Ymunwch â Sorcha Lewis, sy’n frwd dros fywyd gwyllt lleol i ddysgu am ryfeddodau ein bywyd gwyllt nosol. Bydd Sorcha yn archwilio gyda chi fyd nos hynod ddiddorol ein gwyfynod, ystlumod, tylluanod, mamaliaid a sut y gallwch ddarganfod mwy am y rhywogaethau mwy swil a gwibiog hyn.

Byddwn yn mynd am dro gyda’r cyfnos, gan ddefnyddio datguddwyr ystlumod a’n synhwyrau ein hunain i weld beth allwn ni ei ddarganfod yng nghoedwig Cnwch y tu ôl i Bentref Elan. Yn ôl yn y cynhesrwydd, byddwn yn edrych ar ffilm trailcam wrth i Sorcha esbonio mwy am y creaduriaid hynod ddiddorol hyn a’u cynefinoedd.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae angen archebu lle ymlaen llaw. Archebwch yma.

Newyddion

Prosiect Monitro Gylfinirod gan Wirfoddolwr

30th Tachwedd 2024

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a hoffai ein helpu i fonitro’r gylfinir (curlew) hardd. Credir bod y niferoedd yn gostwng ar gyfradd o oddeutu 6% y flwyddyn sy’n golygu y gallent o bosibl ddiflannu erbyn 2030.

Gwaith i Wella’r Bont

04th Hydref 2024

Llwybr Cwm Elan ar gau rhwng y Garreg Ddu a Phenbont 14 Hydref i 31 Hydref 2024 Oherwydd gwaith i wella dwy bont ar Lwybr Cwm Elan ym…