Croeso i ddiweddaraid y mis hwn i ddarganfod beth sydd yn wybren y nos ym mis Awst.
Ym Mharc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan, mae’r tywyllwch seryddol wedi dychwelyd – yn parhau am oddeutu dwy awr a hanner o hanner nos ar ddechrau’r mis, a chwech awr ar y diwedd, yn dechrau am 10:15yh. Mae hyn yn golygu y bydd yr amodau yn berffaith ar gyfer gweld y Llwybr Llaethog yn ei holl ogoniant yn ardaloedd yr wybren dywyll, yn enwedig yng nghyfnod y Lleuad Newydd yn ystod pythefnos diwethaf mis Awst.
Golygfa’r holl wybren o’r cytserau o 10yh ym mis Awst o’r in-the-sky.org
Yn isel ar y gorwel deheuol, fe welwch gytser y Saethydd, yn debyg i debot, gyda’r Alarch, Ercwlff, Offiuchus, Acwila a Thelyn Arthur wedi’u lleoli’n dda uwchben.
Yn y dwyrain, mae cytserau hydrefol Pegasws, Andromeda a Cassiopeia ar ffurf ‘w’. Yn y gorllewin mae Boötes yn dechrau machlud.
Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 9fed o fis Awst a’r Lleuad Newydd ar y 23ain o fis Awst.
Cawod o Sêr Gwib Perseid
The grandest meteor show of the year, the Perseid meteor shower, is currently underway. Starting on 17th July and ending on 24th August, it peaks on 12th August.
Unfortunately, optimal conditions will be compromised by the nearly Full Moon’s light but it is still worth getting outside to see the brighter meteors, of which there can be many.
We’ve been outside before on the 12th August during a Full Moon and some meteors can still be seen. The Moon will rise in the east at 9.50pm, which can be a glorious sight.
Whenever it is clear, try to get outside to see these shooting stars during the five-week duration of this shower, as the Earth passes through the debris left by comet Swift/Tuttle. Mae sioe fwyaf mawreddog y flwyddyn, sef y gawod o sêr gwib Perseid, wedi dechrau. Gan gychwyn ar y 17eg o Orffennaf a gorffen ar y 24ain o Awst, mae ar ei anterth ar y 12fed o Awst.
Yn anffodus, fe fydd amodau optimaidd yn cael eu cyfaddawdu gan olau’r Lleuad sydd bron yn llawn, ond fe fydd hi dal yn werth mynd tu allan i weld y meteorau mwyaf disglair, ac fe fydd llawer ohonynt.
‘Rydym wedi bod tu allan o’r blaen ar y 12fed o Awst yn ystod y Lleuad Lawn ac mae’n bosibl gweld ambell i feteor. Fe fydd y Lleuad yn codi yn y dwyrain am 9.50yh, sydd yn olygfa godidog.
Pan fydd hi’n glir, ceisiwch fynd tu allan i weld y sêr gwib yn ystod cyfnod o bump wythnos y gawod hon, wrth i’r Ddaear basio trwy falurion a adawyd gan y gomed Swift/Tuttle.
Credit: Howeni (@oweni)@ Unsplash
Y Planedau ym mis Awst
Y Blaned Iau
Fe fydd rhaid i wylwyr y Blaned Iau godi’n gynnar gan ei bod, ar hyn o bryd, yn blaned foreuol, yn codi oddeutu 3.15yb ar ddechrau’r mis ac 1.45yb ar y diwedd.
Y Blaned Sadwrn
Mae’r Blaned Sadwrn yn codi am 11yh yn y dwyrain ar ddechrau’r mis, ac yn ymddangos yn isel ar y gorwel ddwyreiniol wrth iddi dywyllu ar y diwedd.
Y Blaned Gwener
Mae’r Blaned Gwener yn codi am 2.30yb yn y gogledd-ddwyrain ar ddechrau’r mis ac am 1.50yb ar y diwedd.
Cysylltiad Planedol Ychwanegol
Os ydych yn mynd i wylio’r Gawod o Sêr Gwib Perseid ar y 12fed o Awst, fe fydd syrpreis ychwanegol o gysylltiad planedol syfrdanol am oddeutu 2.45yb – gwyliwch y planedau Iau a Gwener yn codi gyda’i gilydd yn y gogledd-ddwyrain wrth iddyn nhw cael eu gwahanu gan ond 0.9 gradd mewn pellter.
