Prosiect Ymchwil Gwellt y Gweunydd

Ein tîm mawndir; mae Iona, Ben, Hsin a Lois yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU ar brosiect ymchwil i’n helpu ni i ddeall yn well yr effeithiau y gallai gwair brodorol, Gwellt y Gweunydd, eu cael ar ein mawndiroedd.

Mae Gwellt y Gweunydd yn wair sydd i’w weld yn naturiol mewn mawndiroedd, serch hynny yng Nghwm Elan rydym ni’n profi Gwellt y Gweunydd dwys sy’n dominyddu, yn hytrach nac ardaloedd llai ohono ymhlith llystyfiant arall, megis Grug, Llus, Plu’r Gweinydd, Llafn y Bladur, Hesg a mwsoglau Migwyn. Mae’r holl blanhigion hyn yn gyffredin ar fawndir iach

Delwedd: Gwellt y gweunydd, yn edrych dros Ddrygarn Fawr.

Mae’n weddol anarferol canfod Gwellt y Gweunydd mor ddwys mewn unrhyw dirlun, felly mae’r timau ymchwil wedi llunio cynllun i geisio pennu a yw Gwellt y Gweunydd yn cael effaith negyddol ar ein mawndiroedd mewn perthynas ag allyriadau carbon. Gwyddom yn barod bod gormod o Wellt y Gweunydd yn gallu stopio planhigion eraill rhag tyfu o’i amgylch, gan fod Gwellt y Gweunydd yn tyfu’n uchel mewn ‘twmpathau’ mae’n cysgodi llawer o blanhigion eraill sy’n ceisio tyfu oddi tanodd.

Delwedd: Llafn y Bladur yn tyfu ymhlith Plu‘r Gweunydd a mwsoglau.

Yn awr, er mwyn deall a yw Gwellt y Gweunydd yn achosi i’r mawndir ryddhau mwy o garbon na mawndir iach arferol, rydym wedi gosod sawl ‘ffynnon drochi’ ar draws 3 safle ar yr ystâd. Mae’r rhain yn mesur y lefel trwythiad, er mwyn i ni allu gweld faint o ddŵr sydd islaw wyneb y mawn. Hefyd, mae gennym ‘gamerâu mawn’ ar dir Ymddiriedolaeth Cwm Elan a fydd yn tynnu lluniau drwy gydol y dydd i gipio a yw’r gors yn symud i fyny ac i lawr â’r lefel trwythiant! Yn olaf, byddwn yn dosbarthu ‘coleri allyriadau’, bydd y rhain yn cael eu gosod ar y ddaear ac yn dal nwy y tu fewn iddynt.  Bydd y rhain yn dadansoddi faint o Garbon a Methan sy’n cael eu rhyddhau o’r ddaear a gallwn ei gymharu â safleoedd eraill sy’n cael eu dominyddu’n llai gan Wellt y Gweunydd.

Delwedd: Ffynhonnau trochi yn y ddaear, a pholyn fel nad ydym yn eu colli.

Mae’r ymchwil hwn yn gyffrous ac yn ddiddorol iawn, a bydd y canlyniadau sy’n deillio ohono yn ein helpu ni i greu darlun o’r tirlun er mwyn inni allu cynllunio’n well i’r dyfodol pe bai cyfle yn codi i adfer mawndiroedd yng Nghwm Elan. Felly, os welwch chi ambell beth diddorol yn y ddaear, peidiwch â phoeni, maen nhw i fod yno! Fe rown wybod i chi am gynnydd yr ymchwil hwn ac unrhyw ganlyniadau y byddwn yn eu canfod.

Y Tîm Mawn

Iona, Ben, Hsin a Lois