Gareth Bonello

Am Gareth Bonello / The Gentle Good

Mae Gareth Bonello/The Gentle Good yn ysgrifennwr caneuon, cerddor ac artist recordio o fri sy’n ysgrifennu yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Adwaenir am ei alawon swynol, arddull gitar cymhleth a threfniant acwstig hyfryd, enw llwyfan y cerddor Cymreig Gareth Bonello yw The Gentle Good.  Mae Gareth yn ddehonglwr hudolus o gerddoriaeth draddodiadol ac yn un o’r ysgrifennwyr caneuon mwyaf blaenllaw sy’n gweithio yn yr iaith Gymraeg heddiw.

Derbynnydd gorffennol o’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac Albwm y flwyddyn yn yr Iaith Gymraeg, mae Gareth wedi magu enw da am gydweithio traws-ddiwylliannol.  Mae ei recordiadau gydag artistiaid o Tsieina ac o gymunedau brodorol Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India wedi ennill cymeradwyaeth rhyngwladol.  Mae’r albwm diweddaraf Galargan (Lament) yn archwiliad sydd wedi’i dynnu’n ôl o alawon traddodiadol Cymreig a ffurfiwyd yn ystod cyfnod unig y pandemig.  Mae wedi derbyn adolygiadau gwych, gan gynnwys 5 seren prin oddi wrth The Guardian.

Fel derbynnydd Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Cwm Elan am 2021-22, fe wnaeth Gareth Bonello dreulio ei amser yn dod i adnabod y dirwedd, diwylliant a chymunedau Cwm Elan. 

Treuliodd y rhan fwyaf o’r flwyddyn yn aros ym mwthyn Penygarreg, llety heb wifi, teledu, signal ffôn neu radio yng nghanol y cwm.  Yn raddedig mewn swoleg a chyn adarydd y maes, aeth ati i edrych ar fywyd gwyllt yr ardal a dechrau ymchwilio hanes lleol a llên gwerin.   Dysgodd enwau’r bryniau a’r mynyddoedd, nentydd, llethrau a gweunydd a dechreuodd gasglu casgliad o lyfrau ar amrywiaeth o bynciau am yr ardal. 

Galargan / Elan

Trwy ddysgu mwy am orffennol a phresennol Cwm Elan, roedd Gareth yn gobeithio deall yn well am hunaniaeth Gymreig gyfoes a pherthynas y genedl â strwythurau pŵer gwleidyddol y Deyrnas Unedig.  O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth newydd a ysbrydolwyd gan y cwm, gan dynnu tebygrwydd rhwng y materion a’r heriau sy’n effeithio ar Gwm Elan, y genedl Gymreig a’r gymdeithas ehangach heddiw.

Fe ddefnyddiodd Gareth ystafell sbâr yn y bwthyn fel stiwdio dros dro gan recordio deunydd newydd ynddo.  Yn ystod y flwyddyn fe wnaeth orffen trefnu a recordio albwm o ganeuon gwerin traddodiadol Cymreig o’r enw Galargan, a dechrau ysgrifennu a recordio albwm newydd Elan sydd wedi’i seilio ar ei amser yn y cwm.  Roedd unigrwydd y bwthyn yn berffaith ar gyfer y dasg, gan adael lle am syniadau newydd heb amharu ar gymdogion.

Mae nifer o ganeuon Galargan wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Cymru, yn hanes storïau am y bugeiliaid ar y bryniau a dyfodiad y gwanwyn a’r haf.  Wrth archwilio’r dirwedd a dysgu am fywydau’r bobl a oedd wedi byw yno yn y gorffennol, fe wnaeth Gareth ddatblygu cysylltiad dyfnach â’r hen ganeuon Cymreig tra’n aros ym Mhenygarreg.  Fe ddechreuodd ychwanegu penillion a lleolwyd eu storïau yng Nghwm Elan ac addasu alawon gwerin i ddarnau offerynnol â thema ar y dirwedd.

