Blwyddyn Newydd Dda i syllwyr y sêr!
Blwyddyn Newydd Dda i syllwyr y sêr! Gwnewch y mwya o’r nosweithiau tywyll y mis hwn a mwynhewch ddefnyddio’r telesgopau a’r ysbienddrychau newydd a gawsoch fel anrhegion Nadolig. Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth, fe fydd yr arweinlyfr hwn yn eich helpu i ddarganfod y gwrthrychau wybrennol i’w hastudio, p’un a’i os oes gennych delesgop, ysbienddrych neu dim ond eich llygaid noeth.
Dyma ychydig o awgrymiadau am ffyrdd i chi ddod i adnabod wybren y nos:
Mae Turn Left ar Orion yn lyfr gwych ar gyfer dechreuwyr sy’n dechrau ac yn eich dysgu i weld mwy na’r Lleuad – mae galaethau, nifylau, cytserau a sêr dwbl lliwgar i’w darganfod.
Stellarium Mobile – Star Map yw un o’r apiau ar gyfer ffôn clyfar/tabled sy’n eich helpu i ddod i adnabod y cytserau, planedau a’r gwrthrychau yn nyfnder yr wybren. Os oes gan eich ffôn magnetomedr a chyflymydd/gyrosgop, fe allwch ddal eich ffôn tua’r wybren er mwyn dysgu am ba seren neu gytserau yr rydych yn edrych arnynt.
Mae hefyd ar gael ar gyfer iOS. Os hoffech brofi wybren hollol dywyll, mae gan Barc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan leoliadau sy’n hawdd eu cyrraedd lle gallwch barcio’ch car ac edrych i fyny.
Cawod o Sêr y Flwyddyn Newydd
Fe fydd cawod o sêr Y Quadrantids ar ei anterth ar noson y 3ydd o Ionawr ac yn oriau mân y bore ar y 4ydd o Ionawr. Mae’n pelydru oddi wrth hen gytser, a elwir yn Quadrans Muralis, a’i hysbrydolwyd gan ffurf cwadrant, sef offeryn seryddol er mwyn edrych ar leoliad y sêr. Ni chafodd ei gynnwys yng nghytser a gydnabyddir yn swyddogol gan yr International Astronomical Union (IAU). Bydd golau’r Lleuad sydd ar ei chynnydd yn ymyrryd ar weld y sêr gwib egwan ond byddwch yn wyliadwrus am y rhai mwyaf llachar.
NGC 404 – Ysbryd Mirach
RA 01h 9.4 m,
Dec +35° 43′
I’r rhai ohonoch sydd â thelesgop a mynediad at wybren dywyll, ceisiwch ddod o hyd i wrthrych diddorol yng nghytser Andromeda. I’r rhai ohonoch sydd eisiau neidio o un seren i’r llall er mwyn dod o hyd i NGC 404 (Ysbryd Mirach), chwiliwch am Sgwâr Pegasys ac edrychwch i fyny i’r chwith ar y top a chornel y sgwâr lle gallwch weld llinell o dri seren sydd wedi eu ffurfio fel dolen padell, sef cytser Andromeda. Rhifwch ddwy seren o’r gornel a fydd yn eich tywys i Mirach.
Treiniwch eich telesgop ar y seren a chwiliwch am smotyn egwan sydd wir yn debyg i gopi aneglur o Mirach. Mewn gwirionedd galaeth yw’r gwrthrych hwn a elwir yn NG 404, sy’n 10 miliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd.
Ally’s Braid
I’r rhai ohonoch sydd ag ysbienddrych o unrhyw faint, ewch tu allan a chwiliwch am glwstwr o sêr Pleiades (Saith Chwaer). Yn yr wybren dywyll, mae’r clwster agored hyfryd hwn bron yn tywynnu.
Ceisiwch ddarganfod y llinell o sêr a elwir yn ‘Allys’ Baraid’ (sef enw byr am Alcyone, y seren lle mae’r asterism yn ymddangos fel petai’n tarddu), ac mae’n debyg i ddarn o wallt sy’n dod allan o ben Alcyone.
Y Blaned Mercher
Ar y 30ain o Ionawr, fe fydd y Blaned Mercher ar ei Hestyniad Mwyaf Gorllewinol, sy’n golygu y bydd ar ei phwynt uchaf yn yr wybren. Gellir gweld y blaned hon yn yr wybren dd
wyreiniol cyn y wawr o 7.10 yb ar y 15fed o Ionawr hyd 6.50 yb ar ddiwedd y mis.
Cysylltiad Planedol Syfrdanol
Fe fydd cysylltiad planedol hyfryd ar y 23ain o Ionawr. Hwn fydd cysylltiad planedol agosaf y flwyddyn hon, lle bydd y blaned Sadwrn yn 0.5 gradd o bellter o’r blaned Gwener. Edrychwch tuag at y gorwel yn y de- orllewin ar ôl y machlud, ac fe welwch y blaned Gwener yn ymddangos yn y cyfnos. Fe ddylech hefyd allu gweld darn bach o’r Lleuad a’r blaned Sadwrn yn ymddangos fel darn bach o olau i ochr de-orllewin y blaned Gwener.
Fe fydd y Lleuad Lawn yn digwydd ar y 6ed o Ionawr a’r Lleuad Newydd ar y 24ain o Ionawr.