Kate Green

Am Kate

Mae Kate yn crwydro ac yn rhyfeddu (yn bennaf ar Ororau Cymru) yn cyflwyno ei syniadau am fywyd a’r dirwedd gyda’i hiwmor unigryw, cân a dychan tyner.

Mae gwaith Kate fel arfer yn cael ei sbarduno gan daith gerdded, ond mae hefyd yn cael ei ffurfio gan ymchwil, archeoleg, daeareg, hanes cymdeithasol a sgyrsiau serendipaidd.  Mae ei gwaith diweddaraf yn cynnwys:

‘Mindwalks’ (2018) sef cydweithrediad gyda’r Athro Antony Collier sydd wedi byw gyda MND.  Crëwyd ymarferion newydd o luniau tirweddau gwledig mewn ymateb i symudiad corfforol cynyddol gyfyngedig Antony.

Gwelwyd Kate yn ‘Walking the Pipe’ (2019) yn cerdded am 5 diwrnod ar hyd traphont ddŵr Cwm Elan i gronfa ddŵr Frankley yn Birmingham, gan ddychwelyd i bentrefi a threfi cyfagos ar gyfer perfformiadau cerddorol, sgyrsiau a digwyddiadau cymunedol eraill.

Ymchwil oedd ‘Finding a Way’ (2021/2) i sut y gellir cefnogi’r rhai a oedd yn byw gyda dementia i archwilio a rhannu treftadaeth Llanllieni.  Fe wnaeth Kate ddyfeisio ffordd hwylus a hygyrch o gerdded gyda phobl eraill yn ddigidol a mewn bywyd go iawn.

Llinell y Wahanfa Ddŵr

Yn dilyn llwyddiant Walking the Pipe cynnig cyfnod preswyl Kate oedd i gerdded perimedr 72 milltir sgwâr gwahanfa ddŵr afonydd Elan a Chlaerwen.  Wedi’i fapio a’i galw’n llinell y wahanfa ddŵr gan y peirianwyr Fictoraidd a fu’n arolygu’r safle cyn y llifogydd, mae’r pwynt tipio hwn yn llif y dŵr wedi’i farcio â phostiau concrit.

Yn ystod ei chyfnod yn y cwm, fe gerddodd Kate perimedr y wahanfa ddŵr, gan dynnu lluniau o bob un o’r 540 o byst a ddaeth ar eu traws.  Yn ystod yr hwyr, tra’n aros ar ei phen ei hun ym mwthyn oddi ar y grid, Penygarreg, fe wnaeth Kate recordio ei phrofiadau mewn dyddlyfr a chyfansoddi pedair cân newydd a ysbrydolwyd gan ei theithiau cerdded, darllen ac ymchwil.  Fe wnaeth Ben Crawford ymweld â Kate, ac mae ei meddyliau hi ar y teithiau cerdded yn cael eu cynnwys yn ei ffilm arobryn From the End of the Road.

Cafodd Watershed Line ei gynnwys mewn datblygiad yng Nghanolfan Archif ac Adnoddau Henffordd fel rhan o arddangosfa a churadwyd gan Jackie Morris. Mae’r caneuon a ysgrifenwyd yn ystod y cyfnod preswyl wedi cael eu perfformio mewn llawer o leoliadau gan gynnwys Gŵyl Cocomad, Oriel Artefact, Midlands Art Centre, Sidney Nolan Trust, a CARAD.

Cicdaniodd Kate adnewyddiad y model i raddfa 1962 o gronfeydd dŵr Cwm Elan ym Mharc Cannon Hill, i ddechrau gan weithio gyda’r archifydd Matt Rose ac yna’r rheolwr digwyddiadau/addysg Rosie Slay.  Fe gryfhaoedd hi cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol Birmingham (megis GOATS o Cotteridge Park a Ffrindiau Parc Cannon Hill) a wnaeth helpu i gyflwyno’r cyfle ar gyfer yr arddangosfa bresennol yn y Midlands Arts Centre. Fe ddaeth Cefndeuddwr/Watershed ag arddangosiad o waith artistiaid preswyl y 5 mlynedd ddiwethaf at ei gilydd ochr yn ochr ag archifau ac arteffactau o Gwm Elan.  Fe wnaeth Kate cyd-guradu yr arddangosfa gyda Roma Piotrowska o MAC.  Fe wnaeth MAC hefyd gomisynu llun gwaith newydd o’r deunydd a gasglwyd gan Kate yn ystod ei chyfnod preswyl:  murlun 10 metr o ddelweddau’r pyst concrit a gyflwynwyd fel ‘wal argae’ amgrwm.

Yn fwy diweddar, fe wnaeth Elan Links roi’r cyfle i Kate i gydweithio mewn micro-breswyliaeth gyda chydweithfa artistiaid a leolir yn Birmingham Walkspace yng Nghwm Clyd. Mae gwaith Kate, gan gynnwys ei chyfnod preswyl yng Nghwm Elan yn cael ei gynnwys mewn cyhoeddiad academaidd newydd o bwys oddi wrth SUNY Walking as Artistic Practice gan Ellen Mueller.

Mae Kate ar hyn o bryd yn artist preswyl gyda’r Sidney Nolan Trust, yn gweithio ar brosiect newydd Songs from the Shoreline of Glacial Lake Wigmore, ac yn casglu storïau o lyn yn Swydd Henffordd sydd wedi hen ddiflannu.  Mae hefyd yn cynllunio digwyddiad perfformio yn CARAD: How Elan Valley (and other water) Taught me to Sing.

shortladywithdarkhair.com