Alice Briggs

Am Alice

Ysbrydolir ymarfer creadigol Alice gan gymunedau, safleoedd, creu lle, a thirweddau Canolbarth Cymru lle mae hi’n byw.

Mae Alice yn hyrwyddo cysylltau ar draws sectorau (celf a ffermio, gwyddoniaeth a pherfformiad) er mwyn gwneud newid ac i gefnogi’r cymunedau yn nhirwedd wledig Canolbarth Cymru.  Mae ystyr a chyseiniant hanesyddol a symbolaidd y gwrthrychau wedi dod yn rhan ganolog o’i hymarfer trwy ei swyddogaeth fel curadur amgueddfa.

Mae Alice yn creu gwaith gyda deunydd gwahanol, yn aml o’r tirwedd o’i chwmpas.  Mae’n cael ei thynnu at astudio agweddau o hanes teuluol, gan ddefnyddio gwrthrychau a gwisgoedd a oedd yn perthyn i’w mam-gu er mwyn creu perfformiad ac i drawsnewid eitemau teuluol bob dydd.  Mae ei swyddogaeth fel mam a merch yn treiddio trwy ei gwaith trwy storïau tylwyth teg, llên gwerin a phwysigrwydd gofal.

Fe ddaeth amser Alice yng Nghwm Elan yn rhyw fath o bererindod, taith o dyfiant ac archwiliad er mwyn ailgysylltu a’i hunan mewn gwahanfa ddŵr a moment cynhyrfus yn ei bywyd.  Cyfle i ddefnyddio creadigrwydd ac amgylchedd naturiol y safle fel lle i gwestiynu, adfyfyrio a thrawsffurfio.

Mae astudio defodau a thraddodiadau’r tir, cynrychiolaethau adar ac anifeiliaid, bywyd a marwolaeth anifeiliaid a chylchrediadau bywyd yn hudo Alice, ac yn gweithredu fel iachâd o’r dicter a’r rhwystredigaeth o addewidion heb ei bodloni a bradychiadau mae wedi dioddef.  Mae’n trochi ei hunan yn y tirwedd lle mae hi’n byw, gan greu defod o’r tir trwy nofio, rhedeg a cherdded.  Mae ei throchiad yn y lle wedi’i ddal trwy lens y camera, ac yna ei brosesu trwy ffotograffiaeth amgen a chyfryngau eraill.

Mae’r gofod trothwyol rhwng yr uwchben a’r isod, ymylon y tir, ein meddyliau, ynghyd â’r ymdeimlad o fyw yng nghanol y tirwedd sydd wedi ei wreiddio yn y diwylliant Cymreig yn hudo Alice.  Mae’n cynrychioli’r ddau/a’r chwerw felys o’r hyn mae bywyd yn taflu atom ac yn drosiad o’r byd mewnol ac allanol yn ein meddyliau a’r gofod corfforol o’n cwmpas a rhyngom ni i gyd.

Yn ystod haf 2022 fe ddechreuodd Alice ar gyfres o weithgareddau cerdded/nofio perfformiadol ar draws dirwedd Cwm Elan.  Gan ymgorffori ei hunan o fewn yr afon trwy gyfres o deithiau cerdded o fewn ac o gwmpas gwely’r afon a’r dorlan.  Ffilmiwyd y teithiau cerdded/nofio gan ddefnyddio go pros a chamerâu ffilm gan ddod yn ofod ofalgar a myfyriol, lle gallai weld y cwm o bersbectif mwyaf dwfn y tirwedd.  Fe aeth y teithiau cerdded ag Alice o dan bontydd a thrwy geunentydd, gan ddechrau trwy gynnwys ymwelwyr i’r cwm, a’u syndod wrth iddi ymddangos allan o’r afon o’u blaen.  Mae gan Alice ddiddordeb mewn hyrwyddo mannau cyswllt, a’r cydweddiadau a phroblemau’r afon yn rhannu, a’r bont gysylltiol o ddiddordeb fel trosiad wrth iddi barhau i archwilio.

Fe ddefnyddiodd Alice ei chyfnod preswyl yn y cwm yn archwilio’r ardal gyda’i rhieni a’i phlant, ond yn enwedig gyda’i thad, gan drafod hanes/archeoleg/diwylliant y tir ac atgofion personol o Gwm Elan.

Fe gerddodd gyda’i thad, archeolegwr, trwy fanau tramwy’r tirwedd dros Gwm Elan gan archwilio gwaelod yr argae gyda’i phlant a’i rhieni yn ystod yr haf.  Fe wnaethant ymweld â sylfeini gardd lysiau plasty Nant Gwyllt a ddaeth i’r amlwg yn ystod lefelau isel y dŵr yn ystod yr haf, gan ail greu moment yn ei phlentyndod pan ymwelodd â’r safle gyda’i rhieni a’i thair chwaer.  Roedd gan Alice frith gof am bridd sych, cracellu ar lawr y cwm, a ddaeth yn foment pwysig yn cysylltu’r gorffennol a’r presennol.  Uwchben ac isod, lle roedd y tir a waliau gardd y plasty wedi’u datgelu ar ôl canrif o dan y dŵr.  Fe ddaeth y gofod negyddol yn bositif, gan ddatgelu atgofion anweledig ac hanesion y lle.

www.alicebriggs.co.uk

Instagram & Twitter @aliceculture