Croeso i rifyn mis Ebrill o Olwg ar Wybren y Nos lle byddwn yn rhoi manylion i chi am y pethau i’w gweld yn ystod y mis hwn.
Fe fydd mis Ebrill yn dechrau gyda diffyg llwyr ar yr haul – ond yn anffodus, ni fyddwn yn gallu gweld y diffyg ar dir mawr y DU, ond fe fydd pobl lwcus yng ngorllewin Iwerddon yn gallu gweld rhan ohono o 8yh tan y machlud.
Fe fydd hi’n tywyllu oddeutu 10yh ar ddechrau’r mis a 11yh ar y diwedd.
Am 10yh, y cytserau sy’n drechol yn wybren y nos yn ystod mis Ebrill yw’r Arth Fawr, sydd fri yn yr wybren, gyda’r Llew a’r Forwyn wedi’u lleoli’n dda ar gyfer gallu gweld y meysydd yn llawn o gyfoeth yr alaethau. Mae Orion yn parhau i suddo’n isel i’r gorwel gorllewinol, gydag Ercwlff a Thelyn Arthur, cytserau’r haf, yn codi yn y dwyrain.
Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar yr 8fed o Ebrill a’r Lleuad Lawn ar y 24ain o Ebrill.
Cawod o Sêr Gwib Lyrid
Ar yr 22ain a’r 23ain o Ebrill, fe fydd y gawod o sêr gwib Lyrid ar ei hanterth – fodd bynnag efallai y bydd goleuni oddi wrth y lleuad sydd bron yn llawn yn ein hatal rhag weld y cawodydd gwanaf. Maent yn weledol o’r 14eg – 30ain o Ebrill, felly mae’n werth gwylio’r wybren am sêr gwib yn ystod y cyfnod hwn pan na fydd golau’r Lleuad yn amharu ar yr amser gwylio. Cysylltir y Lyridau â’r Gomed Thatcher gyda’r pelydr wedi’i leoli yng nghytser Lyra.
Tymor y Galaethau
Fe adwaenir mis Ebrill yn y DU fel tymor y galaethau. Mae galaethau’n cynnwys casgliad wedi’i rwymo gan ddisgyrchiant o sêr, nwyon, llwch a phlanedau, ac maent yn dod mewn pob siâp a maint. Fe all rhai galaethau ond cynnwys miloedd o sêr, ac eraill yn gallu cynnwys triliynau o sêr; yr alaeth fwyaf rydym wedi darganfod cyn belled yn 2022 yw ESO 383-76, sydd 1.76 miliwn o flynyddoedd golau mewn diamedr, sy’n 17 gwaith yn fwy na’n Llwybr Llaethog ni! Oherwydd cyd-ddisgyrchiant, fe all galaethau grwpio gyda’i gilydd gan ffurfio clystyrau.
(Llun: ESO 383-76 gan y DESI Legacy Imaging Surveys, Data Release 10.)
Mae dwsinau o alaethau sy’n weledol trwy delesgop bach, o gytser isel Y Forwyn, trwy’r Llew, Coma Berenices, Canes Venatici hyd at yr Arth Fawr. Fe fydd rhai yn edrych fel smotiau niwlog, llwyd, yn wahanol i sêr, ac eraill efallai yn datgelu breichiau troellog hynod, llwybrau o lwch a chreiddiau llachar. Mae’n amser gwych o’r flwyddyn i brofi pŵer casglu golau eich telesgop a mynd allan i wybren dywyll i weld faint o alaethau y gallwch chi eu darganfod. Fe allwch ddefnyddio apiau megis Stellarium i ddarganfod ble mae’r galaethau hyn yn gorwedd a’u gweld dros eich hunan.
