Ar benwythnos Gwylio Adar yr Ardd  yr RSPB, byddwn yn cynnal digwyddiad bach yng Nghwm Elan i’ch helpu i wella eich sgiliau adnabod adar.

Bydd cyfle i sgwrsio ag ecolegwyr lleol am brosiectau cadwraeth sy’n digwydd yn yr ardal, ac yna taith dywys lle byddwn yn adnabod rhai o’n hadar bach a gardd arferol. Gan gyfarfod yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, byddwn yn mynd am dro hamddenol drwy’r coed am tua awr, ac yna’n ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr am de, coffi a bisgedi!

Cofiwch wisgo’n gynnes a gwisgo esgidiau glaw neu esgidiau cryf. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.

Mae’r digwyddiad am ddim ond gofynwn yn garedig i chi archebu le fel bod gennym syniad o niferoedd.

Newyddion

Watershed / Cefndeuddwr nawr ar-lein

02nd Rhagfyr 2023

Os na fyddwch yn cyrraedd ein harddangosfa Watershed / Cefndeuddwr yng Nghanolfan y Celfyddydau Canolbarth Lloegr, gallwch ei wirio ar-lein o hyd! Ymwelodd dros 280,000 o bobl â’r…

Adnodd Addysgiadol Elan Links

11th Hydref 2023

Fel rhan o gynllun Elan Links rydym wedi datblygu adnodd addysgiadol ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r adnodd hwn yn cynnwys themâu gwahanol sy’n ymwneud â…