Golwg ar Wybren y Nos – mis Hydref 2024

Golwg ar Wybren y Nos – mis Hydref 2024

01st Hydref 2024

Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar beth sydd yn wybren y nos ym mis Hydref.

Mae’n tywyllu’n gynnar y mis hwn ac mae’n dda gallu syllu ar y sêr heb orfod colli cwsg.  Mae llawer yn digwydd yn ystod y mis hydrefol hwn gyda phosibilrwydd o gomed i’w weld gyda’r llygaid noeth yn ogystal â chawod o sêr gwib.

Mae’n tywyllu oddeutu 8.40yh ar ddechrau’r mis a 6.40yh ar y diwedd.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Am 10yh y cytserau sy’n dominyddu yn wybren nos deheuol yn ystod mis Medi yw Pegasws, y Dyfrwr a’r cytser gwan sy’n gorwedd yn isel, yr Afr.  Mae Seffews wedi’i leoli’n dda.  Mae cytser hafaidd Ercwlff, Acwila, y Saethydd a’r Delyn yn symud tua’r gorllewin, ac yn y dwyrain mae’r cytser gaeafol Auriga a’r Tarw yn dechrau codi. 

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar yr 2il o Hydref a’r Lleuad Lawn ar y 17eg o Hydref.  Fe fydd y Lleuad yn perigê (sef yr agosaf at y Ddaear) ar y 17eg o Hydref, fel arall fe’i hadwaenir ar y cyfryngau fel ‘Gorleuad’. Mae’r Gorleuad yn 30% yn fwy llachar a 14% yn fwy nag yn ystod y cyfnod cyferbyniol yr apoge, sef pan mae’r Lleuad ar ei phellaf bwynt i ffwrdd oddi wrthym yn ei horbit o’n hamgylch.  Gan fod y symudiad hwn mewn disgleirdeb a maint yn raddol, ni fyddwn yn sylwi ar y cynnydd, ond mae’n hyfryd i edrych ar y Lleuad Lawn yn codi yn yr hwyr; felly, edrychwch amdani yn codi yn y dwyrain wrth i’r Haul fachlud oddeutu 6yh ar y 17eg o Hydref.

Planedau

Mae’r hydref yn amser da ar gyfer astudio’r planedau yng nghysawd yr Haul.  Fe fydd y planedau Sadwrn ac Iau yn cynyddu mewn uchder yn ystod y tymor; yn fwy eleni nag yn y blynyddoedd blaenorol.  Fe fydd y blaned Sadwrn yn barod yn y de pan fydd hi’n nosi ac yn eistedd yng nghytser Acwariws.  Mae’r blaned Iau yn codi yn y gogledd-ddwyrain oddeutu 9.20yh.  Mae’r blaned Mawrth yn codi o 11yh ar ddechrau’r mis ac oddeutu 10yh ar y diwedd, ac wrth iddi agosáu at y gwrthwynebiad ar yr 16eg o Ionawr 2025, fe ddaw’n haws i’w gweld.

Cysylltiad y Lleuad a’r Blaned Sadwrn

Ar y 14eg o Hydref, fe fydd y Blaned Sadwrn yn mynd heibio’n agos at y Lleuad, a fydd yn 90% yn llawn.  Fe fydd yn ymddangos yn isel ar y gorwel deheuol ar ôl iddi ddechrau nosi.

Cysylltiad y Lleuad a’r Blaned Iau

Wythnos yn ddiweddarach fe fydd ailgyfle i weld cysylltiad blanedol.  Fe fydd y blaned Iau yn mynd heibio’n agos at y Lleuad, a fydd yn 83% yn llawn.  Edrychwch am y blaned Mawrth yn codi yn y gogledd-ddwyrain

Comed C/2023 A3 (Tsuchinshan-ATLAS) am 8yh ar y 14eg o Hydref.  Mae llinell goch yn dynodi orbit rhagdybiedig y gomed dros y mis nesaf. (Ffynhonnell y ddelwedd: Stellarium)

A fydd Comed Lachar yn yr Hydref?

