Isa Suarez

About Isa

Yn wreiddiol o Wlad y Basg (Sbaen/Ffrainc) mae Suarez yn gyfansoddwr a pherfformiwr wedi’i lleoli yn Llundain/DU.

Mae Suarez yn creu bydoedd sain cyferbyniol sy’n pontio dros amrywiaeth o genres ar draws ffilm, celf weledol, cân a pherfformiad.  Disgrifir ei gwaith yn aml fel ‘allan o’r bocs’ ac eclectig.

Yn allweddol i’w hymarfer mae cydweithio a chyfrannu.  Mae’n aml yn gweithio gyda phobl sy’n byw â chysylltiad gwleidyddol, iechyd meddwl neu sefyllfaoedd amgylcheddol.  Mae’n ceisio crynhoi profiadau byw amrywiol gan ddod ynghyd â deialogau newydd, technegau gerddorol a chynulleidfaoedd yn aml wedi’u dyfeisio gyda chyfraniad y gymuned. 

Mae wedi creu nifer o osodiadau sain, gwaith sy’n benodol i’r safle, caneuon a thraciau sain trwy berfformiadau, cerddoriaeth a thelyneg, mewn cydweithrediad â mudiadau megis Greenpeace, Amnesty International, Platform, Extinction Rebellion, War Child, ArtAngel a nifer o artistiaid arloesol sydd wedi ennill gwobrau, cyfarwyddwyr ffilm, corau, cerddorion, bandiau a cherddorfeydd:  Mike Slee, Ackroyd & Harvey, Wayne Mc Gregor, The London Contemporary Chamber Orchestra, The Marsyas Trio Ensemble; cerddorion o Opera Genedlaethol Lloegr, South Bank Sinfonia a Transglobal Underground; The Ora Singers, The Kaos Signing Choir for Deaf and Hearing Children Llundain, The Choir with No Name, The New Teenagers Gospel Choir…

Mae ei gwaith wedi’i berfformio, darlledu a’i arddangos yn y DU ac yn fyd-eang gan gynnwys: Tate Britain, BBC, Resonance FM, gwyliau ffilm Cannes a Hollywood, gwyliau rhyngwladol Glastonbury a Chaeredin, Cape Town a Berlin Art Bienales.

Archwiliodd Suarez gyseinedd sonig Elan ynghyd â’r strategaethau ecolegol a ddilynwyd gan ecolegwyr, ffermwyr a thrigolion lleol. Bu’n myfyrio ar thema ei methodoleg a’i hymarferion ei hunan hefyd. Galluogodd y cyfnod preswyl iddi ddysgu ac ymwneud ag ecolegwyr, rhannu mewn gweithgareddau eco, cydweithio â cherddorion lleol, darganfod deunydd clyweled ac amlinellu syniadau newydd.

Roedd cyfnod preswyl Suarez wedi dylanwadu ar ei meddylfryd creadigol a’u hymagweddau. Roedd hefyd wedi lledu ei gwybodaeth am ecoleg, bywyd gwledig a’n perthynas gyda dŵr a natur.

Byw’n agos at natur

Wrth fyw oddi ar y grid, yn agos at natur ac wrth arafu, fe ‘lithrodd’ i gyflwr meddwl newydd a thawel a ganiataodd i syniadau a dulliau gweithio newydd ddatblygu:  bu’n gyffroes i ddarganfod ‘ffurf’ yn gyntaf yn hytrach na chyd-destun. Mae hi’n aml yn dechrau ei gwaith ar gyd-destun penodol – lleol neu mewn ymateb i bwnc, cysyniad neu briff ffilm.  Felly roedd yn gyffroes i ‘gael amser i chwarae’ gyda recordiadau maes a chyfansoddiadau byrfyfyr.

Aeth ati i ddod yn gyfarwydd â’r dirwedd a hanes lleol ynghyd â chynlluniau ecolegol Elan Links ar gyfer y cwm; darllenodd lyfrau ar ddŵr, economeg-dosbarthol ac ar nodiant gerddorol gyfoes.

Roedd y bywyd arafach a’r llonyddwch wedi cyfoethogi ei gallu i sylwi, yn enwedig ar agwsteg y cwm ac ‘atseiniau melodaidd’ y nentydd. Esgorodd ei hymdeimlad o unigedd at awydd i ganu’n ddi-eiriau yn yr awyr agored ac yn y bwthyn. Bu’n arbrofi gyda thechnegau newydd: recordiadau tanddwr, lleisio byrfyfyr minimalaidd. Roedd y deunydd newydd ac annisgwyl hwn yn adfywiol a chalonogol.