Fe allwch fod yn sganio’r wybren gyda’ch telesgop ac yn sydyn, fe ddaw grŵp o ‘fuzzies gwan’ i mewn i’ch sylladur fel y dangosir isod gan Michael Vlasov o deepskywatch.com. Mae’r ffaith bod y ‘blobiau’ hyn yn alaethau sy’n cynnwys miliynau a thriliynau o sêr, sy’n ddwsinau o flynyddoedd golau i ffwrdd, ac efallai sy’n cynnwys system blanedol fel un ein hun yn gwneud i rywun arswydo wrth feddwl am y peth.
Rhannir y braslun gan ganiatâd caredig Michael Vlasov, deepskywatch.com.
Yr Alaeth Drobwll (Mesier 51)
RA 13h 29m 53s | Dec +47° 11′ 43″
Un gwrthrych dymunol i’w astudio yw’r Alaeth Drobwll yng nghytser Canes Venatici, neu Messier 51. Mewn gwirionedd dwy alaeth ryngweithiol ydynt. Fe ddatgelodd y Telesgop Hubble ein bod yn gweld un alaeth yn mynd tu ôl i un arall. Yr alaeth llai i’r de yw NGC 5195 ac mae wedi bod yn symud yn araf heibio ei gymydog mwy, gan greu grym llanw sy’n tynnu ar M51, gan achosi i’w fraich gwyrdroi. Mae’r grym hefyd yn sbarduno ffurfiant o sêr.
Gallwch ddefnyddio dull hopian sêr. Edrychwch am gytser Yr Arth Fawr ac edrychwch am y seren sydd ar ddiwedd ‘ddolen y badell’ a elwir yn Alkaid – chwiliwch amdano yn eich darganfyddwr a symudwch eich telesgop yn araf ychydig i’r dde hyd nes i chi weld smotyn gwan iawn – rhowch hwn yn y canol gan edrych arno trwy’ch sylladur. Fe fydd telesgop pum modfedd yn datgelu smotyn aneglur, ond trwy delesgop gydag agorfa o wyth modfedd neu fwy, fe fyddwch yn dechrau gweld y breichiau troellog o’r alaeth fwy ynghyd â’i chydymaith. Defnyddiwch golwg wedi’i osgoi er mwyn gweld rhagor o fanylion.
Goleuni Sidyddol
Mae dal digon o amser i weld y Goleuni Sidyddol anhygoel.
Ymwelwch â Pharc Rhyngwladog Wybren Dywyll Cwm Elan ac edrychwch allan am y côn hyfryd o oleuni awyrol sy’n disgleirio’n groesgornel i mewn i’r wybren orllewinol sy’n tywyllu. Mae hwn ar ei orau oddeutu awr ar ôl y machlud.
Cytser y Mis – y Llew
Fe ellir gweld cytser y Llew yn y gwanwyn wedi iddi nosi. Y ffordd hawsaf i’w weld yw edrych am farc cwestiwn am yn ôl (asterism) yn wybren y nos. Gelwir y seren ar waelod yr asterism yn Algieba sy’n golygu ‘Mwng y Llew’. Edrychwch am y seren ddisglair Regulus (sy’n golygu seren frenhinol) ac fe ddylech fod yn gallu gweld gweddill corff gorweddol y llew.
Yn yr hen anser, fe adwaenwyd y cytser hwn yn gyffredinol fel y llew, o’r Eifftwyr hynafol a oedd yn parchu’r cytser hwn, y Persiad hynafol hyd at fytholeg y Rhufeiniaid a’r Groegiaid.
Ym mytholeg Groegaidd, roedd y Llew yn cynrychioli’r Llew Nemean a oedd wedi achosi llawer o broblemau yn ei amser. Roedd ganddo’r ddawn o fynd â phobl i’w wâl ac yna herio’r rhyfelwyr i ddod i’w hachub. Ercwlff oedd yr unig un oedd yn gallu trechi’r llew yma, gan roedd ganddo fwng euraid a oedd yn ei warchod rhag gael ei ladd gan arfau. Rhoddodd Ercwlff ei arfau i lawr gan drechu’r llew a’i ddwylo noeth.