Mae Ystâd Elan yn bwysig yn genedlaethol am ei hamrywiaeth o blanhigion is (mwsoglau, llys yr afu, cennau, rhedyn a ffwng). Mae’r coetiroedd hynafol hanner-naturiol ymhlith y gorau ym Mhrydain ac maent i gyd wedi’u dynodi fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r corsydd ar yr uwchdiroedd a’r lleidiau hefyd yn bwysig iawn ar gyfer y bywyd gwyllt. Mae nifer o ddolydd gwair sy’n llawn o rywogaethau ar yr Ystâd o’r math sy’n unigryw i rannau o uwchdiroedd Cymru.
Mae un deg chwech math o goed llydanddail yn tyfu ar y clogwyni uwchben y Ganolfan Ymwelwyr gan gynnwys y Gerddinen Wen Saesneg prin. Mae llawer o gynefin Ffridd ar y bryniau (draenen wen/criafolen/bedwen sydd yn wasgaredig ar y bryniau serth), ac sy’n cynnal ardaloedd i blanhigion megis mwg y ddaear dringol a’r pryfyn prin gwiddonyn mwg y ddaear. Mae’r ddraen wen a’r criafolennau ar y llethrau mwyaf serth yn cynnal digonedd o fwyd hydrefol i adar megis y fronfraith adeingoch, bronfraith yr eira a mwyalchen y mynydd. Mae’r coed Bedw gyffredin aeddfed yn creu cynefin i’r gwyfyn Cliradenydd Cymreig prin sy’n dibynnu arno.
Mi fasai’r bywyd planhigion cyfoethog yng Nghwm Elan yn rhoi nifer o oriau o ddarganfod difyr i’r botanegwr brwd. Mae nifer o ddigwyddiadau ymlaen yn ystod y flwyddyn, sy’n rhoi cyfle gwych i weld ac i ddysgu am fywyd rhai o’r planhigion cyffrous sydd o gwmpas.
Bu dirywiad dychrynllyd o 95% o wair gwaun y DU ers yr 1940au yn y DU. Mae dalgylch Cwm Elan yn gallu brolio amrywiaeth gwych o wair gwaun hyfryd ar ochrau’r uwchdiroedd, sy’n cael eu rheoli yn debyg iawn fel yr oeddent am ganrifoedd. Yma ar yr Ystad mae amaethyddiaeth dal heb ddatblygu ac mae ffermwyr yn dal i ffermio o fewn cyfyngiadau’r tirwedd a’r tywydd. Mae’r gwair gwaun yn cael ei reoli’n ofalus er mwyn gwarchod yr amrywiaeth eang o flodau gwyllt sy’n cynnwys y Pysen y Coed prin, Cronnell, Tegeirian Llydanwyrdd Mawr a’r Tegeirian Pêr, a dau redynen ryfedd, Rhedyn Tafod y Neidr a’r Lloer-Redynen. Mae mwy na 300 math o blanhigion blodeuol wedi’u cofnodi. Nifer tebyg o gennau, a’r un faint eto o fwsoglau a llys yr afu yn gyfuno
Mae deg math o degeiriannau wedi’u cofnodi yn tyfu yma: Tegeirian Pêr, Tegeirian Cynnar y Gors, Caineirian Bach, Tegeirian Brych, Tegeirian Brith y Rhos, Tegeirian Porffor y Gwanwyn, Tegeirian y Gors, Tegeirian Llydanwyrdd Mawr a Bach ac yn ddiweddar cofnod newydd o Degeirian Bach Gwyn unigol.
Ar yr ardaloedd sydd â thir pori parhaol er mwyn cadw’r gwair yn fyr neu ar bridd teneuach, fe welwch wynebau hapus Fioled y Mynydd yn eich cyfarch. Ceir man hyfryd ar ochr y ffordd rhwng Argae Penygarreg a Craig Goch, wrth i chi fynd o amgylch y tro heibio planhigfa conwydd Gwaelod Y Rhos. Mae’r blodau bach yma bron i gyd yn felyn mewn lliw er bod cofnodion o fioledau gyda phetalau melyn a phorffor. Ar yr un math o bridd, ac ardaloedd pori eraill, fe allwch weld blodyn bach melyn arall o’r enw Tresgl yr Eithin, sy’n adnabyddus oherwydd bod ganddo 4 petal mewn siap sy’n debyg i groes. Darganfyddwyd yn ddiweddar bod y blodyn yma yn cynnal rhai cytrefi “gwybyddus” o Wenynen Durio Tresgl yr Eithin (Rhywogaeth Cynllun Gweithredu bioamrywiaeth).
