Ar benwythnos Gwylio Adar yr Ardd  yr RSPB, byddwn yn cynnal digwyddiad bach yng Nghwm Elan i’ch helpu i wella eich sgiliau adnabod adar.

Bydd cyfle i sgwrsio ag ecolegwyr lleol am brosiectau cadwraeth sy’n digwydd yn yr ardal, ac yna taith dywys lle byddwn yn adnabod rhai o’n hadar bach a gardd arferol. Gan gyfarfod yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, byddwn yn mynd am dro hamddenol drwy’r coed am tua awr, ac yna’n ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr am de, coffi a bisgedi!

Cofiwch wisgo’n gynnes a gwisgo esgidiau glaw neu esgidiau cryf. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.

Mae’r digwyddiad am ddim ond gofynwn yn garedig i chi archebu le fel bod gennym syniad o niferoedd.

Ty Penbont Gwely a Brecwast

Ty Penbont Gwely a Brecwast Wedi’i leoli yng nghanol Ystâd Cwm Elan, mae Tŷ Penbont yn cynnig seibiant perffaith i ffwrdd o fwrlwm bob dydd. P’un a’i am…

Sleeps
Sleeps 11
Beds
5 bedrooms
Bathrooms
CY - Ensuite rooms bathrooms
Board
CY - B&B
Ideal for cycling
Ideal for cycling
Ideal for walking
Ideal for walking
Pet friendly
Pet friendly

6 eiddo wedi’u lleoli mewn 70 milltir sgwâr o dirwedd Cymru, yn barod i chi archwilio.

Cerdded, beicio, syllu ar y sêr neu dim ond ymlacio. Cliciwch ar y botwm isod i ddarganfod beth allwch chi ei wneud yn ystod eich arhosiad heddychlon yng Nghwm Elan.