Daeth ffurfiau yn y dirwedd i’w gweld fel ‘cynfas gerddorol argraffiadol’: boncyffion coed a chysgodion, creigiau geirwon miniog, ffurfiau mawreddog y bryniau: bu’n dal y delweddau gweledol er mwyn eu defnyddio fel deunydd posibl er mwyn datblygu sgôr cerddorol graffig.

Trwy gyfarfod a thrafod gyda ffermwyr lleol, trigolion, cerddorion, arbenigwyr-eco ac ymgyrchwyr, fe ddysgodd am fio-amrywiaeth, ffermio atgyrchol ac yn enwedig am yr eco-strategaethau a’r heriau y mae cymunedau ac ecolegwyr yn eu gwynebu yn sgil newid hinsawdd. Bydd gan yr wybodaeth newydd hwn effaith arwyddocaol ar ei gwaith yn y dyfodol.

Bu hefyd yn cyfarfod ac yn treulio amser gyda chynrychiolwyr diwylliant lleol yn Rhaeadr Gŵy, gan gynnwys rheolwr y ganolfan gerddorol y Lost Ark, ynghyd â’r ddau gydlynydd y ganolfan gelf CARAD. Yn sgil eu cysylltiadau yn y gymuned leol, fe gysylltodd â cherddorion ac artistiad lleol.

Cyflawnodd sesiynau recordio a cherddoriaeth byrfyfyr gyda phedair o gerddorion  benywaidd : telynores, fiolinydd, ffliwtydd ag offerynydd taro. Roeddent wedi bod yn perfformio cerddoriaeth werin ers llawer blwyddyn fel gweithgaredd hamdden: er eu bod yn adnabod ei gilydd, nid oeddent wedi canu cerddoriaeth gyda’i gilydd neu berfformio mewn stiwdio recordio cyn hynny. Roedd Isa wedi eu gwahodd i ‘jamio’ a chyd-gyfansoddi darn ar y cyd, mewn ymateb i un o’r recordiadau o nentydd Elan. Roedd hwn yn arbrawf newydd gyda phawb yn awyddus i roi tro arni gan fwynhau’r broses. ‘Nol yn ei stiwdio yn Llundain, gorffenwyd y darn newydd gan Suarez cyn ei rannu ar-lein gyda’r cerddorion.

Roedd awyrgylch dawel, araf y bwthyn a’r cwm wedi ei chynorthwyo i archwilio ei llwybrau artistig a’i diddordebau ei hun. Roedd y natur diarffordd ynghyd â’r llonyddwch yn cyfuno i roi’r cyfle iddi i fyfyrio ar ei hymarfer, methodoleg a’i hamcanion.

Yn ystod ei chyfnod yn Elan cynhyrchodd Suarez darnau sydd bellach ar y gweill. Ers hynny, datblygodd nifer o ddarnau fel rhan o’i phrosiect newydd ar thema afonydd, ecoleg a lles a gychwynwyd yn ystod ei harosiad preswyl.

Forest Voices: Lleisiau’r Goedwig gosodwaith – sain

Arddangosfa Watershed – Canolfan Gelfyddydau’r Canoldir -Birmingham – Mehefin-Tachwedd 2023

Datblygwyd y darn hwn gan ddefnyddio recordiadau tanddwr ynghyd ag uwchdonau recordiadau nentydd a wnaed yn y cwm ynghyd â cherddoriaeth gwreiddiol. Crëwyd y cyfansoddiad atmosfferig mewn ymateb i ansawdd rhythmau melodaidd y nentydd. Cynhwysir dyfyniadau yn y testun a ddaw o gyfweliadau a gafodd Suarez gydag arbenigwyr lleol ynghylch eu strategaethau-eco yng Nghwm Elan.

Lleisiau tanddwr

Darn o’r perfformiad “ Soundtrack for a landscape’’

 digwyddiad Watershed-Cwm Elan- Medi 2023

Cydblethir nentydd, awyr a gweadedd y ddaear gyda pherfformiad byw Suarez fel modd i gysylltu ag ymwybyddiaeth amgylcheddol.

Nodweddion recordiadau sain o Gwm Elan gan gynnwys: detholiad o nentydd Elan, seiniau dŵr ac awyr o’r biben tanddwr ger Argae Carreg Ddu.

Yn ddiweddar, y mae hi wedi bod yn archwilio cerddoroldeb seiniau afonydd bellach i ffwrdd yn Yr Alban a Nepal. Gobeithia barhau ei harchwiliadau ar gyfandiroedd eraill gyda cherddorion o’r byd ehangach. Yn 2024 mi fydd yn datblygu cyfansoddiadau newydd mewn cydweithrediad â cherddorion rhyngwladol o’r Drydedd Gerddorfa.

https://isasuarez.com/

https://isasuarez.bandcamp.com/