Byncws Cwm Clyd

Mae gan ein llety eang at bwrpas, bopeth sydd angen arnoch i gael amser da yn ystod eich arhosiad yng Nghwm Elan. Mae’r llety hunan arlwyol yn groesawgar a chyffyrddus gyda chyfleusterau wedi’u cynllunio’n addas sy’n eich galluogi i ymlacio ar ôl diwrnod yn yr awyr agored. Mae’r ardd heddychlon yn cynnig lle perffaith i fwynhau’r nosweithiau gyda lle i eistedd tu allan, a ffwrn cob.

Mae’r adeilad byncws yn cynnwys tri adeilad:

Mae gan y prif adeilad gegin wedi’i gynhesu’n llawn gyda ffwrn Rangemaster, ardal fwyta gyda llosgwr pren, un ystafell wely mynediad i gadair olwyn a chawodydd/ystafelloedd ymolchi. Sylwch nad oes cyfleusterau dynion/menywod ar wahân.

Mae’r ddau adeilad arall yn ardaloedd cysgu, a enwir y Cartws (cysgu chwech mewn dwy ystafell) a’r Tŷ Hir (cysgu 14 mewn tair ystafell y gellir eu cloi).

Felly, gall y safle cyfan gynnwys cyfanswm o 21 o bobl dros chwe ystafell, gan gynnwys yr ystafell wely mynediad i gadeiriau olwyn.

Gellir archebu’r Carthouse a’r Longhouse fel dau lety ar wahân.

Mae lleoliad Y Byncws yn hwylus ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau yn yr awyr agored megis cerdded, seiclo a physgota, ac yn berffaith ar gyfer syllu ar y sêr ym Mharc Wybren Dywyll Cwm Elan. Rydym yn cynnig awyrgylch ymlaciol gyda golygfeydd godidog a rhywbeth at ddant pawb.

Mae’n berffaith ar gyfer grwpiau o ffrindiau neu ar gyfer dau deulu yn dod at ei gilydd.

Y Tŷ Hir:

Y Tŷ Hir cyfan: £300
Ystafell sy’n addas ar gyfer cadair olwyn: £17 (ond i’w logi wrth fwcio’r Cartws neu’r Tŷ Hir ac nid ar gyfer un person yn unig)

Archebwch nawr:

Your widget will appear here.

Y Cartws:

Y Cartws cyfan (2 ystafell) – hyd at 6 o bobl: £128
Ystafell sy’n addas ar gyfer cadair olwyn: £17 (ond i’w logi wrth fwcio’r Cartws neu’r Tŷ Hir ac nid ar gyfer un person yn unig)

Archebwch nawr:

Your widget will appear here.

Byncws Cwm Clyd

Our spacious, purpose-built group accommodation has all you need to make the most of your stay in the Elan Valley

Sleeps
Sleeps 21
Beds
6 bedrooms
Bathrooms
3 bathrooms
Board
CY - Self-catering
Ideal for cycling
Ideal for cycling
Ideal for walking
Ideal for walking
Ideal for star gazing
Ideal for star gazing
Pet friendly
Pet friendly

Adeiladu’r Argae

Adeiladwyd yr argae mewn dwy ran, yr adeiladwaith cyntaf yng Nghwm Elan ac yn hwyrach y Claerwen. Adeiladwyd syflaen argae Dôl y Mynach, yn Nyffryn Claerwen, yn rhan un…

Swyddi

Glanhawr Rydym yn chwilio am berson cyfeillgar a gweithgar i ymuno â’n tîm prysur fel glanhawr ar gyfer ein gwahanol letyau gwyliau o fewn Cwm Elan. Bydd y…

Ymddiriodolaeth Cwm Elan

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cwm Elan (Ymddiriedolaeth Dŵr Cymru gynt; Rhif Elusen 1001347) gan Dŵr Cymru Welsh Water, mewn cytundeb â’r Llywodraeth, ym 1989.  Gyda ffurfiant yr ymddiriedolaeth elusennol rhentiodd…

Lle i syllu ar y sêr

Hoffech chi brofi hud yr wybren nos yng Nghwm Elan?  Dyma bum safle i chi ymweld â nhw ar Ystâd Elan: Maes Parcio Claerwen Maes Parcio Craig Goch…

Cysylltu

Angen cysylltu â ni? Ffoniwch ni drwy’r wybodaeth gyswllt isod neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein.