
Taith gerdded Mamaliaid Nosol
Dydd Gwener 27 Mawrth – 6yh
Ymunwch ag arbenigwr Mamaliaid Sir Faesyfed a’r ffermwr Da Byw a Bywyd Gwyllt Sorcha Lewis am dro a sgwrs i gael gwybod mwy am y mamaliaid nosol sy’n byw yng Nghwm Elan gyda’r posibilrwydd o gwrdd ag ambell un ohonynt.
Tocynnau: £7.65

Taith nos Awyr Dywyll ‘Beicio gyda Pippa’
Dydd Gwener 27 Mawrth – 6.30yh
Taith feicio oddi ar y ffordd gyda’r nos ym Mharc Awyr Dywyll Rhyngwladol Cwm Elan. Dan arweiniad tywysydd beicio mynydd Pippa Boss, byddwch yn profi hud reidio’ch beic o dan awyr y nos.
Tocynnau: £15.98

Cyngerdd yng Ngolau’r Sêr gyda Toby Hay a Holly Blackshaw
Dydd Gwener 27 Mawrth – 8.30yh
Cyngerdd werin acwstig untro o dan y sêr gyda’r cerddorion hudolus Toby Hay a Holly Blackshaw.
Gyda lleisiau eliptig, dyrchafol a chaneuon argraffiadol, mae Holly yn canu caneuon hen a newydd, rhai traddodiadol a rhai wedi’u hysgrifennu ei hun gyda chymorth hen gitâr a’r blwch shruti achlysurol.
Mae Toby Hay yn chwaraewr gitâr a chyfansoddwr. Wedi’i swyno gan y cysylltiad rhwng tirwedd a cherddoriaeth, mae wedi’i ysbrydoli gan dirweddau Mynyddoedd Cambria. Os bydd y tywydd yn wlyb, bydd y cyngerdd hwn yn cael ei gynnal o dan do. Bydd mynychwyr yn derbyn cyfarwyddiadau ynghylch ble a sut i fynd y diwrnod cynt.
Tocynnau: £10.80

Sesiwn galw heibio Syllu ar y Sêr
Dydd Gwener 27 Mawrth – 9.00yn-10.30yn
Lleoliad: Claerwen Dam Lower Car Park SN871633
Ymunwch â Thîm Awyr Dywyll Cwm Elan wrth iddynt fynd â chi ar daith gosmig gyda’u telesgopau yng nghanol Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol Cwm Elan. Os yw’r awyr yn glir, byddant yn cynnig golygfeydd o’r Lleuad, Iau a chlystyrau sêr disglair. Gwisgwch yn gynnes ac mae croeso i chi alw heibio rhwng 9pm-10.30pm!
Dibynnol ar y tywydd.
AM DDIM.

Peintio golau gyda Dafydd Wyn Morgan
Dydd Gwener 27 Mawrth – 9yn
Ymunwch â’r astroffotograffydd Dafydd Wyn Morgan ar gyfer y gweithdy hwn lle gallwch ddatblygu’ch sgiliau ffotograffiaeth y nos a chreu delweddau trawiadol gyda ‘pheintio golau’. Wedi’i ysbrydoli gan y talentog Eric Pare a Kim Henry, byddwch yn mynd i’r afael â sut i ddal fflachiadau byr o olau yn y cyfnos/golau lleuad.
Tocynnau: £20.20

Taith i’r Gofod: Awyr Dywyll Elan
Dydd Sadwrn 28 Mawrth – 11am-5pm
Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan
Bydd angen cofrestru ar gyfer rhai digwyddiadau
Ymunwch â seryddwyr, artistiaid, arbenigwyr bywyd gwyllt a mwy yn y Ganolfan Rheoli Taith i’r Gofod am ddiwrnod o arddangosiadau ymarferol, crefftau a sgyrsiau am bopeth o dan (ac o gwmpas) yr haul. Dysgwch sut y gwnaeth y sêr, y lleuad a’r planedau lunio credoau diwylliannau hynafol gydag Timescape Archaeology a chreu eich arteffact sêr eich hun. Ymunwch â Gary Palmer ar gyfer sesiwn arsylwi solar a dysgu sut mae awyr dywyll yn diogelu bywyd gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed. A llawer, llawer mwy!
AM DDIM

Creu Llusernau
Dydd Sadwrn 28 Mawrth
Dysgwch sut i wneud llusernau helyg a phapur wedi’u hysbrydoli gan greaduriaid nosol sy’n byw yng Nghwm Elan a’r cyffiniau. Bydd yr artist Zoe Matthews yn arwain grwpiau trwy weithdai creu llusernau gan ddefnyddio strwythurau helyg a phapur crêp wrth baratoi ar gyfer gorymdaith llusernau mewn lleoliad cyfrinachol nos Sadwrn.
AM DDIM