Treuliwyd llawer o amser yn cerdded ac yn dysgu enwau Cymraeg y dirwedd.  Mae nifer o’r enwau’n disgrifio gorweddiad y tir, sy’n datgelu mannau croesi dros afonydd neu nentydd, neu lwybr i’r cwm nesaf.  Mae enwau eraill sy’n datgelu hanesion lleol, coelion neu lên gwerin a llawer sy’n taflu goleuni ar symudiadau hanesyddol pobl trwy’r tir.  Gellir gweld yr enwau hyn ar fap yr ordnans wrth gwrs, ond mae cerdded y dirwedd yn argraffu’r enwau a’u hystyron yn glir ac yn bendant yn y meddwl.  Mae Gareth bellach yn gweithio ar ffordd o helpu ymwelwyr a’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg i gysylltu â’r dirwedd trwy’r iaith Gymraeg.

Cafodd Gareth gymorth yn ei hymchwil gan staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.  Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn hanes y porthmyn yn yr ardal a darganfu fod nifer o lwybrau hynafol o Geredigion i Henffordd a thu hwnt sy’n mynd yn union trwy Gwm Elan.  Gyda’r Eisteddfod yn Nhregaron yn 2022, fe welodd gyfle i gerdded yn ôl troed y porthmyn ac fe gerddodd y daith o’r cwm i Dregaron. Yn yr Eisteddfod fe wnaeth berfformio cyfres o ganeuon a gyfansoddodd yng Ngwm Elan yn y Tŷ Gwerin.

Cafodd artistiaid lleol a rhai ymhellach wahoddiad i ymweld â Gareth yn y tŷ a’r ardal gyfagos.  Roedd rhain yn cynnwys y cyfansoddwr a’r gitarydd o Sir Faesyfed Toby Hay, y cerddorion ac ysgrifenwyr caneuon Harriet Earis, Ida Wenoe, Samantha Whates ac Ivan Moult, artist gweledol Richard Chitty, artist tecstil Catherine Davies a’r artist gweledol a’r cerddor Andy Fung.  Mae llawer o’r unigolion hyn wedi cyfrannu at greu yr albwm newydd Elan.  Yn ystod ei gyfnod preswyl fe ddechreuodd Gareth berfformio rhai o’i ganeuon newydd i gynulleidfaoedd yn yr ardal a gweithio gyda Len Carter yn The Lost Arc’ yn Rhaeadr er mwyn cynnal gig ym mis Mawrth 2021.

Eleni, mae Gareth wedi bod yn gorffen y gwaith o recordio Elan mewn stiwdio yng Nghaerdydd.  Ceir caneuon am rhamanteiddio’r dirwedd Gymreig a’r problemau sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi a llety gwyliau.  Mae yna ganeuon am gopaon amlwg ac enwau llefydd Cymreig, am yr wybren dywyll ac am golli cymunedau a boddwyd o dan y dŵr.  Mae cydweithio gyda Asin Khan Langa a’i fand SAZ o Rajasthan, sy’n chwarae ar y thema o Elan fel ‘anialwch Cymru’.  Mae hyd yn oed cân am ansadrwydd gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf a’r perygl o dryllwyr, wedi’i fframio o gwmpas y chwedl am deulu lleol a oedd yn crwydro’r bryniau er mwyn dwyn oddi ar y porthmyn wrth iddynt ddychwelyd adre.  Trefnwyd i ryddhau Elan ym mis Hydref 2024.  Cafodd Galargan ei rhyddhau ym mis Medi 2023 ac mae wedi derbyn canmoliaeth uchel gan feirniaid, mae’n siwr y gellir priodoli llawer ohono i’r nosweithiau hir o aeaf y treuliodd Gareth yn mireinio’r trefniadau ym mwthyn Penygarreg.

www.thegentlegood.com

Twitter/X – @ghbonello

Instagram – @ghbonello_ffoto

TikTok – @the.gentle.good