Cyfle i Wirfoddoli ar Brosiect Adfer y Mawndir

Cyfle i Wirfoddoli ar Brosiect Adfer y Mawndir

31st Awst 2024

Tir gyda mannau gwlyb yw’r mawndiroedd sy’n hanfodol ar gyfer ecosystem y Ddaear.  Mae’r ardaloedd dyfrlawn yn atal y planhigion rhag pydru’n llawn, gan greu rhai o’r ardaloedd mwyaf cyfoethog mewn carbon ar y Ddaear; hyd yn oed yn fwy na’n fforestydd.  Mae’r ardaloedd hanfodol hyn yn dal ac yn storio carbon deuocsid, ac yn oeri’n hinsawdd sy’n parhau i gynhesu.  Yn anffodus, yng Nghwm Elan, mae’r rhan fwyaf o’n tir yn cynnwys mawn; mae peth ohono mewn cyflwr gwael ac mae angen eich help chi arnom er mwyn adfer yr adnodd gwerthfawr hwn.

Rydym yn arbrofi gyda gwahanol ddulliau er mwyn arafu llif y dŵr ac i drapio’r gwaddodion o erydiad y mawn ar ddau safle gorgors lle mae’r mawn wedi cael ei dorri.  Y syniad yw i weld beth all rheolwyr y tir wneud ar raddfa fach gyda deunyddiau lleol, lle nad yw defnyddio peirianwaith yn ymarferol.  Y canlyniad dymunol yw ardaloedd o orsydd gwlypach, gyda mwsoglau migwyn yn cytrefu, a lleihau goruchafiaeth gwellt y gweunydd.

Fe fydd y prosiect yn parhau am 5 wythnos, ac mae croeso i chi ymuno â ni am beth neu ar yr holl ddiwrnodau gwirfoddoli.

Fe fydd y sesiynau yn dechrau am 10yb tan 3yp.

Y dyddiadau yw:

• 12fed o Fedi – Creu Byndiau Gwlân


• 19eg o Fedi – Safle 1 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd


• 26ain o Fedi – Safle 1 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd


• 3ydd o Hydref – Safle 2 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd a Byndiau Gwlân

10fed o Hydref – Safle 2 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd a Byndiau Gwlân

Credwn na ddylai gostio dim i chi wirfoddoli.  Rydym yn talu costau teithio gwirfoddolwyr o 45c y milltir bob ffordd ac rydym yn gallu ad-dalu pryniannau cinio hyd at £5 (fe fydd angen derbynneb).   I gofrestru ar gyfer cyfle i wirfoddoli neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.