Tomenydd Hynafol ac Olion yn y Ddaear

Cerrig Craig Cnwch

Mae gan Gwm Elan nifer fawr o safleoedd archeolegol, llawer ond wedi’u cofnodi’n ddiweddar fel rhan o gynllun Elan Links, ac eraill wedi’u darganfod gan wirfoddolwyr tra’n cerdded ar lwybrau llai hysbys yr ucheldiroedd.  Yn ganfyddadwy fel banciau daear, ffosydd a chlystyrau o gerrig mae hanes cyfoethog am bobl sydd wedi sefydlu, byw, marw a’u claddu ar draws yr Ystâd.

Cerrig Craig Cnwch

O’n hynafiaid cynhanes a ffermiodd yr ucheldiroedd a chladdu eu meirwon ar y terasau ar y bryniau a’r mynyddoedd, i’r nifer fawr o bobl canoloesol a adeiladodd dai ar gyrion y cymoedd, mae cliwiau profoclyd os ydych yn gwybod ble i edrych a beth rydych yn edrych amdano.

Mae Cerrig Craig Cnwch yn rhan o safle cofadail cynhanes Craig Cnwch gyda phump carnedd crwn, tri charnedd cliriad posibl a phump neu chwech o feini hirion o fewn yr ardal.

(Clod am y llun: Trysor heritage servies)

Mae Carnedd Riced yr Oes Efydd, er yn ymddangos ar fapiau cynnar bron wedi diflannu o’r cyfnod cyfoes ac yn cael ei fygwth gan draffig cerbydau gyriant pedair olwyn.

(Clod am y llun: Trysor heritage servies)

Wedi’i arolygu gan Trysor Heritage Services ac wedi dod yn weladwy ar ôl eira yn gynnar yn 2023, mae cloddiad arbrofol wedi dangos ei fod wedi goroesi o dan y tywyrch.

Yn aml fe all tyfiant trwchus o redyn guddio nodweddion archeolegol megis gwrthgloddiau a llwyfannau tai cynnar.  Weithiau mae uchder unffurf y rhedyn yn dangos amlinelliad gwrthgloddiau o dan yr wyneb, fel yr enghraifft hwn o gronfa ddŵr Pen y Garreg a ddangoswyd fel rhan o arolwg Trysor. (Clod am y llun: Trysor heritage servies)

Mae rhai llwyfannau mor fach fel y gellir eu colli, yn enwedig pan, er enghraifft, mae ffens wifren ar eu traws!  Dyma un o nifer o lwyfannau tai canoloesol neu cyn canoloesol sy’n gorwedd o dan argae Claerwen.  Mae golau haul isel yn aml yn help i weld y nodweddion hyn, yn chwyddo eu cysgodion, felly mae’n aml yn gyfuniad o wybod lle a ble i edrych.  Yn y rhifyn nesaf fe fyddaf yn dangos ffyrdd eraill o ‘weld’ yr archeoleg er mwyn datgelu peth o hanes cuddiedig yr ardal.

Fe allwch ddysgu mwy am archeoleg Elan a’r darganfyddiadau diweddaraf yng Nghŵyl Archeoleg a Hanes dros benwythnos diwethaf mis Gorffennaf yn y Ganolfan Ymwelwyr.  Mae dal cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai hyfforddiant ac i wirfoddoli mewn cloddiadau cymunedol, er mwyn darganfod mwy am hanes Cwm Elan, cysylltwch â fi ar gary.ball@elanvalley.org.uk am ragor o fanylion.

Gary Ball, Swyddog Ymgysylltu Addysg a Digwyddiadau: Treftadaeth

Elan Links