T.S. Anna & Adri Schokker

Teithiau cerdded, sgyrsiau, a Sganio Tree D. Cyfarfyddiadau â choed a llawer mwy yn Nghwm Elan

Mae’r cysylltiad rhwng pobl â thechnoleg cyfryngau digidol ac ecoleg o ddiddordeb i T.S. Anna ac Adri Schokker yn eu hymarfer artistig.

Am Anna and Adri

Tua’r amser y daeth y rhaglen breswyl yng Nghwm Elan i’w sylw yn 2019, roedd y ddau newydd ddechrau cysyniadu syniad newydd o archif ddigidol, rhithiol o greaduriaid y coedwigoedd a gasglwyd o goedwigoedd ledled Ewrop a thu hwnt.  Yn ystod eu teithiau cerdded mewn coetiroedd yn Yr Iseldiroedd fe wnaethant ddefnyddio recordiadau fideo drôn a ffotogrametreg i ddal yn bennaf y coed yn y coedwigoedd gan brosesu’r delweddau i fodelau 3D digidol. 

O’u harbrofion cychwynnol, fe ddaeth syniad braidd yn dystopaidd i’r amlwg:  i greu gefeill digidol anghyflawn ac amherffaith o’r hyn na fydd un diwrnod yn bodoli mwyach. Mae cyfyngiadau defnyddwyr technoleg cyllideb isel a ddefnyddir ganddynt yn creu llawer o le i gamgymeriadau a diffygion yn y broses o drawsnewid o’r real i’r digidol.  Proses sy’n cynhyrchu gofodau rhithwir newydd lle mae’r naturiol a thechnolegol gyda’i gilydd yn creu ecolegau rhithiol atmosfferig, barddonol ac weithiau anghysurus.

Fforest

Roedd ehangder ac amrwyiaeth tirwedd Gwm Elan yn creu yr amgylchiadau cywir i’r artistiaid ddatblygu ymhellach y cysyniad o’r prosiect a elwir yn ddiweddarach yn ‘Fforest’. 

Roedd yn ymddangos fel y ffordd berffaith o ymgolli eu hun yn natur amrywiol Cwm Elan, i ganolbwyntio ar yr hyn maent yn gweld, clywed, arsylwi, a darganfod, heb lawer i dynnu eu sylw.  Trwy ymchwiliadau maes, sgyrsiau, cyfarfodydd, a thrwy gynnal a chymryd rhan mewn gweithdai, fe wnaethant chwilio am ffyrdd o wneud y prosiect yn fwy lleol ac wedi’i gwreiddio yn yr ardal a’i chymuned.

Fe wnaeth Anna ac Adri rannu eu cyfnod preswyl i ddau gyfnod o bythefnos, un ym mis Medi 2019 a’r llall ym mis Rhagfyr 2019.  Yn ystod y pythefnos cyntaf ym mis Medi, fe ganolbwyntiodd y ddau ar dri syniad.  Yn gyntaf, gwneud ymchwiliadau a mapio mwy trwyadl a chanolbwyntiedig ar dirwedd amrywiol Cwm Elan, ac arbofi â thechnegau digidol newydd er mwyn dal a chofnodi eu darganfyddiadau a chyfarfyddiadau.



Yn ail, fe gwnaeth yr artistiaid  deithiau cerdded a sgyrsio gydag amrywiaeth o bobl sy’n byw a gweithio yn y Cwm ac yn Rhaeadr, megis artistiaid lleol Vic Pardue a Jane Mason, siamen o’r enw Richard sy’n byw yn yr ardal, Prif Geidwad Cwm Elan Jen Newman, arbenigwr ar gennau Ray Woods, a Catherine Allan o CARAD yn Rhaeadr.  Fe wnaethant oll eu helpu i greu gwell ddealltwriaeth o hanes, ystyr, a sefyllfa bresennol yr ardal. 

Fe arweiniodd yr arbrofion hyn at y syniad bod angen cysylltiad personol ar  yr archif digidol i’r bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal, ac felly fe ddechreuon nhw gofnodi’r coed a chreaduriaid eraill y goedwig oedd a chysylltiad personol â’r bobl y buont yn sgwrsio â nhw. 

Ac yn drydydd, ar ddiwedd y pythefnos cyntaf, fe wnaeth Anna ac Ari gynnal Gweithdy Sganio Tree D o gwmpas Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan i grŵp o oddeutu 7 o gyfranwyr.  Yn ystod y sesiwn hon, cyflwynwyd y cyfranwyr i wahanol dechnegau ar gyfer dal a sganio 3D y coed, creigiau, planhigion, a chreaduriaid eraill y goedwig.  Ychwanegwyd yn ddiweddarach y modelau digidol a gynhyrchwyd i’r archif rhithrealiti. 

Profiad unigryw oedd yr ail ran yng nghanol mis Rhagfyr oherwydd yr effaith ar y dirwedd o’r glaw di-baid yn ystod y cyfnod hwnnw.  Roedd y dŵr a’r lleithder a deimlwyd ymhobman wedi trawsnewid y dirwedd gan ganolbwyntio ar yr amryw o rywogaethaethau cen yn yr ardal.  Roedd y diddordeb yn deillio o daith gerdded flaenorol a sawl sgwrs gyda Ray Woods yn y cwm yn annog hyd yn oed mwy o ddiddordeb.

Ar wahân i ragor o deithiau cerdded, sgyrsiau, ac archwiliadau a chynnal gweithdy i blant o’r enw “Creaduriaid y Goedwig” yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, fe weithiodd yr artistiaid yn bennaf o CARAD yn Rhaeadr gan baratoi ar gyfer arddangosfa ddau ddiwrnod gyda chymorth Catherine Allan, Krysia Bass, a Peter Cox.

Fe ddangosodd yr arddangosfa weithiau newydd wedi’u creu gan yr artistiaid a gan y bobl a gyfranogodd yn y gweithdai yn ystod y cyfnod preswyl.  Roedd hyn yn cynnwys cyfres o brintiau o gyflead digidol o goed a chreigiau, 3D wedi’u sganio yn ystod archwiliadau maes a gweithdai, Creaduriaid y Goedwig a’r gosodwaith ‘Perthynas’ a grëwyd gan T.S. Anna.  Y darn canolog oedd archif rhithwir o’r coed a nodwyd ac a sganiwyd mewn 3D a chreaduriaid eraill y goedwig ar ffurf gosodiad rhith-realiti.  Agorwyd yr arddangosfa gyda noson arbennig o gerddoriaeth fyw a pherfformiad rhith-realiti a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Harry Love a Toby Hay.  Cafodd pob ymwelydd y cyfle i archwilio’r goedwig rithwir tra perfformiwyd seinwedd bersonol yn seiliedig ar yr hyn yr roedd yr ymwelwr yn gweld ac yn profi.

Roedd yn dda i weld sut y daeth ein hymchwil a’r gweithgareddau at ei gilydd mewn arddangosfa ac i glywed a gweld ymatebion y bobl a ddaeth i’r noson arbennig ac i’r arddangosfa.

https://theforest.earth/

trees@theforest.earth