Meltem Arikan

Menyw yw hi.

Wedi’i lluchio o’r Nefoedd

Awdur yw hi

Sefyll ei phrawf ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth, yn gwynebu bywyd yn y carchar

Mae hi’n alltud

Diffiniwyd fel arall

Mae hi’n Awtistig

Yn gwthio ei hun i fod yn normal

Dim ond i ddod yn anweledig

Am Meltem

Dramodydd ac awdur Twrcaidd/Cymraeg yw Meltem Arikan.  Mae wedi ysgrifennu 12 o lyfrau a phump drama theatr.  Mae ei herthyglau wedi’u cyhoeddi ar wahanol wefannau mewn gwahanol wledydd.

Yn 2011, fe ysgrifennodd ddrama o’r enw Mi Minor, ac yn 2013, oherwydd protest Gezi, fe ddaeth ei drama theatr yn darged ymgyrch casineb, a bu rhaid iddi adael Twrci. Mae hi’n alltud yng Nghymru.

Yng Nghymru, fe ysgrifennodd dwy ddrama theatr. “Enough is Enough” a thaith Y Brain/Kargalar o gwmpas Cymru.

Ar ôl iddi gael diagnosis o awtistiaeth yn 52 mlwydd oed, mae ei bywyd wedi ei drawsnewid yn llwyr.  Fe ddaeth hi’n Gynghorydd Ymwybyddiaeth Ofalgar a Chelfyddydol, Hypnotherapydd Ymddygiad Gwybyddol a Hwylusydd dawns Groove. Mae’n angerddol dros helpu pobl ag awtistiaeth neu aelodau o’u teulu.

Prosiect gwreiddiol Arikan oedd i gael gwestai gwahanol yn cerdded ac yn creu celf gyda nhw bob wythnos.  Fe wnaethant frodwaith, doliau pren, a choeden dymuniadau, ac fe ysgrifennodd pob un nodiadur, a hoffai eu rhoi i Elan Valley Link ar gyfer ei llyfrgell.  Yn anffodus, doedd ond yn gallu gwneud y ddau fis cyntaf oherwydd COVID-19.

Fe ddaeth pedair o westeion benywaidd yn y ddau fis cyntaf.  Fe wnaethant goginio gyda’i gilydd, gwneud celf gyda’i gilydd, a syllu ar y tân gyda’i gilydd.  Fe ddaeth Pen y Garreg yn gartref i Meltem a’i gwesteion.

Ar ôl cyfnod clo cyntaf COVID, fe ddychwelodd i Gwm Elan ym mis Tachwedd, ond y tro hwn, fe arhosodd hi mewn Tŷ Hir.  Roedd yn brofiad hollol wahanol iddi hi.  Nid oes ganddi gar, felly roedd aros yn y Tŷ Hir yn ei galluogi i ddarganfod, trwy gerdded, rhannau eraill o Gwm Elan.  Ni ddaeth gwesteion i aros gyda hi, felly roedd hi ar ei phen ei hun yn bennaf oherwydd ail gyfnod clo COVID.

Roedd hyn yn werthfawr iddi.  Fe ymwelodd â’r argaeau i gyd a cherddodd o gwmpas Cwm Elan.  Weithiau, roedd hi’n cerdded am chwech awr; weithiau, ond am hanner awr.  Ond roedd hi’n cerdded bob dydd, nid oedd gwahaniaeth os oedd hi’n bwrw eira, bwrw glaw neu’n stormus.  Roedd hyn yn brofiad perffaith iddi hi i ddeall iaith natur, unigrwydd, ei hunan, eraill ynghyd â chylch bywyd.  Ysbrydolodd y teithiau cerdded hyn ei gwaith ysgrifennu a pheintio gan ddarganfod mwy am y seice dynol a natur.

Roedd hi bob amser eisiau paentio a thynnu lluniau, ond ni chafodd hi erioed y cyfle.  Fe gafodd hi’r cyfle yng Nghwm Elan.  Fe dynnodd lluniau, paentiodd a rhoi cynnig ar wahanol arddulliau celf.  Roedd yn brofiad arbennig iddi hi.  Fe ddefnyddiodd CARAD ei brodwaith ar gyfer arddangosfa, y rhai yr oedd hi a’i gwesteion wedi gwneud gyda’i gilydd tra’n aros ym Mhen y Garreg.

