Darganfyddwch awyr dywyll fythgofiadwy Cwm Elan gyda sgwrs ar thema seryddiaeth gan Peter Williamson (FRAS) ac ychydig o syllu ar y sêr

Cyfarfod yn Nhŷ Penbont am fwffe a sgwrs ar thema seryddiaeth gan Pete Williamson (FRAS) ac os bydd yr awyr yn glir, awn i fyny i’r Cwtsh Cosmig, ein safle arsylwi ar ben bryn, i gael syllu ar y sêr.

Rhaid cadw lle gan fod niferoedd yn gyfyngedig. Sylwch, mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer pobl 11 oed a hŷn. Oherwydd natur y lleoliad syllu ar y sêr, dewch â fflachlamp, dillad cynnes a gwisgwch esgidiau cadarn. Cyfarfod yn Nhŷ Penbont am 7yh.

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae’n rhad ac am ddim. Archebwch docynnau yma.

Newyddion

Adnodd Addysgiadol Elan Links

11th Hydref 2023

Fel rhan o gynllun Elan Links rydym wedi datblygu adnodd addysgiadol ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r adnodd hwn yn cynnwys themâu gwahanol sy’n ymwneud â…

Gŵyl Archaeoleg a Hanes

10th Awst 2023

Cynhaliwyd Gŵyl Archaeoleg a Hanes Cwm Elan y penwythnos diwethaf, penwythnos gwych drwy’r oesoedd. Cafodd yr ymwelwyr, a deithiodd o bob rhan o’r DU i fynychu’r ŵyl, gydag…