Croeso i’n diweddariad o’r hyn sy’n digwydd yn wybren y nos ym mis Ebrill.
Mae’n nosi oddeutu 7.45yh ar ddechrau’r mis ym Mharc Wybren Dywyll Ryngwladol Cwm Elan ac oddeutu 9.45yh ar ddiwedd y mis.
Dyma drosolwg o’r clystyrau o 10yh yn ôl in-the-sky.org
Facing south at 10pm, you will see the co
Gan wynebu’r de am 10yh cewch weld clystyrau Hydra, y Llew, Cancr, a’r Arth Fawr ar eu hanterth. Mae clystyrau llachar Orïon, y Tarw a’r Cerbydwr yn machlud yn y gorllewin. Gorwedd y Forwyn a Boötes yn y dwyrain, gyda chlystyrau haf Ercwlff, Coron y Gogledd a Thelyn Arthur yn llechu’n isel yn ffurfafen y dwyrain.
Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 13eg o Ebrill a’r Lleuad Newydd ar y 27ain o Ebrill.
Cawod Sêr Gwib Lyrid
Mae cawod Sêr Gwib Lyrid yn syrthio rhwng yr 16eg a’r 25ain o Ebrill, gan gyrraedd uchafbwynt ar gyfnos yr 22ain o Ebrill.
Er nad yw’n ymddangosiad mor drawiadol â hynny, mae’n werth codi’ch golygon yn ystod y gawod er mwyn cael cipolwg ar y sêr gwib gan fod iddynt gynffonnau o lwch llachar sy’n weladwy yn yr wybren am ychydig eiliadau.
Ni fydd golau’r Lleuad yn amharu am y bydd honno dan y gorwel. Mae’r gawod sêr gwib hon yn cael ei chreu gan weddillion a adawyd gan y gomed hir-dymor C/1861 Thatcher. Gwelwyd hon gyntaf gan seryddwyr y llys Tseinïadd yn 687cc
Cytser y Mis
Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.
Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.
Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.
Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.
Cytser y Mis – yr Arth Fach
Un cytser sy’n cael ei ddiystyru’n aml yw’r Arth Fach, sydd yn uchel yn wybren y nos yn ystod misoedd y gwanwyn. Mae’n ymdangos fel fersiwn llai o ‘badell a dolen’ yr Arth Fawr. Mae gan yr Arth Fach seren arbennig o’r enw Polaris, sef ein Seren y Pegwn, – a leolir ger Begwn Wybrennol y Gogledd.
Mae’n hanfodol i bobl sy’n defnyddio tracio cyhydeddol i ddilyn gwrthrychau yn y gofod – gan gywiro cylchdro’r Ddaear, i leoli’r seren hon . Cewch dystiolaeth o’r cylchdroi yma wrth sylwi ar ddelweddaullwybr y sêr sy’n cynnwys cylchoedd consentrig lluosog yn arwain at bwynt canolog. Y canolbwynt hwnnw yw Polaris, Seren y Pegwn.
Serch hynny, mae lleoliad y pegwn yn symud bob 26,000 o flynyddoedd yn sgil echel symudol y Ddaear. Daliwyd at y lleoliad hwnnw gan Thuban yng nghytser Draco hyd 500 OC, yn ystod cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig ar ddechrau’r Oesoedd Canol. Yn 3100 OC Gamma Seffeid yn Seffews fydd y Seren Begwn nesaf.
Gan NASA, ‘Mysid-Vectorized by Mysid’ yn Inkscape yn nôl delwedd ym Mlaenoriad Milutin Milankovitch. Parth Gyhoeddus.n.
Cysylltir cyster yr Arth Fach gyda mytholeg hynafol.
Un stori yw mai Ida yw’r cytster, nymff a edrychodd ar ôl Zews tra’n ifanc ar Ynys Creta pan fygythiwyd ei fywyd gan ei dad, y Brenin Cronws. Cythruddwyd Cronws gan broffwydoliaeth a ragfynegodd y byddai un o’i epil yn ei ddiorseddu fel brenin, felly fe lyncod pump o’i blant wedi iddynt gael eu geni.