O fewn ein coetiroedd yn ystod mis Mai ceir arddangosfa hyfryd o Glychau’r Gog, Suran y Coed a Blodau’r Gwynt.
Ar ein gwlypdiroedd cymysg o borfa corsog y Rhos neu yn y llaciau, ceir digonedd o flodau megis Briwydd y Gors, Clafrllys y Cythraul, Melyn y Gors, Brecïau Louse, Llysiau’r Llaeth, Cronelli, Llafn y Bladur, Ffa’r Gors, ac Ysgallen y Ddôl. Mae’r llaciau hyn yn cynnwys amrywiaeth o blanhigion megis Chwys yr Haul pryfysol a’r Tafod y Gors. Mae Plu’r Gweinydd Unben a’r Cotwm Corcwydd yn werth eu gweld o fewn yr ardaloedd gwlypach wedi’u cymysgu â rhywogaeth migwyn y mwsoglau sy’n amrywiol a lliwgar. Mae Crinllys y Gors yn hoffi’r ardaloedd glwyb o ddaear corsog sy’n planhigyn bwyd i’r Brith Perlog Bach. Mae gloÿn byw Britheg yn cael cael eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Cwm Elan.
Mae’r gwair doldir yn glwtwaith o flodau prydferth. Mae’n cynnwys Cribell Wair, Dant y Llew lleiaf, Arian Gwynion, Botasen y Gog, Llysyrlys, Ffacbysen Unionsyth; dim ond ychydig yw’r rhain o rif sy’n rhy niferus i’w henwi.
Mae’r rhostiroedd yn gynefin gwerthfawr arall ar Ystâd Cwm Elan ac o’u mewn ceir casgliad arbennig arall o blanhigion arbenigol. Mae’r grug cyffredin a’r grug clochog yn rhoi arddangosfa ysblennydd o borffor trwy fisoedd Awst a Medi ar ochrau ac ar frigau’r bryniau. O fewn y grug mae llus sy’n darparu aeron i’r bywyd gwyllt yn ystod yr hydref (ac sy’n boblogaidd iawn gyda’r plant sy’n ymweld, sy’n eu casglu nes bod eu cegau a’u bysedd wedi’u lliwio’n borffor wedi’r holl wledda). Pe baech yn gwahanu’r grug neu fonion yr aeron fe fyddech yn darganfod haenen trwchus o fwsogl. Mae dau math o fwswgl pluog gyda bonion coch amlwg. Pe baech yn gwahanu’r canghennau mae’r mwsogl yn debygol i fod â bonion coch y mwsogl pluog, ac os oes sawl cangen ar y canghennau yna fe fyddai’n mwsogl y coed tywynnol. Mae gan y rhostiroedd hyn gymuned o adar nodweddiadol ac fe allwch weld crec penddu’r eithin, misglen y morfa, ehedydd, cudyll bach, grugiar coch, tylluan glustiog a’r conrnicyll aur.
Un o’r blodau prydfertha, ac ar raddfa fyd eang un o’r rhai prinna i’w gweld, yw’r clychlys eiddewddail sy’n eithaf cyffredin ar hyd rhai o’r nentydd glwyb mwsoglyd yng Nghwm Elan. Mae’n flodyn bach iawn gyda maint y blodau tua chwarter maint botasau’r gog ac o liw glas golau iawn. Yn Ynysoedd Prydain mae ond i’w gael yng Nghymru, Dyfnaint a Chernyw.