Efallai y bydd hi’n bosibl i weld Comed C/2023 A3 (Tsuchinshan-ATLAS) gyda’r llygaid noeth yr hydref hwn. Ar adeg ysgrifennu, mae’r gomed mewn cyflwr da ac mae’r cyfle i’w gweld yn hawdd yn dda.  Edrychwch amdani yn ystod tri diwrnod cynta’r mis pan fydd yn gorwedd yn isel ar y gorwel dwyreiniol gyda’r wawr – pan fydd y gomed yn cyrraedd perihelion – (sef ei man agosaf at yr Haul) ar ddiwedd mis Medi, felly dylai fod ar ei mwyaf disglair.  Oddeutu’r 10fed o Hydref mae’n ymddangos yn isel cyn y cyfnos, yn yr wybren orllewinol, ond wrth i’r mis mynd yn ei flaen, fe fydd yn ymddangos yn uwch yn wybren y nos, ac yn mynd heibio cytserau Serpens ac Offiwchus.  Cofiwch er hynny, fe fydd y Gomed yn gwanhau felly os na fyddwch yn gallu ei gweld gyda’r llygaid noeth, ewch ag ysbienddrych tu allan a chrafwch yr ardal.  Mae ymddygiad y Gomed yn anrhagweladwy felly fe all fod yn anodd i fesur pa mor llachar y gall bod.

Cawod o Sêr Gwib Orionid

Fe fydd cawod o sêr gwib Orionid (2il o Hydref – 7fed o Dachwedd) ar ei hanterth ar noson yr 21ain o Hydref.  Fe fydd 82% o’r Lleuad crychlyd wan yn ein hatal rhag fwynhau’r gawod hon ar ei gorau, ond efallai y bydd hi’n werth mynd tu allan a cheisio ddod o hyd i’r sêr gwib mwyaf llachar;  mae rhain yn symud yn gyflym ac yn gadael traciau parhaol ar ei holau.  Llwch comedol yw’r meteorau hyn a adawyd gan yr enwog Gomed Halley wrth i’r Ddaear fynd trwy’r malurion a adawyd yn ei sgil.

Trysorau’r Ysbienddrych

Mae dwy seren liwgar y gellir eu gweld trwy ysbienddrych.

Nid oes dynodiad swyddogol ar gyfer y trysorau wybrennol disglair hyn.  Mae 30 Cygni a 31 Cygni yng nghytser yr Alarch a gellir eu gweld tra’n edrych am dair seren lachar a adwaenir fel Triongl yr Haf:  Altair, Fega a Deneb.  Mae Deneb yn Nghytser yr Alarch ac mae’r ddau wedi’u lleoli yn safle pedwar o’r gloch fel seren wan gyda’r llygaid noeth.  Codwch yr ysbienddrych at eich llygaid ac fe fydd y seren unigol hon yn cydrannu’n un seren euraidd melyn (30 Cygni) ac un seren las (31 Cygni).  Fe fyddant yn ymddangos yn llachar ac yn ddirgrynol ac yn atgoffaol o’r sêr dwyran Albireo yn yr Alarch.  Adwaenir y ddau fel seren ddwbl, yn ymddangos yn agos at ei gilydd wrth i ni eu gweld o’r Ddaear.


Her y Telesgop

RA | 1 42 19.75
Dec | 51° 34′ 30.86″

Gan ddilyn ymlaen o nifwl planedol y mis diwethaf, mae un arall i’w ddarganfod.  I’r rhai sydd ddim yn defnyddio’r Equatorial Coordinate System er mwyn darganfod gwrthrychau yn yr wybren bell, fe allwch ddod o hyd i’r targed heriol hwn trwy ddod o hyd i Sgwâr Pegasws.

Dewch o hyd i seren ar y llaw dde uchaf yn y sgwâr a chyfrifwch dair seren ar draws (Cytser Andromeda).  Uwchben y seren honno, fe leolir y nifwl Little Dumbbell hanner ffordd rhwng y seren honno a chytser Cassiopeia.

Ffordd arall o ddod o hyd iddi yw i roi ongl eang sylladur chwyddo isel arni, chwilio am y Clwstwr Dwbl, sydd o dan ochr orllewinol cytser Cassiopeia, gan symud eich telesgop i’r dde hyd nes y bydd y nifwl yn symud i’w le.  Defnyddiwch fwy o chwyddiant er mwyn astudio’r gwrthrych.

Mewn wybren dywyll, fe fydd yn edrych fel craidd afal yn cael ei amgylchynu gan ychydig o niwlogrwydd.  Credir i’r nifwl hwn gan ei enwi ar ôl ei gefnder fwy, Nifwl Dumbbell (m27) yng nghytser Fwlpecwla.

Wedi’i leoli oddeutu 3400 o flynyddoedd golau oddi wrth y Ddaear, plisgyn nwy yn ehangu yw’r nifwl hwn a gafodd ei fwrw allan gan seren sy’n marw.

Canmoliaeth am y ddelwedd: Michael Vlasov o www.deepskywatch.com