Roedd Cymrodoriaeth Cymru Greadigol Cwm Elan yn drobwynt yn ei bywyd.  Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth hi 22 o gyrsiau er mwyn deall ei hun yn well ac i ddarganfod sut y gall natur a chelf gwella pobl a sut y gallai hi ddefnyddio hyn er mwyn helpu eraill.     Fe wnaeth y cyrsiau hyn ei goleuo am seicoleg, bodau dynol a syniadau ar gyfer ei dyfodol.  Roedd hi’n teimlo’n barod i dderbyn her debyg, lle gallai ddefnyddio ei sgiliau a’i hangerdd am y lles mwyaf, a symudodd i Lanfair-ym-Muallt.  Oherwydd COVID, ni allodd hi rannu ei phrofiad gyda phobl leol yn ystod ei chyfnod cymrodoriaeth, ond ar ôl iddi symud i Lanfair-ym-Muallt, mae wedi gwirfoddoli i CREDU ac mae hi’n parhau i wneud.  Fe ysgrifennodd lyfr am y gofalwyr gyda CREDU.

Fe wnaeth hi a CREDU brosiect o’r enw Hidden Voice gyda phobl ag awtistiaeth.

Fe ysgrifenodd yn un o’i blogiau am yr hyn y mae Cwm Elan yn ei olygu iddi:

“I mi, nid cwm, nid cronfa ddŵr, nid hyd yn oed tirwedd hanesyddol yw Cwm Elan.

Mae’n dir o freuddwydion gydag enaid menyw meddygaeth pan fyddaf yn cerdded ar ei hesgyrn.

Mae ei chorff a’i henaid yn answesu, yn gofalu am, ac yn fy nghysuro.

Mae hi’n dda i’m lles, ac rydw i’n ddiolchgar am ei thosturi.

Mae’n fy nhynnu i mewn, ac rydw i eisiau rhannu’r teimlad a’r profiad hwn gydag eraill.

Ond mae rhan ohonof yn gweiddi, na, nid ydy hi eisiau gormod o bobl, pobl greulon na fyddant yn gofalu amdani.

Nid oes rhaid i mi boeni; mae hi mewn lle arbennig gyda gwarcheidwaid arbennig a’u holl bwrpas yw gofalu amdani.  Rwy’n ymlacio eto.

Bob tro yr wyf yn cerdded i gyfuchliniau gwahanol, mae’n adrodd stori wahanol i mi, weithiau am fy ngofidiau, cariad, gwella ac eraill yn syml am adael i fynd.

Mae’n fy nysgu i arafu, bod yn ymwybodol, arolgi, clywed a gadael i fy synnwyr i fyw.

Mae bod yn ei chofleidiad, wedi dysgu i mi bod angen ond ychydig arnaf ac mae  gennyf y pethau angenrheidiol yn barod.  Mae’n dysgu dealltwriaeth i mi ac nid condemniad; mae’n gadael i mi gysylltu â fi fy hun.  Gyda’r dealltwriaeth hyn, rydw i’n gwella ac yn dod yn fwy creadigol. Rydw i’n teimlo’n mor gryf fy mod eisiau byw yn yr ardal hon gan rannu ei chariad a’i doethineb ag eraill ….”

Fe newidiodd y profiad hwn ei bywyd fel petai wedi marw a’i hailymgnawdoli eto.  Yn y pen draw, mae hi’n deall nad yw ei gwir natur i fod yn rhy ddelfryd y mae’n rhaid iddi fyw ato.  Mae hi wedi dysgu ei fod yn ymwneud â dod o hyd i’w gwir natur a siarad ac actio ohono. Beth bynnag yw ei rhinwedd, dyna ei chyfoeth a’i harddwch.  Dyna beth mae pobl eraill yn ymateb iddo … Nid ydy hi’n berffaith, ond mae hi’n real.

https://www.meltemarikan.com/

https://meltemarikan.blogspot.com/

www.instagram.com/meltemarikan_official/

www.facebook.com/WriterMeltemArikan

twitter.com/MeltemArikan