Adeiladu’r Argaeau

Home » Treftadaeth » Cronfeydd ac Argaeau » Adeiladu’r Argae

Ym 1893 dechreuwyd ar y gwaith adeiladu. Bu rhaid i 100 o ddeiliaid symud, gydag ond y tirfeddianwyr yn derbyn iawndaliadau. Dymchwelwyd llawer o adeiladau: y ddau dŷ gwledig Cwm Elan a Nantgwyllt yn ogystal â 44 o dai i gyd, gan gynnwys 18 o ffermydd, ysgol ac eglwys a gafodd ei disodli gan y gorfforaeth fel Eglwys Nantgwyllt. Adeiladwyd rheilffyrdd er mwyn cludo’r gweithwyr a miloedd o dunelli o ddeunydd adeiladu bob dydd. Cymerodd y gwaith adeiladu hwn dair blynedd! Adeiladwydpentref o gytiau prenyn unswydd ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithwyr ar safle presennol Pentref Elan.

Wrth i’r gweithlu cyrraedd, treulia’r gweithwyr newydd noson mewn tai clwydo er mwyn cael gwared â’r llau a chael eu harchwilio am glefydau heintus, dim ond wedi hyn roeddynt yn gallu croesi’r afon i’r pentref. Roedd dynion sengl yn byw mewn grwpiau o wyth mewn tŷ teras ac yn rhannu gyda gŵr agwraig. Darparwyd ysgol ar gyfer y rhai o dan 11, ac ar ôl hynny roedd disgwyl iddynt weithio. Cyflogwyd gwarchodwr i sicrhau na fyddai gwirodydd anghyfreithlon yn dod i mewn nac ymwelwyr heb awdurdod. Roedd ysbyty ar gyfer anafiadau ac ysbyty heintiau. Roedd dynion yn gallu defnyddio’r bathdy hyd at dair gwaith yr wythnos, ond dim ond unwaith i’r menywod! Gallai’r ffreutur wasanaethu fel tafarn ond fe’i cedwid ar gyfer dynion yn unig. Roedd cyfleusterau eraill yn cynnwys llyfrgell, neuadd gyhoeddus a siop. Roedd hyd yn oed goleuadau ffyrdd (a yrrwyd gan generadur hydro-electrig).

Adeiladwyd yr argae mewn dwy ran, yr adeiladwaith cyntaf yng Nghwm Elan ac yn hwyrach y Claerwen. Adeiladwyd syflaen argae Dôl y Mynach, yn Nyffryn Claerwen, yn rhan un gan fyddai’r safle wedi gorlifo unwaith i Gaban Coch lanw. Roedd cerrig lleol ond yn addas ar gyfer y tu mewn i’r argaeau, felly cludwyd y cerrig ar gyfer yr wyneb a naddwyd â llaw o Forgannwg. Ar 21ain o Orffennaf 1904 agorwyd argaeau Elan gan y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra a dechreuodd y dŵr llifo ar hyd y 118km blaenbeip i Birmingham. Cost holl gynllun Elan oedd £6 miliwn a chyflogwyd cyfanswm o 50,000 o ddynion. Tynnir dŵr oddi wrth Dŵr y Foel i weithfeydd trin dŵr Severn Trent. Caiff ei lanhau gan welyau tywod ffiltrau disgyrchiant cyflym ac ychwanegir clorin, fflworid a chalch (er mwyn niwtraleiddio’r dŵr asidig). Mae argae suddedig Garreg Ddu yn dal y dŵr yn ôl i fyny’r afon er mwyn gallu tynnu’r dŵr o Dŵr y Foel. Saif Tŵr y Foel 52m uwchben Cronfa Ddŵr Frankley yn Birmigham. Mae graddiant y draphont sy’n eu cysylltu ar gyfartaledd 1 yn 2,300, sy’n caniatáu i’r dŵr lifo trwy ddisgyrchiant yn unig.

Yr Argae Suddedig

Mae’r argae wedi ei foddi yn Garreg Ddu yn dal dŵr yn ôl ar yr ochor i fyny’r afon fel bod modd cloddio dŵr yn Nhŵr y Foel bob amser. Mae gwaelod Cronfa Caban Coch yn rhy isel i ganiatáu i ddŵr gael ei gludo drwy ddisgyrchiant i Birmingham. Byddai echdynnu oddi yma angen pympiau.

