Mwyngloddiau Metel Ystâd Elan
Mae plwm wedi cael ei fwyngloddio yng Nghymru ers tua 1,000CC. Yn ystod y feddiannaeth Rhufeinig 43 – 407 0Cgwnaed defnydd helaeth o blwm ar gyfer pibellau dŵr, addurniadau ac eirch. Roedd galw uchel iawn eto yn yr unfed ganrif ar ddeg a’r ddeuddegfed ganrif, ar gyfer gorchuddio toeon cestyll, eglwysi ac adeiladau mawreddog eraill. Roedd y gwaith ar raddfa bach hyd yr unfed ganrif ar bymtheg pan fu tyfiant sylweddol yn y diwydiant a hyrwyddwyd gan y Frenhines Elizabeth I. Roedd gwelliannau technegol o’r Almaen wedi gwella dulliau cynhyrchu ac erbyn y ddeunawfed ganrif, Prydain oedd cynhyrchydd pwysica plwm Ewrop. Parhaodd mwyngloddio plwm i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’r rhan fwyaf o fwyngloddiau Cwm Elan yn dyddio o’r cyfnod hwn. Fodd bynnag, yn ystod y ddeunawfed ganrif, bu cynnydd enfawr mewn cynnyrch tramor a bu dirywiad yn y diwydiant, gan nad oedd bellach yn gystadleuol.
- NANT Y CAR (Gogledd). Cyf. grid: SN891618. Dyddiadau a weithiwyd: deunawfed ganrif. – 1854
- NANT Y CAR (DE). Cyf. grid: SN886609. Dyddiadau a weithiwyd. – 1883
Roedd yn cynhyrchu copr/plwm/sinc.
Leiniwyd prif siafft Nant y Car (de), sydd bellach wedi gorlifo, â gwaith cerrig a oedd yn gorwedd ar linteli o bren. Mae hefyd sylfeini o drefniant gwaith cerrig troellog ar ochr ddwyreiniol y siafft a’r ‘bob-pit’. Pwmpiwyd y siafft gan system gwiail fflat a phwerwyd gan y brif olwyn. Lleolwyd y gwiail hyn mewn cylfat cul, wedi’i leinio gan gerrig,i’r dwyrain o’r olwyn.
Mae tramffordd yn cysylltu adeiladwaith y siafftiau gydag un neu ddau biniau mwyn o gerrig gyda lloriau gweddillion ar y blaen. Roedd nifer helaeth o ‘jigtailings’ ger y biniau sy’n dangos bod gogr wifrau yn cael eu defnyddio ar y safle, wedi’u lleoli yn ôl pob tebyg, ar weddillion llwyfan ar ochr gogledd-dwyreiniol y tŷ malu, sy’n dal i gynnwys gweddillion pedwar trawst, sy’n dynodi bod dau rholiau malu yn gweithio yno. Mae ramp yn cysylltu’r biniau mwyn i’r tŷ malu. I’r dwyrain gorwedda dau ‘buddles’ crwn gyda waliau gwrthglawdd o gerrig yn eu hamgylchu. Mi fasai dŵr yn llifo o’r tŷ malu trwy’r cylfert i’r man ‘buddle’.
Mae’r brif ffrwd wedi’i leinio’n bennaf â cherrig ac yn llifo o nant Rhiwnant. Mae gweddillion tri draeniad ceuffordd. Mae cyfres o lochesu teirochrog, wedi’u lleoli ymhlith y cwymp cerrig naturiol, yn awgrymu eu bod wedi cael eu defnyddio fel lloches i’r pobl oedd yn cael eu cyflogi i drin y cerrig.
- DALRHIW. Cyf. grid: SN885607. Dyddiadau a weithiwyd: 1850 – 1867
Cynhyrchu copr/plwm.
Cafwyd mynediad gwreiddiol i’r mwynfa dros bompren o fwynfa de Nant y Car. Lleolir y brif siafft ar y llethrau deheuol ar frig y safle, gyda cheuffordd draeniad ar lan deheuol y nant. Fe fyddai ‘whim’ ceffyl wedi codi’r mwyn o’r siafft. Mae ‘bop-pit’ a phrif olwyn yn gysylltiedig â’r siafft, a gellir dal olrhain llwybr y gwelyau o’r system hon. Mae’r sianeli dŵr o’r brif olwyn yn rhedeg i nant Rhiwnant.