Cytser y Mis
Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.
Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.
Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.
Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.
Cytser y Mis – Yr Alarch
Mae cytser Yr Alarch wed’i lleoli’n dda yn ystod mis Awst ac fe ellir ei weld yn y de. Fe’i adwaenir hefyd fel y Groes Ogleddol oherwydd ei ffurf groes nodedig.
Mae hyn yn cynnwys rhan o gytser fwy Yr Alarch, ac yn yr wybren dywyll, mae’n edrych fel alarch gosgeiddig, gyda’i wddf hir estynedig, wedi’i ddal wrth iddo hedfan ar hyd y Llwybr Llaethog.
Ym Mytholeg Groeg, roedd yr Alarch yn ffrind gorau i Phaethon, sef mab Helios, duw’r haul. Perswadiodd Phaethon ei dad i fynd a’i gerbyd rhyfel haul am dro yn yr wybren uwchben y Ddaear. Rhybuddiodd ei dad fod angen sgìl i hedfan y cerbyd rhyfel, ond fe berswadiodd Phaethon, yn ei falchder ifanc, y byddai’n gallu gwneud y dasg. Ar ôl iddo gael caniatâd, fe hedodd Phaethon, ond wrth iddo esgyn, fe gollodd reolaeth gan achosi’r cerbyd rhyfel i golli cydbwysedd. Sgimiodd y Ddaear, gan achosi gwres a sychder, ac yn sydyn wrth godi’n uchel i’r wybren, dod ag eira a iâ. Roedd y niwed yn bell-gyrhaeddol, gan greu anialwch y Sahara a moroedd berwedig. Roedd y tymhorau allan o reolaeth ac er mwyn arbed trigolion y Ddaear, fe wnaeth Zews daro’r cerbyd rhyfel â tharanfollt, gan achosi iddo ddisgyn i’r Ddaear.
Roedd Yr Alarch yn aruthrol o drist am farwolaeth ei ffrind gorau gan dreulio gweddill ei fywyd yn chwilio am weddillion Phaethon ar hyd Afon Eridanws. Roedd Zeus o dan deimlad wrth weld ffyddlondeb yr Alarch, gan ei drawsnewid i fod yn alarch enfawr a’i roi ymhlith y sêr.
Eddies Coaster
Gwrthrych sy’n rhyfeddol o amlwg trwy ysbienddrych 10×50 yw’r asterism hwylus o’r enw Eddie’s Coaster. Mae’n debyg i chwyrli gwgan byr, seryddol ger cytser Llys Dôn.
Yn gwynebu tua’r gogledd-ddwyrain, edrychwch fri uwchben y gorwel am batrwm o sêr nodedig ar ffurf ‘w’ – hwn yw cytser
Llys Dôn. Edrychwch ar y cytser, codwch eich ysbienddrych tuag at eich llygaid gan sganio’n araf o gwmpas yr ardal hyd nes y gwelwch linell gain, chwyrlïog o sêr bychain.
Her y Telesgop – Nifwl Dymbel
RA 19h 59m 35s | Dec +22° 43′ 16″
Er yn weladwy ac yn eithaf llachar trwy delesgop bach, fe all y gwrthrych hwn fod yn heriol i’w ddarganfod, oherwydd ei leoliad yng nghytser eithaf aneglur Vulpecula (Y cadno). Mae Sagitta, fodd bynnag, yn haws ei weld yn wybren y nos ac yn ymddangos fel saeth – a rhwng y ddau cytser hyn mae Nifwl Dymbel (Messier 27).
Yn gorwedd 1200 o flynyddoedd golau i ffwrdd, mae’r nifwl planedol yn cynnwys nwyon a fwrwyd allan o seren sydd ar ddiwedd ei hoes. Pan fydd hen seren yn rhedeg allan o danwydd niwclear, maent yn ymledu i gawr coch. Gan ddiosg eu haenau allanol, mae’r hen sêr hyn yn ffurfio i mewn i gorblaned gwyn. Wrth i’r gorblaned gwyn saethu allan pelydriadau uwchfioled, mae’n achosi’r nwyon o amgylch i dywynnu.