R.M.Sánchez-Camus

Am Marcelo

Ymarferwr creadigol yw Marcelo sy’n datblygu gweithiau celf cyhoeddus sy’n datgelu naratifau cymdeithasol tra’n rhoi gofod i fyfyrio.

Mae ymarfer celf Marcelo yn ymgorffori cyd-awduriaeth gymunedol mewn gosodiadau, perfformiadau a thestun gyda ffocws ar gydweithio, cyfranogiad, seicoddaearyddiaeth a lles cymunedol.

Mae ei waith trefniadol yn cynnwys:  Cyfarwyddwr Artistig Applied Live Art Studio (ALAS) sef studio ymarfer celf gymdeithasol; Cyd-sylfaenydd Social Art Publications, cydweithfa gyhoeddi annibynnol.  Fe ddatblygodd Marcelo ac mae’n cyflwyno’r Central Saint Martins Short Course:  Health & Wellbeing through Art Making.  Ar hyn o bryd mae e’n Bennaeth Cyflawni ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Dysgu yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd.

Mae ei arddangosfa From Birth till Death:  Scrolled Life Stories yn Amgueddfa a Gerddi Horniman ar y rhestr fer am Wobrau Amgueddfa + Treftadaeth ar gyfer Arddangosfa’r Flwyddyn 2021.  Comisiynwyd ei brosiect a’i gaffael yng nghasgliad parhaol Amgueddfa Llundain

Elan Calls

Golygwyd o Gyfweliad yng ngwefan Cwm Elan

“Mae’r prosiect y byddaf yn ei gwblhau’n fuan yn rhyw fath o ganllaw amgen i’r cwm.  Mae 60 o dudalennau yn y llyfr ac mae’n groes rhwng llyfr celf, canllaw cerdded, ac yn fath o helfa drysor.

Fy niddordeb oedd i gynhyrchu rhywbeth a fyddai’n adlewyrchu’r nifer o hanesion sy’n hongian fel niwl yn y cwm, gan ddarganfod ffordd greadigol i ddod â syniadau hanes, mudo, fflora a ffawna, ac wrth gwrs y gamp peirianyddol a newidiodd ac a gadwodd yr ardal enfawr hon a’i rhoi i mewn i lyfr maint poced gallech fynd gyda chi ar eich teithiau dydd i archwilio.

Ysbrydolwyd y llyfr yn rhannol gan lyfr byr arall sef The Vale of Nangwilt: A Submerged Valley a grëwyd gan un o beiriannwyr yr argae R. Eustace Tickell ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.  Chwiliais am y mannau y byddai wedi sefyll arnynt er mwyn gwneud brasluniau o’r cwm cyn ei foddi, a gwnes i fy mrasluniau fy hun o’r safleoedd hynny.  Oherwydd hyn roeddwn yn gallu gweld y newidiadau yn y dirwedd ac effaith y cronfeydd dŵr wrth warchod y safleoedd o’u cwmpas. 

Treuliais hefyd lawer o amser yn cwrdd â phobl, yn sgwrsio gyda’r trigolion, staff Ymddiriedolaeth Elan a Dŵr Cymru, y Ceidwaid gan sgwrsio’n achlysurol gyda cherddwyr a seiclwyr a oedd yn mynd trwy’r cwm.  Roedd hwn i gyd yn ddeunydd a ysbrydolodd y straeon sydd yn y llyfr, ac mae pob stori wedi’i ddatblygu ar gyfer lleoliad penodol lle wnes i ail greu un o frasluniau Tickell ond trwy lygaid heddiw. 