Mae’r Gronnell yn flodyn amlwg a hudol a ddylai cael ei enwi ymhlith blodau arbennig Cwm Elan. Mae wedi prinhau o fewn Sir Faesyfed ac ar yr Ystâd, gydag ond un boblogaeth iach nawr i’w cael yn y cwm. Mae’n tyfu’n eithaf uchel a chadarn mewn gorlawn gwlyb ac mae’n hyfryd i weld siap pelen aur pennau’r blodau yn siglo yn y gwynt yn ystod mis Mai hyd fis Gorffennaf. Mae’n aelod o deulu blodau’r ymenyn ac yma mae i’w gweld yn ei leoliad mwyaf deheuol yn y DU. Mae ei ddirywiad o bosibl yn ganlyniad nifer o ffactorau, o bori, draeniad y tir i newid hinsawdd. Mae’n Gynllun Rhywogaeth Gweithredu Bioamrywiaeth i’r Ystâd.
Ar gopaon ucha’r Ystâd mae ambell i bwll mynydd lle mae’r cynefin dros 500m sy’n agored i’r elfennau llym, ac yn lecyn arall o ddiddordeb. Dyma ran o’r tirwedd ar gyfer ychydig o blanhigion arbenigol sy’n gallu goroesi, ac yma ceir yr unig lynnoedd yn Sir Faesyfed lle gwelir Bidoglys y Dŵr. Mae wedi’i wreiddio’n gadarn yn yr ardaloedd graeanog ar ymylon y llynnoedd ac yn ystod misoedd yr haf daw sbigynnau tal y blodau allan o’r dŵr gyda llond llaw o flodau tiwbaidd glas golau.
Mwsoglau a llys yr afu
Fe elwir Mwsoglau, Llys yr Afu a Chyrnddail gyda’i gilydd yn Bryoffytau. Maent yn nodweddiadol yn wyrdd (maent hefyd yn frown/oren a choch hefyd yn enwedig y Migwyn), ac maent fel arfer yn fach ac yn cael eu hystyried yn un o’r planhigion mwya syml sy’n byw ar y tir. Maent yn syml oherwydd nid oes ganddynt hadau (sy’n cael eu lledaenu fel sborau), nid ydynt yn cynhyrchu blodau ac nid oes ganddynt unrhyw ffordd o gario dŵr na maetholion. Nid oes ganddynt wreiddiau ond gwreddflew sy’n ffrufiannau tenau fel gwreiddiau sy’n eu glynu i’r arwyneb ac yn amsugno dŵr.
Ceir digonedd o Fryoffytau yng Nghwm Elan oherwydd eu bod yn ffynnu mewn amodau gwlyb a llaith (er bod nifer wedi addasu i gynefinoedd sychach). Mae llawer o’n tirwedd yn cynnal mwsoglau ac maent i’w darganfod mewn coedtiroedd, glaswelltiroedd, corsydd, creigiau, mwynfeydd, gorlawndiroedd yr uwchdiroedd, i mewn neu ger cyrsiau dŵr neu gronfeydd dŵr.
Maent yn gytrefwyr mewn pridd llwm a chreigiau, ac yn gymorth i rywogaethau eraill i sicrhau tyfiant. Mae Mwsoglau a Llys yr Afu yn haeddu golwg agosach, ac o dan chwyddwydr maent yn brydferth iawn. Maent yn gallu helpu i ffurfio ein mawnogydd ac yn ystod blynyddoedd y rhyfel casglwyd mwsoglau o Ganolbarth Cymru a’r cwm er mwyn gwarchod clwyfau. Mae gan Fwsoglau budd ehangach ar gyfer cymdeithas; oeddech chi’n gwybod bod migwyn yn gydran bennaf mawnogydd ac yn gallu dal cymaint ac ugain gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr, ac mae’n gydran ddefnyddiol mewn rheoli llifogydd. Mae canran mawr o garbon o fewn y mawnogydd sy’n help yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
O fewn y coetiroedd, ddim yn bell o’r Ganolfan Ymwelwyr neu’r Ystafell De ym Mhenybont, ceir digonedd o fwsoglau megis y fforchfwsogl (Dicranum scoparium), mwsogl blewog bach (Rhytidiadelphus loreus) a’r Mwsogl Step (Hylocomium splendens). Yn y mannau mwyaf llaith ceir nifer o lys yr afu bach megis y Fingerwort Ymlusgol (Lepidozia reptans) a’r Plufwsogl Mawr (Plagiochila asplenioides).
Peidiwch ag anghofio eich arweinlyfr bywyd gwyllt er mwyn gweld yr amrywiaeth gwahanol y gallwch chi ddarganfod.