Dydd Sadwrn 12 – Dydd Sul 27 Ebrill

Mae Bwni’r Pasg wedi bod yn brysur yn cuddio wyau ar draws yr ystâd! Allwch chi ddod o hyd iddyn nhw?

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich Taflen Antur, defnyddiwch y cliwiau i ffeindio’r wyau Pasg cudd, a chasglwch eich gwobr Pasg ar y diwedd.

Yn cynnwys:

  • Map gyrru – I ffeindio’ch ffordd o gwmpas yr ystâd
  • Map Antur – I’ch helpu chi i ddod o hyd i’r wyau cudd
  • Pensil – I gofnodi’r cliwiau ar hyd y ffordd

Mae’r gweithgaredd yma ar gyfer plant a theuluoedd yn bennaf, ond croeso i oedolion ymuno yn yr hwyl hefyd!

£2.50 y plentyn

Newyddion

Prosiect Monitro Gylfinirod gan Wirfoddolwr

30th Tachwedd 2024

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a hoffai ein helpu i fonitro’r gylfinir (curlew) hardd. Credir bod y niferoedd yn gostwng ar gyfradd o oddeutu 6% y flwyddyn sy’n golygu y gallent o bosibl ddiflannu erbyn 2030.