Cefais un o’r sgyrsiau mwyaf ystyrlon gyda’r dirwedd,  teimlais fod yr ardal hon nid yn unig yn arbennig oherwydd ei phrydferthwch, ond bod ganddi hefyd egni penodol roeddwn i eisiau ei ddisgrifio fel bod annibynnol ei hun. Felly mae llawer o anthropomorffoleg yn y llyfr.  Gan ddilyn ar hyd y llinellau esoterig fe ddarganfyddais ffordd i ddod â syniadau hunanfyfyrio, hud siawns a rhifyddiaeth a hyd yn oed tarot i mewn i’r gwaith.   Mae hyn i gyd yn wahoddiad i brofi’r llyfr fel gwaith celf rhyngweithiol, un i danio’ch dychymyg tra byddwch allan ac o gwmpas.

Mae dod i adnabod y Barcud Coch wedi bod yn hudol, rwy’n teimlo perthynas go iawn gyda’r aderyn gwyllt hwn, sy’n fath o isgi, yn codi ar ôl iddo bron â diflannu.  Maent yn anifeiliaid mor fawreddog ac mae cael cymaint o gwmpas yn creu awyrgylch unigryw nad wyf erioed wedi’i weld yn unman. Bydd fy nheithiau cerdded dyddiol i fyny y tu ôl i’r bwthyn hefyd yn aros gyda mi am byth, mae’r tŷ wedi’i leoli o flaen llwybr perffaith i fan anghyfannedd iawn lle na welais neb arall ar fy nghrwydr boreuol i gyfarch y wawr.

Roedd byw oddi ar y grid yn llawer o waith, ond fe wnes i wir ei fwynhau’n fawr.  Mae’r cyflymder yn arafu ac yn eich gorfodi i ganolbwyntio ar hanfodion bywyd:   cadw’n sych, cadw’n gynnes, cadw’n lân.  Mae’n dipyn o faich cael Rayburn fel cydletywr!

Yn olaf, y profiad mwya hudol oedd i gwrdd â phobl mor ymroddedig a brwdfrydig sy’n byw a gweithio i, yn ac o gwmpas y cwm.  Mae cymaint o gariad am y dirwedd ac angerdd dros y lle, roedd yn wir fraint i gael fy nghroesawu a gwneud i deimlo’n gartrefol.  Dechreuais hefyd ddeall yn ddyfnach y balchder hyfryd sydd gan y Cymry o’u gwlad, hanes pwerus di-dor gyda diwylliant unigryw a chryf sydd â chysylltiad diriaethol â’r dirwedd.

Un o’r rhoddion mwyaf cyffrous mae’r cyfnod preswyl wedi rhoi i mi yw’r cyfle i leoli fy ymarferiad o fewn tirwedd wledig ac i ddatblygu modelau newydd ar gyfer cynhyrchu gwaith.  Rhoddodd amser i mi dynnu lluniau ac i ysgrifennu’n farddonol ac i ymarfer rhan o fy ymennydd rwy’n aml yn rhannu ag eraill ond ddim yn maethu digon i mi fy hun.  Gyda’r prosiect roeddwn yn gallu dysgu ffordd newydd o wneud y ddau, sy’n teimlo’n bwysig iawn.  Rydw i’n sylweddoli nawr bod perthynas wir cydweithiol yn maethu eich hun a’r llall.  Felly, efallai yr hyn rwyf wedi’i ddysgu yw sut i rannu a fi fy hun.  Dyna yw gwir werth y cyfnod preswyl lle rydych chi’n gallu treulio amser o ansawdd yn bod yn greadigol.

Gwerthir y llyfr yn y Ganolfan Ymwelwyr, yn CARAD ac ar-lein.  Roedd hyn yn bwysig i mi i wneud rhywbeth hygyrch ond arbennig.  Rydw i’n gweld y gwerth mewn darn o gelf rydych yn gallu fforddio i’w brynu a’i berchen, mae rhywbeth arbennig am y berchnogaeth a’r rhannu.  Mae wedi bod yn bwerus iawn i gael y profiad o’r cyfnod preswyl ac i gwblhau’r llyfr arbennig hwn ar gyfer y cwm.”

www.camusliveart.net

www.appliedliveart.com

@appliedliveart