Golwg ar Wybren y Nos – mis Chwefor 2026

Golwg ar Wybren y Nos – mis Chwefor 2026

30th Ionawr 2026

Croeso i ddiweddariad y mis hwn er mwyn darganfod beth sydd yn wybren y nos ym mis Chwefror.

Ym Mharc Rhyngwladol Wybren y Nos Cwm Elan, mae tywyllwch seryddol yn para am 10 awr a 59 munud ar ddechrau’r mis o 18:58, a 9 awr 25 munud o 19:44 ar y diwedd.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Golyfa holl-wybrennol o’r cytserau o 10yh ym mis Chwefor o in-the-sky.org

Yn isel ar y gorwel deheuol mae cytser y Ci Mawr, gyda chytserau Monoceros a’r Efeilliaid wedi’u lleoli’n uniongyrchol uwchben.  Mae cytser grymus Orion yn dal i ddominyddu wybren y nos, wedi’i leoli uwchben y gorwel de-deddwyreiniol, gyda’r Tarw ac Awriga yn uniongyrchol uwchben.  Yn y gorllewin, mae cytser Andromeda yn dechrau machlud, tra bod cytserau gwanwynol y Cranc a’r Llew wedi’u lleoli’n dda yn yr wybren de-ddwyreiniol.  Yr adeg hon o’r flwyddyn mae’r Forwyn a Boötes yn dechrau codi, gyda seren lachar Arcturus wedi’i leoli’n isel ar y gorwel dwyreiniol.

Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 1af o Chwefror a’r Lleuad Newydd ar y 17eg o Chwefror.

Mis y Blaned!

Yn ystod mis Chwefror, fe gewch y cyfle i weld chwe phlaned yng nghysawd yr Haul ar yr un pryd! Fe fydd pedwar allan o’r chwe phlaned yn weladwy gyda’r llygaid noeth ac fe fydd angen ysbienddrych neu delesgop bach i weld y ddau arall.

O’r ail wythnos o fis Chwefror, fe fyddwch yn gallu gweld Mercher, Sadwrn, Iau, Wranws a Neifion o amser machlud, ond yn ystod diwrnodau olaf mis Chwefror, fe fydd Gwener yn ymuno â’r orymdaith pan fydd hi’n ymddangos yn y gorwel gorllewinol yn ystod wythnos olaf mis Chwefror. Yr amser gorau i weld yr orymdaith wybrennol yw ar yr 28ain o Chwefror ar ôl iddi fachlud. Fe fydd y rhai â gorwel isel yn gallu gweld yr olygfa hon hyd at 6.45yh.

Wrth iddi nosi, defnyddiwch eich ysbienddrych neu delesgop i chwilio am Wranws a Neifion.

Cytser y Mis

Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.
Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.
Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.
Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.

Cytser y Mis – Y Ci Mawr

O 10yh, fe fydd cytser y Ci Mawr wedi’i leoli ar y gorwel deheuol ac yn gorwedd i’r de-orllewin o gytser Orion yn ystod mis Chwefror. Fe ellir ei adnabod trwy chwilio am y seren fwyaf llachar yn wybren y nos, Siriws.

Fe ellir gweld oddeutu 5 – 10 seren yn yr wybren dywyll cyffredin sy’n ffurfio siap y cytser.

Credir i’r cytser hwn gynnwys o leiaf 10 seren sy’n lety i gysawd planedol. Yn anffodus, mae’r sêr hyn mor bell i ffwrdd a hyd yn oed pe byddem yn teithio ar gyflymder y gwrthrych gwneud cyflymaf yn y gofod, sef Chwiledydd Solar Parker, fe fyddai’n cymryd 650,000 o flynyddoedd golau i gyrraedd un ohonynt.

Mae’r cytser hwn yn cynrychioli ffrind gorau dyn: y ci. Yma, mae’r Ci Mawr (Canis Major), sef y Lladin am ‘gi mawr’, yn cael ei ddangos yn sefyll ar ei goesau ôl, yn cael ei ddal yn y weithred o hela’r ysgyfarnog, Lepus. Mae hefyd yng nghwmni’r Ci Bach, ‘sef y ci llai’, y cytser syml sy’n gorwedd uwchben Monoceros.

Delwedd: Parth Cyhoeddus

Ym mytholeg Groegaidd, y ci yma oedd Laelaps, a gafodd nifer o feistri yn ei amser. Roedd yn gi hela gwych a oedd yn gallu dal unrhywbeth. Fe gafodd y dasg o ddal anifail a oedd yn codi ofn yn y wlad, ond roedd yn anifail hud a oedd byth yn gallu cael ei ddal, ac yn cael ei ddal mewn paradocs tragwyddol. Fe wnaeth Zews adfer hwn trwy droi Laelaps yn garreg a’i osod yn y ffurfafen.

Fe enwir y seren Siriws ar ôl y gair Groeg ‘scorching’. Yn y rhan hynny o’r byd, mae Siriws yn codi cyn y wawr yn Awst and roedd y Groegwyr Hynafol yn ei gysylltu gydag amser mwyaf poeth y flwyddyn, gan gredu ei bod yn cyfrannu tuag at y gwres ochr yn ochr â’r Haul. Dyma darddiad y dywediad Cymraeg, ‘dyddiau cŵn’

Dau Gwch Gwenyn mewn Un Noson

Oeddech chi’n gwybod bod yna ddau glwstwr pert o sêr agored sydd wedi eu henwi ar ôl cychod gwenyn, oherwydd ymddangosiad haid o bryfed nefolaidd?

Cytser y Cwch Gwenyn (Mawr) yn y Cranc

RA 8h 40m 24s | Dec +19° 59′ 0″
Gellir gweld y clwstwr Cwch Gwenyn yn Cancr gyda’r llygaid noeth – mewn wybren dywyll fe welwch ddarn aneglur, gwan, ychydig i’r dde o’r clwstwr. Trwy ysbienddrych, mae’r clwstwr hwn yn ddymunol i’r llygaid a thrwy delesgop bach, fe fydd y sêr yn ymddangos yn llachar, ond yn fwy gwasgaredig.

Yn cynnwys oddeutu 1000 o sêr o’r un oedran, fe’u ganwyd o’r un cwmwl nwy ac maent yn gymharol ifanc a llachar. Maent mor bell i ffwrdd ohonom, fe fyddai’n cymryd 900,000 o flynyddoedd i deithio yno wrth ddefnyddio’r gwrthrych gwneud cyflymaf yn y gofod..

Gan Chuck Ayoub – Ei waith ei hun, CC0

Y Cytser Cwch Gwenyn (Bach) yn y Ci Mawr

RA 06h 46m 00s | Dec -20° 45′ 15″

Mae’r clwstwr llac hwn yn cynnwys 100 o sêr ac yn cynnwys hefyd nifer o gawrion coch, sef sêr goleuol sydd wedi disbyddu eu creiddiau hydrogen, ac yn tyfu’n hen ac ymchwyddiedig. Trwy delesgop bach mae’r cyster hwn yn edrych yn bert, gyda gwasgaredd o sêr llac gyda gem goch yn y canol.
Mae’r clwstwr hwn yn gorwedd ar bellter o 2,300 o flynyddoedd golau i ffwrdd, ac fe fyddai’n cymryd 3.5 miliwn o flynyddoedd i gyrraedd pen y daith, gan deithio ar gyflymder y gwrthrych gwneud cyflymaf yn y gofod.

Gan Chuck Ayoub – Ei waith ei hun, CC0