Traphont Ddŵr Cwm Elan

Roedd darparu llawer iawn o ddŵr o Ddyffryn Elan i Birmingham drwy fryniau a chymoedd afonydd yn ymgymeriad enfawr ac, yn wahanol i adeiladu’r argaeau, cafodd ei wneud gan gontractwyr allanol mewn adrannau penodedig sy’n dechrau yn 1896. Cynhaliwyd y llif parhaus cyntaf o ddŵr drwy’r draphont ddŵr ar 28ain Gorffennaf 1904, wythnos ar ôl agoriad swyddogol y system gan y Brenin Edward VII.

Mae’r dŵr o gronfeydd Cwm Elan yn dechrau ei daith yn Nhŵr y Foel, ychydig tu ôl i draphont Garreg Ddu. Yma, mae’r dŵr yn llifo trwy sgriniau er mwyn cael gwared ar ddarnau mawr o falurion cyn llifo i dwnnel brics 2km i gyfres o 30 o welyau hidlo. Nid oedd y gwelyau hidlo hyn yn rhan o’r cynlluniau gwreiddiol ond cawsant eu cynnwys ar ôl i flociau ddigwydd mewn system debyg a oedd yn cyflenwi Lerpwl. Er mwyn bodloni’r graddiant gofynnol (1:2300) i gyflenwi dŵr i Birmingham gan ddefnyddio disgyrchiant yn unig, bu’n rhaid adeiladu’r gwelyau hidlo yn uchel ar ochr y bryn i’r dwyrain o Caban Coch ar draul ychwanegol sylweddol.

Ar ôl cael ei hidlo o falurion, mae’r dŵr yn parhau ei daith drwy’r draphont ddŵr tuag at Birmingham drwy system o dunnelli, gwaith ‘torri a gorchuddio’ a phibellau haearn a dur. Yn hytrach na dilyn llinell syth, mae’r draphont ddŵr yn dilyn cyfuchliniau’r tir am 118km, gan ollwng 52m yn unig cyn cyrraedd ei gyrchfan yng Nghronfa Ddŵr Frankley yn Birmingham ar ôl tua 3 diwrnod.

Dim ond ychydig sydd i’w weld o’r draphont ddŵr heddiw heblaw am y llu o adeiladau gwasanaeth brics coch sydd wedi’u lleoli ar hyd y llwybr a’r pontydd addurnedig lle mae’n croesi dyffrynnoedd afonydd.

Mae 68 miliwn litr o ddŵr bob dydd yn llifo i Afon Elan o Gaban Coch. Gall hyn gynyddu i 232 miliwn litr y dydd er mwyn sicrhau bod De Cymru yn gallu manteisio ar y dŵr gan fod Afon Elan yn llifo i Afon Gwy a gellir trosglwyddo’r dŵr mewn cyfnodau o brinder. Caiff dŵr ei dynnu o gronfa ddŵr Caban Coch i weithfeydd trin dŵr Dŵr Cymru sy’n cyflenwi’r ardal leol. Gall ar gyfartaledd 360 miliwn litr o ddŵr y dydd ei dynnu o Gwm Elan er mwyn cyflenwi Birmingham. Ar ôl cwblhau Argae Claerwen bu bron dwywaith y cyfanswm o ddŵr ar gael i Birmingham.

Fe fu oedi ar adeiladu’r ail ran o’r argaeau oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Dechreuwyd ar y gwaith ym 1946, a golygodd y cynnydd mewn peirianneg y gellid adeiladu un argae mawr yn hytrach na thair llai. Adeiladwyd y Claerwen gyda choncrit ond gydag arwyneb o gerrig er mwyn cysoni â’r argaeau hŷn. Gwnaed y gwaith maen gan 100 o seiri meini o’r Eidal gan fod y rhan fwyaf o seiri meini Prydain yn gweithio ar ailadeiladu’r Tŷ’r Cyffredin ac adeiladau eraill a dinistriwyd yn ystod y rhyfel. Roedd cyfanswm o 470 o ddynion yn gweithio ar yr argae yma, yn byw yn y gymuned leol gyda phob cludiant ar y ffyrdd. Cwblhawyd yr argae ym 1952 ac fe’i agorwyd gan y Frenhines Elizabeth II ar 23ain o Hydref yn yr un flwyddyn.