Rydym wedi cael blwyddyn dda yn arolygu ffermydd a rhostiroedd yn y cwm y tymor hwn, gydag eraill yn ymuno â ni wrth i ni gasglu data: y Gwasanaeth Gwybodaeth Fiolegol (BIS), Grwpiau Fflora Maesyfed a Sir Drefaldwyn, Cymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon (BSBI) a’n gwirfoddolwyr ein hunain. Mae Bioblitzes wedi digwydd ar fferm Penygarreg a Neuadd Fach a chyfarfu’r BSBI ym Mhont ar Elan gyda’n staff a grwpiau fflora lleol y mis hwn.

Mae gan Neuadd Fach rai clystyrau da o fforest law dymherus – monitrodd Joe Price flychau nythu yma yn y gwanwyn a chanfod bod 64% o’r blychau wedi’u meddiannu gan y gwybedog brith. Cofnododd Hazel Lee nifer o wybedog mannog yn ystod ein bioblitz ym mis Awst. Cofnododd Hazel a Joe hefyd fras y cyrs, y tingoch, y titw cynffon hir, y wennol, delor y cnau, y gog a’r dringwr bach y tymor hwn. Yn y cyfamser, nododd Hsin-Jung Lu 15 o gofnodion pryfed ar y bioblitz ym mis Awst gan gynnwys y tri cheiliog rhedyn: sioncyn y gwair, maes a gwyrdd cyffredin ynghyd â’r gwyfyn brithyn bach tramor. Cofnododd Fiona Gomersall gydag eraill 78 o blanhigion fasgwlaidd gan gynnwys fioled y gors, brigwellt y gwanwyn a’r brenwen a’r hesgen gynnar.

Gwelodd y bioblitz ym mis Mehefin, a oedd yn canolbwyntio ar chwilio am y tegeirian llydanwyrdd bach prin, yr arbenigwyr yn edrych ar adar a phryfed hefyd. Cofnododd Rob Davies a Julia Harrison 22 o rywogaethau o adar gan gynnwys y tingoch, telor helyg, tinwen y garn, telor penddu a chorhedydd y coed ac ymhlith y pryfed: chwilod y tegeirian a’r cardwenynen gyffredin. Yn anffodus, ni lwyddwyd i weld ailymddangosiad y tegeirian llydanwyrdd eleni, ond fe wnaethom gofnodi 97 o blanhigion fasgwlaidd gan gynnwys dant y pysgodyn nad oedd wedi’i weld yno ers 40 mlynedd, yn ogystal â’r hesgen welw, hesgen ddeulasnod a’r hesgen bengron a hefyd y clefryn sydd i gyd yn rhywogaethau planhigion anghyffredin. Roedd y ffacbysen chwerw, rhywogaeth brin yng Nghymru, yn edrych yn arbennig o ysblennydd yn Rhos yr Hafod.

Roedd yr arolwg botanegol o amgylch Pont ar Elan (Tymawr ac Esgair Rhiwlan) yn canolbwyntio ar gofnodi tegeirian bach y gors, ond yn anffodus ni chafwyd hyd iddo gan ei fod yn rhy sych, ond roedd gan yr 17 arbenigwr 3 chofnod hectad newydd (102 km) ar gyfer clwbfrwynen arnofiol, dyfrforonen fach a hesg hybrid. Cawsant ddiwrnod gwych yn pysgota am blanhigion dyfrol yn Afon Elan ac yn chwilio’r gwahanol gorsydd a llaciau lle daeth rhywun o hyd i drilliw y mynydd. Daeth y diwrnod i ben ar fferm Troedrhiwdraen lle’r oedd brwdfrydedd mawr i weld ysgallen y ddôl a chronellau a lle sefydlwyd hectad newydd ar gyfer y bengaled gochddu.
Fiona Gomersall, Ecolegydd