Wedi i Rhea, ei wraig, rhoi genedigaeth i Zews rhoddodd garreg wedi ei rwymo mewn cadachau i Cronws i’w lyncu, gan anfon Zews i ofal Ida i’w fagu. Wedi tyfu’n oedolyn dychwelodd at dŷ ei dad a thwyllodd ei dad i lyncu emetig, gyda’r canlyniad iddo gyfogi ei frodyr a’i chwiorydd, Hades, Poseidon, Hestia, Demeter a Hera.
Codasant gan oresgyn ei deyrnas. Cyflawnwyd y broffwydoliaeth pan ddaeth Zews yn frenin newydd ar yr Olympiaid ac yn ‘dduw’r wybren’.
Cydgysylltiad y Lleuad, Fenws a Sadwrn
Edrychwch am gydgysylltiad y Lleuad, y planedau Gwener a Sadwrn yn ystod y wawr ar y 25ain o Ebrill.
Er i’r blaned Gwener ddiflannu yn wybren yr hwyrnos nid ydyw wedi rhoi’r gorau i gynnig arddangosiad llachar. Y mis hwn, mae’r blaned Gwener yn codi yn y dwyrain tua 5.30yb ac fe fydd yn cyrraedd ei hanterth llachar ar y 27ain o Ebrill.
Ychydig o Glystyrau Sêr
Mae yna rhai gwrthrychau i’w gweld yn nyfnder gofod yr Arth Fawr. Bydd angen ysbienddrych gydag agoriad o bedair modfedd neu fwy i’w gweld.
Messier 67
Coordinates: RA: 08h 51.4m | Dec: +11°49′
Mae’r clwstwr sêr agored hwn, sy’n cynnwys 500 o sêr, yn gorwedd yng nghytser Cancr, rhwng 2.6 a 2.9 o flynyddoedd golau i ffwrdd. Gellir ei weld fel ffurf anelwig hir o oleuni gwan trwy ysbienddrych 10×50. Mae ysbienddrych gydag agoriad o 6 modfedd neu fwy yn dadlenni rhyw ddwsin o sêr, tra bo ysbienddrych o 12 modfedd neu uwch yn gallu dadlenni hyd at 100 o sêr. Gan Jim Mazur CC BY-SA 4.0
Mae’n cynnwys sêr sydd ddim boethach na dosbarth sbectrol F; yn felyn/gwyn i’r llygad ac mae o leiaf 100 o’r sêr yn debyg eu cyfansoddiad i’r Haul.
Jim Mazur CC BY-SA 4.0
Mae’n cynnwys sêr sydd ddim boethach na dosbarth sbectrol F; yn felyn/gwyn i’r llygad ac mae o leiaf 100 o’r sêr yn debyg eu cyfansoddiad i’r Haul.
Messier 44 – Clwstwr Cwch Gwenyn
Coordinates: RA: 08h 40.4m | Dec: 19°59′
Gellir gweld y clwstwr agored prydferth hwn gyda’r llygad noeth ac mae’n gorwedd yng nghytser Cancr. Un o’r cytserau agored agosaf atom ydyw, tua 577 o flynyddoedd golau i ffwrdd.
Mae’n cynnwys 1000 o sêr a gellir gweld llawer ohonynt gydag offer optegol, ond dyma un gwrthrych sydd yn edrych yn hyfryd trwy ysbeinddrych bach 10x.
Yn 2012 roedd seryddwyr NASA wedi darganfod dwy blaned yn troi o gwmpas y sêr yn y clwstwr agored hwn. Roedd cylchdroadau’r planedau hyn, tebyg i’r blaned Iau, yn debyg i’r ffordd y mae planedau ein Cysawd yr Haul ni yn ymddwyn. Dyma’r planedau allsolar cyntaf i’w darganfod yn gwneud hynny. Roedd ymchwil pellach gan Ysbienddrych Gofod Kepler yn dangos bod yna bedwar ecsoblaned tebyg i’r blaned Iau yn cylchdroi o gylch sêr yng Nghlwstwr y Cwch Gwenyn.
Gellir darllen fwy amdano yma.