Mae olion tri bin mwyn ac adeilad bach gerllaw, lle didolwyd y mwyn â llaw o bosib cyn mynd i’r tŷ malu. Lleolir olion y tŷ malu a’i phrif olwyn i lawr y llethr o’r biniau mwyn. Mae llawr llechi ger yr adeilad a fu, o bosib, yn fan golchi. Cafodd y ‘jigs’ eu pweri gan brif olwyn bach arall ac mae’r llawr llechi yr oeddynt yn sefyll arno dal yno ynghyd â gwastraff y jig ger wal y brif olwyn. Nid oes dystiolaeth ar ôl o weddillion y ‘buddles’.
Mae swyddfa’r mwynfa/tŷ rheolwr y mwynfa wedi dymchwel, ac roedd gefail ynglwm wrtho yn ôl pob tebyg.
- NANT Y GARW. Cyf. grid: SN874606. Dyddiadau a waethiwyd: 1877 – 1899
Cynhyrchu plwm.
Er fod ychydig o olion o’r gweithfeydd cynnar, mae’r rhan fwyaf o’r gweddillion sy’n weledol heddiw yn dyddio o 1866 ymlaen. Mae’r brif siafft wedi’i leinio â cherrig gyda ffram o bren yn cwmpasu’r pen uchaf, mae rhai rhodenni pwmp dal yn eu lle. Ar hyd yr ochr dde mae’r ‘bob-pit’ ac i’r ochr ddwyreiniol mae adeilad un ystafell a’i ddefnydd yn anhysbys.Olion safle crwn yn y cyffiniau yw’r unig weddillion o’r cylch ‘whim’. Mae yna brif olwyn sylweddol i’r dwyrain gyda’r dŵr yn cael ei dynnu’n uniongyrchol o’r nant.
Mae llwybr yn arwain at weddillion y felin brosesu. Nid oes prif olwyn ar ôl, fodd bynnag, darparwyd y pwêr mae’n debyg gan ddŵr. Darparwyd peiriannau prosesu yn y tri adeilad cyffiniol. Mae hefyd tomenni o wastraff ‘jig’ a gweddillion ‘buddle’ ger safle’r felin. Mae dau adeilad i’r dwyrain o’r felin yn cynnwys waliau cerrig gyda chap concrit, sy’n awgrymu bod adeiladwaith o bren uwchben y pwynt yma. Mae un o’r adeiladau wedi’i rannu’n fewnol ac o bosib wedi bod yn farics, a’r adeilad arall yn cynnwys rhaniad ystafell sengl gyda hollt sy’n awgrymu iddo leoli rhyw fath o beirianwaith. Mae llwyfan ‘jig’ i’w weld i ddwyrain y siafft.
Gwelir olion ffos a oedd yn gwaredu ‘llwtra’ o’r felin i’r pwll gwaddod. Mae gan olion swyddfa’r fwynfa sylfaen o garreg gyda chap concrit, sy’n cael ei rannu yn ddwy ystafell mewnol. Mae hefyd tystiolaeth o ardd sy’n ymddangos fel llecyn glas nawr. Mae ystordy’r fwynfa wedi’i leoli yn bellach i’r dwyrain.
- MWYNGLAWDD CWM ELAN Cyf. grid: SN901651. Dyddiad a weithiwyd: 1796 – 1877
Cynhyrchu plwm/sinc.
Saify gweithfeydd cynnar fel cyfres o doriadau agored, rhai tomenni bach ac olion cloddiau rhai adeiladau. Mae gweithfeydd eraill y ddeunawfed ganrif ar goll o dan domenni gweithfeydd mwy y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r rhan fwyaf o olionstrwythurol Cwm Elan yn dyddio o’r 1870au.
Fe fyddai’r brif olwyn i’r brif siafft wedi cynnwys olwyn 36×4 troedfedd, ac fe fyddai’r dŵr o’r olwyn wedi symud trwy’r porth bwaol a’i ail ddefnyddio yn yr olwyn falu. Gellir gweld rhaid o’r rhodenni pympio a’r gwaith haearn cynhaliol o gwmpas y safle.
