynorthwyo’r archifydd i gofnodi gwybodaeth ar gronfa ddata’r archif. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn digwydd yn CARAD yn Rhaeadr a Swyddfa Ystad Cwm Elan, fodd bynnag, efallai y bydd angen rhywfaint o waith ychwanegol ar y safle.
Os hoffech wybod mwy am y rôl hon, cysylltwch â Matt Rose ar 01597 811527 neu drwy matt.rose@elanvalley.org.uk