Gweni Llwyd

Am Gweni

Mae ymarfer Gweni Llwyd yn adlewyrchu cymhlethdodau bywyd bob dydd ar draws gylchoedd cyffyrddol a digidol, sy’n amlygu byw fel rhan o fetabolaeth gyfrannol anniben.

Mae ymarfer Gweni Llwyd yn adlewyrchu cymhlethdodau eang bywyd bob dydd ar draws gylchoedd cyffyrddol a digidol – gan gymryd ciwiau o bethau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:  sioeau teledu, microbau, fideos cerddoriaeth, safleoedd megalithig, siarad mân, a chamu ar falwod yn ddamweiniol.  Trwy gydol ei gwaith mae gweu chwareus o brofiadau personol, cyfunol a mwy-na-dynol, sy’n amlygu byw fel rhan o fetabolaeth gyfrannol anniben, lle mae natur a thechnoleg yn cwympo ar ben ei gilydd.  Mae’n gweithio’n bennaf mewn gosodwaith, delweddau symudol, sain, lluniau, peiriannau gemau a cherfluniau – i bylu’r gwahaniaethau sy’n bodoli nawr, a mewn man arall, mewn amser a gofod ac i chwarae â syniadau o ffaith a ffuglen, gorffennol, presennol a’r dyfodol.

Gweni Llwyd yw artist preswyl presennol Elan Links (mis Medi – mis Tachwedd 2023).  Fe fydd hi’n treulio un mis yng Nghwm Elan ac un mis yn Stiwdio Heartherwick yng  Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Hyd yn hyn, yn ystod ei chyfnod preswyl yng Nghwm Elan mae Gweni wedi’i throchi yn y tir ac yn datblygu ei hymchwil – yn ymgymryd â defodau dyddiol megis tynnu lluniau, ysgrifennu, recordio sain, cerdded, rhedeg, syllu ar y sêr, sylwi ar y tywydd a’r newid yn y tymhorau a bwydo’r adar – gan ymchwilio’r cwm fel organeb fyw eang yn meddu ar nifer o organebau llai sy’n pontio gwahanol graddfeydd amser.

Wedi’i hysbrydoli trwy ddarganfod gwrthrychau cuddiedig ac isadeileddau ar draws ystâd Elan sy’n pontio amser, lle a storïau dynol, fe fydd Gweni yn cynnal gweithdy Cerfluniau Teithio Amser yn CARAD gan wahodd y mynychwyr i wneud gwrthrychau o glai y byddent am i bobl eu darganfod yn y dyfodol.

Tra yn Aberystwyth, mae Gweni wedi bod yn myfyrio ar ei chyfnod yng Nghwm Elan ac yn gweithio yn y stiwdio mewn ffyrdd arbrofol a chwareus.  Yn gwylio’r cymylau glaw yn chwythu dros Fae Ceredigion tuag at Canolbarth Cymru ac yn ymchwilio ar sut mae symudiad byd-eang dŵr wedi ysbrydoli ysgrifeniadau a lluniau.  Mae Gweni yn gobeithio cynnal diwrnod stiwdio agored tuag at ddiwedd ei chyfnod preswyl er mwyn rhannu ei phrofiadau o’r amser a gwaith ar y gweill yn Uned 1, Stiwdios Heatherwick, Aberystwyth.

www.gwenillwyd.com

instagram @gwenillwyd