Alis Oldfield

Am Alis

Mae Alis yn artist, addysgwr ac yn ymgeisydd Doethuriaeth sydd wedi’i lleoli yn Birmigham, gyda diddordeb mewn rhwydweithiau digidol a diwylliannol, isadeiledd a throsiadol.

Mae gan Alis ddiddordeb mewn pontydd trosiadol a all cael eu hagor trwy iaith.  Rydym yn siarad am y meithriniadau sy’n bresennol yn y pridd,  yn y micro ecoleg sydd o dan ein traed.  Rydym hefyd yn siarad am ddiwylliannau dynol sy’n pasio o berson i berson a’u rhannu trwy rwydweithau ar-lein.  Mae Alis yn defnyddio’r trosiadau hyn yn ei hymarfer wrth ysgrifennu, gwneud ffilmiau a gwneud delweddau. 

Yn fwy diweddar, mae wedi dechrau archwilio technegau crefft – gwybodaeth sy’n cael ei rannu trwy rwydweithiau gwneuthurwyr crefftus o genhedlaeth i genhedlaeth, sydd bellach wedi mudo i rwydweithiau ar-lein byd-eang o wybodaeth arbenigol sydd bellach ar Facebook! 

Mae Alis wedi dechrau gweithio gyda pheiriant gwau sy’n rhannu hanes rhyfedd mewn cyfrifiant cynnar.  Ysbrydolodd y dechnoleg cerdyn pwn o’r Gwŷdd Jacquard cyntaf gan Ada Lovelace.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Alis wedi bod yn meithrin trosiad er mwyn ein helpu i ddeall a gwneud defnydd gwell o’r rhyngrwyd.

Mae’r we fyd eang yn creu topograffeg; rhwyll o deithio rhithwir rhyng-gysylltiedig.  Fel y Ddaear, mae ei rhith-chwaer wedi’i disbyddu wrth geisio adnoddau.  Mae cewri’r rhyngrwyd yn gweithio fel diwydianwyr amaethyddol yn cnydio ein data at elw masnachol.  Mae rhyngweithiadau ar-lein sy’n fwyfwy cyffredin yn bodoli o fewn paramedrau llym; tra bod safleoedd o ddiwylliannau rhithwir anfasnachol hunangynhaliol yn anos i’w nodi ac felly i’w hamddiffyn.

Yn fyr, mae hi’n meddwl mai’r rhyngrwyd yw’r tirwedd a bod ei phridd yn sâl.  Yn ei gwaith presennol, mae hi’n cwestiynu a allwn addasu dulliau o weithio/gofalu am y tir i fynd i’r afael â’n defnydd o’n cymheiriaid digidol. Rhoddodd y cyfnod preswyl gyfle iddi i ymdrochi yn y tirwedd go iawn er mwyn meddiannu un ffigiol o fewn ei phen! 

Wrth wneud cais am y cyfnod preswyl, dywedodd ei bod am weithio allan pa ddŵr digidol allai fod o fewn y dirwedd rhyngrwyd hon, pa ddiben y gallai ei osod o fewn e-coleg.


Fe gerddodd ger y nentydd a arweinir i mewn i’r cwm, stompio ar bocedi o ddŵr daear wrth iddi gerdded i fyny’r bryniau a gwelodd niwl isel yn symud i mewn i’r cwm, wedi’i dynnu gan siâp y dirwedd.  Ei greddf gyntaf yw i dynnu llun, dyna sut mae’n treiddio i mewn i brosiect neu le.  Fe aeth â’i llyfr cynllunio a’i phensiliau allan i’r dirwedd er mwyn tynnu lluniau o wahanol wynebau’r dŵr a’r tir roedd y dyfrffyrdd  wedi’u ffufrio dros amser.  Mae cymaint o rym i’r dŵr yn Elan fel bod y sianeli yn ddramatig a phwerus.

Hwn sydd wedi’i helpu i dynnu casgliadau am beth all dŵr fod yn y tirwedd ryngrwyd.  Dŵr, meddyliau, yw bywyd – y grym sy’n galluogi cyfnewid cellol, yn bwydo defnydd organig sy’n dod â gwyrddni a digonedd o fywyd.  Mae dŵr yn cysylltu pob peth byw, mae’n cyfrif am 60% o’n cyrff gan lifo allan a thrwom i’r rhwydwaith cylchol sy’n rhychwantu’r byd.

Daeth Alis i weld fod y dŵr yn ein ‘interranet’ yn ddata. Data yw grym cyfnewid digidol.  Mae data yn llifo allan (a thrwom), yn cael ei gludo trwy bibellau ei storio a’i cylchredeg mewn ‘cymylau’.  Fe dreuliodd Alis amser yn darllen testun allweddol, ‘Water Wars’ gan Vandana Shiva er mwyn dysgu am ddisgrifiadau byd-eang am ymyrraeth ddynol a rheolaeth dŵr.

Roedd edrych ar y dyffrynnoedd dramatig tu allan i fwthyn y preswyliad wedi ei helpu i ddod i’r casgliad fod dŵr yn ddaearffurfio’r dirwedd ac felly hefyd ein sianeli data sy’n ffurfio tir ein rhyngrwyd.

Arweiniodd yr holl syniadau hyn at gais lwyddiannus am Ddoethuriaeth, wedi ei ysgrifennu yn rhannol yn ystod y cyfnod preswyl.  Cefnogwyd hyn gan grŵp ymchwil Cultural Negotiation of Science ym Mhrifysgol Northumbria lle mae Alis bellach yn ymgeisydd cyllidol Doethuriaeth o dan oruchwyliaeth Christine Borland a Fiona Crisp.  Mae’r prosiect yn defnyddio ymarfer celf ac ysgrifennu fel ffordd o archwilio’r dirwedd drosiadol.  Mae’n defnyddio iaith crefft sy’n cael ei rannu ar draws rhwydweithiau o bobl ac sy’n aml yn gwrthsefyll y masnacheiddio mae’r byd digidol yn dioddef ohono, i siarad am hyn.  Yn benodol, mae hi’n defnyddio peiriant gwau a gwneud basgedi, y ddau yn ffurfio rhwydwaith (llinyn a ffibr) i mewn ac ynddynt eu hunain.


Ar y cyfnod preswyl, fe wnaeth Alis arbrofion ar beiriant gwau cynnar ar wely cerdyn pwn peiriant gwau.  Fe gymerodd hefyd lawer o luniau a chlipiau fideo a allai ffufio ffilm ymchwil hirach am y dirwedd rhyngrwyd hwn.  Roedd yr amser a dreuliodd yn Elan, yn cynnig cyfle i Alis i feddwl yn araf – am fyw mewn byd dychmygol, gweithio allan sut i siarad amdano, i ysgrifennu amdano ac i ddechrau ei ddelweddu trwy ddeunyddiau crefft.

www.alisoldfield.co.uk