Sioeau Planetariwm
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 11yb, 2yp, a 4yp
Bydd Tîm Awyr Dywyll Cwm Elan yn dod â’r sêr i Raeadr Gwy trwy eu sioeau planetariwm drwy gydol y dydd! Dewch i ddysgu am Gysawd yr Haul, mytholeg y Cysawd Celtaidd a chlywed straeon chwedlau ar thema’r awyr dywyll o dan y sêr gyda’r chwedleuwr Cymraeg, Mair Tomos Ifans.
Lleoliad: CARAD, Rhaeadr Gwy

Cysawd yr Haul
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 11yb
Bydd Tîm Awyr Dywyll Cwm Elan yn mynd â chi ar daith o amgylch Cysawd yr Haul trwy eu sioe planetariwm. Gan ddechrau o Barc Awyr Dywyll Rhyngwladol Cwm Elan a gorffen gyda’r gwrthrych pellaf a wnaed gan ddyn yn y gofod, Voyager 1, mae’r sioe hon yn addas i bobl o bob oed.
Lleoliad: CARAD, Rhaeadr Gwy
Tocynnau: £4.50

Clystyrau Celtaidd a Methodoleg
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2yp
Oeddech chi’n gwybod bod gan bobl Geltaidd hynafol y DU eu straeon a’u mytholeg eu hunain am awyr y nos? Bydd Tîm Awyr Dywyll Cwm Elan yn mynd â chi ar daith hudolus o awyr y nos ac yn datgelu ein cytserau adnabyddus mewn goleuni newydd.
Lleoliad: CARAD, Rhaeadr Gwyyader
Tocynnau: £4.50

Adrodd straeon o dan y sêr
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 4yb
Bydd y chwedleuwr Mair Tomas Ifans yn cyflwyno casgliad hudolus o chwedlau Cymraeg hynafol am y nos wrth i fawredd y bydysawd droelli uwchben, wedi’u plethu gan gerddoriaeth hudolus o’i thelyn.
Lleoliad: CARAD, Rhaeadr Gwy
Tocynnau: £4.50

Taith gerdded adar, ystlumod a gwyfynod nosol
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 6.15yh
Gyda Janice Vincett, Hsin-Jung Lu a Hazel Lee
I ddathlu ein hawyr dywyll, ymunwch â phobl ifanc o Elan a thu hwnt mewn gorymdaith lusernau i roi Cwm Elan ar y map! Byddwn yn ffurfio gorymdaith ysblennydd ar draws yr argae, wedi’i ffilmio gan fideograffydd proffesiynol.
Tocynnau: £7

Gorymdaith Llusernau/ Fflachfob
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 7yp
I ddathlu ein hawyr dywyll, ymunwch â phobl ifanc o Elan a thu hwnt mewn gorymdaith lusernau i roi Cwm Elan ar y map! Byddwn yn ffurfio gorymdaith ysblennydd ar draws yr argae, wedi’i ffilmio gan fideograffydd proffesiynol.
AM DDIM

Sgwrs a swper: Cyflwyniad i seryddiaeth
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 7.30yh
Lleoliad: Ty Penbont
Ymunwch â’r seryddwr Rob Davies i gael cyflwyniad i seryddiaeth ac arsylwi a chewch ddysgu’r hyn sydd ei angen arnoch i ddechrau gyda’r hobi anhygoel hwn. Bydd Rob yn dangos yr hyn y gallwn ddisgwyl ei weld yn yr awyr ar draws y gwahanol dymhorau.
Tocynnau: TBA

Adrodd straeon o dan y sêr
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 8.45yn
Lleoliad: Ty Penbont
Mae Mair Tomos Ifans yn adrodd chwedlau, mythau a straeon traddodiadol, sy’n tynnu ar repertoire dwfn o straeon a chaneuon gwerin o bob cwr o Gymru yn ei gwaith fel chwedleuwr, cantores, actores a chrefftwr geiriau. Ymunwch â hi am berfformiad agos-atoch yn yr awyr agored o dan y sêr lle bydd yn rhannu detholiad o straeon wedi’u lleoli gyda’r nos, ynghyd â’i thelyn hudolus.
Tocynnau: £8

Syllu ar y Sêr
Dydd Sadwrn 28 Mawrth 10yn
Ymunwch â’r syllwyr sêr Rob Davies a Sam Price wrth iddyn nhw fynd â chi i safle syllu ar y sêr unigryw ar ben bryn! Os yw’r tywydd yn ffafriol a’r awyr yn glir, cewch weld golygfeydd agos o’r Lleuad, Iau, clystyrau sêr disglair a chewch ddysgu am y cytserau.
Tocynnau: £5