Fe fyddai’r mwyn o’r brif siafft wedi’i storio mewn tri bin mwyn; dim ond un ohonynt sy’n weddol gyfan. Oddi yma fe fyddai’r mwyn yn mynd i’r tŷ malu ar ydramffordd. Mae waliau’r tŷ malu’n dal i sefyll bron ar eu huchder llawn, ac mae trawstiau sy’n cynnal y rholiau malu yn gorwedd yn agos i’r adeilad. Mae’r brif olwyn gysylltiol yn debyg o ran maint i’r pwll pwmpio, sy’n pweru malwr, ‘jiggers’ a’r ‘buddle’ crwm.
Roedd dŵr o brif olwyn y tŷ malu yn llifo allan o’r bwa i fwydo’r trydydd olwyn llai a oedd yn pweru’r ‘buddle’ islaw. Roedd y dŵr yn pasio ar hyd ‘launders’ pren ac mae’r cynalyddion yn aros yn y fan a’r lle.
Mae tystiolaeth ar y safle o dri rhes cyfochrog o ddeg pwll setlo i olchi’r gwastraff plwm, pob â ffosydd cydgysylltiol. Wedi’i leoli nepell o’r brif safleoedd prysur roedd ystorfa, sef ystafell fach o gerrig a ddefnyddiwyd ar gyfer storio ffrwydron.
Cwblhawyd gwaith ar Fwynfeydd Cwm Elan gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan mewn partneriaeth â CADW i sefydlogi’r adfeilion. Fel rhan o brosiect Cronfa Loteri Treftadaeth Cysylltiadau Elan fe fydd mynediad a dehongliad i’r cyhoedd yn cynyddu.
Rhestr Termau
- Plwm – mwyn sylffid sy’n cael ei adnabod fel galena.
- Mwyn – mewn gwythiennau neu ‘lodes’ sy’n rhedeg trwy gerrig gwlad sydd wedi’u gwasgu rhwng haenau o gerrig gwynion neu calchit.
- Ceuffyrdd – lefelau draeniad neu twnelau.
- Poncio – symud y mwyn.
- Balance bobs/bopits – Yr olwynion dŵr cylchdroadol sy’n cael eu pweru ganbympiau a mecanweithiau eraill trwy system o rodenni-fflat ac wedi’u gwrthbwyso gan bobs cytbwys mewn bobpits (Anfantais defnyddio pŵer dŵr oedd bod y cyflenwad dŵr yn rhewi yn y gaeaf ac yn sychu yn y tir uwchben yn yr haf, tra’n dal i fynd i mewn i’r fwynfa o dan ddaear, gan wneud y fwynfa’n anweithredadwy).
- Launder – Cafn pren.
- Blwch tye – llifddor syml.
- Pwll llaid – daliant ar gyfer gronynnau mân a oedd yn cwympo allan o’r crogiant dŵr i’w casglu’n nes ymlaen.
- Jigger – gogr weiren.
- Buddle – peiriant gwisgo lled-awtomataidd.
Mynediad a Diogelwch
Er ei bod hi’n bosib i gael mynediad i’r mwynfeydd uchod, maent yn anghysbell ac mae mynedfa yn anodd. Maent wedi’u lleoli oddi ar yr Hawl Tramwy, a gellir ond cael mynedia trwy dir caeëdig gyda chaniatâd y tenant fferm. Mae’r tir yn aml yn anwastad a chorsog. Mae ardaloedd mwyngloddio’n aml yn beryglus, gyda siafftiau agored a’r tir yn dueddol i ymsuddo’n sydyn. Ni cheir caniatâd i fynd i mewn i’r siafftiau ac maent wedi’u ffensio er diogelwch. Gall y pentyrrau o gerrig gwastraff a’r adfeilion fod yn ansefydlog a rhaid cymryd gofal bob amser.
Darllen pellach:
- The old metal mines of Mid Wales, Part 6. A miscellany. (1991). Bick,D.
- CPAT Report No 248 Nantygarw Lead Mine, archaeological ground survey. (1997) Jones,N.W.andFrost, P. The Clwyd-Powys Archaeological Trust.
- Lead and lead mining. (1994) Willies,Lynn. Shire Publications Ltd.
- Lead mining in Wales. (1967) Lewis,W.J. TheClwyd-Powys Archaeological Trust.
- CPAT Report No 111.1 Powys metal mines ground survey. (1994). Jones,N.W. and Frost,P.