Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar beth sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Medi.
Mae hwn yn amser gwych o’r flwyddyn er mwyn syllu ar y sêr gan nad oes rhaid i chi aros tan yr hwyr i weld y gwir dywyllwch, ac fe allwch astudio clystyrau’r sêr, nifylau a’r galaethau ar eu gorau.
Mae hi’n nosi oddeutu 10yh ar ddechrau’r mis a 8.50yh ar y diwedd.
Am 10yh, y cytserau sy’n amlwg yn wybren ddeheuol y nos yn ystod mis Medi yw’r Alarch, sydd wedi’i leoli’n dda, Telyn Arthur, sy’n gorwedd ar ochr ddwyreiniol y Llwybr Llaethog, a’r Saethydd a’i gytser tebot enwog, sy’n gorwedd yn isel ar y gorwel.
Mae Ercwlff ac Ophiuchus yn gorymdeithio tua’r dwyrain a Boötes gyda’i seren lachar Arcturus yn dechrau machlud.
Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 3ydd o Fedi a’r Lleuad Lawn ar y 17eg o Fedi.
Planedau
Fe fydd y blaned Sadwrn mewn gwrthsafiad ar yr 8fed o Fedi, sy’n golygu pe fyddech chi’n tynnu llinell ddychmygol o’r Haul sy’n mynd trwy’r Ddaear, fe fyddai’r blaned Sadwrn hefyd ar y llinell honno gyda’r Ddaear yn y canol. Mae hyn yn digwydd tua unwaith y flwyddyn wrth i’r planedau troi o gwmpas yr Haul. Mae’r blaned Sadwrn yn wych i’w gweld yn ystod y cyfnod hwn, gan ei bod yn ymddangos ar ei mwyaf llachar a mawr.
Erbyn diwedd mis Medi, mae’r blaned Iau wedi’i lleoli’n dda yn wybren y nos er mwyn ei hastudio. Edrychwch am leuadau Iau a’r cyfle i astudio’r bandiau o gymylau sydd ar wyneb y blaned. Cymerwch amser i’w hastudio, gan fydd adegau pan fydd yr atmosffer yn tawelu ac fe gewch gipolwg byr o’r troellau a’r bandiau mewn manylder gwych.
Fe fydd cefnogwyr y planedau enfawr o iâ, Neifion ac Wranws, yn cael y cyfle i’w hastudio y mis hwn, gan eu bod hefyd wedi’u lleoli’n
dda. Fe fydd Neifion mewn gwrthsafiad ar yr 21ain o Fedi. Fe fyddant yn ymddangos fel smotiau niwlog cyson o las/gwyrdd. Fe fydd unrhyw un sydd â thelesgop ag agorfa o 10 modfedd neu fwy efallai yn gallu gweld Triton, sef un o 16 lleuad mwyaf Neifion.
Diffyg Rhannol ar y Lleuad
Ar y 18fed o Fedi fe fydd diffyg rhannol ar y Lleuad. Fe fydd y Lleuad yn symud i ogysgod oeddeutu 1.41yb – hwn yw cysgod allanol y Ddaear wrth iddi symud yn raddol i’w safle rhwng y Lleuad a’r Haul.
Mae’r Lleuad yn symud i’r cysgod wmbrol oddeutu 3.13yb, gyda phwynt mwyaf y diffyg rhannol yn digwydd am 3.44yb. Fe fydd hyn yn weledol – wybren glir yn caniatáu! – gan fod yr wmbrol (y cysgod mewnol) yn fwy tywyll a’r Lleuad yn ymddangos fel pe bai brathiad wedi’i dynnu allan ohoni ar yr ochr orllewinol uchaf. Fe fydd y Lleuad yn gadael y gogysgod am 4.16yb a’r wmbrol am 5.47yb.
Nifwl Pelen Eira Las
RA | 23h 27m 05s
Dec | +42° 40’ 14”
Y mis hwn, mae gennym her ddiddorol i wylwyr i ddarganfod. Fe adwaenir NGC 7662 yn fwy cyffredinol fel Nifwl Pelen Eira Las.
Mae wedi’i leoli oddeutu 2500 o flynyddoedd golau o’r Ddaear, ac achosir y nifwl planedol hwn gan seren sy’n marw ond sydd heb y màs i ffrwydro fel uwchnofa. Yn hytrach, mae’n gollwng ei haenau allanol yn dawel fel nwy ïoneiddiedig, gan greu’r nifwl, sy’n apelio’n weledol, ac a all ddisgleirio’n ddigon llachar i’w weld trwy delesgop. Mae’n disgleirio’n las gan fod y nwyon yn cynnwys ocsigen yn bennaf. Mae’r braslun ar y dde yn dangos sut olwg fyddai ar y nifwl hwn trwy delesgop ag agorfa 8 modfedd mewn wybren dywyll iawn. Fe ellir gweld lliw glas y nifwl hyfryd hwn. Credir y bydd ein haul ni hefyd yn gorffen ei fywyd fel nifwl planedol, yn hytrach na fel uwchnofa ysblennydd, fel sy’n gyffredin gyda sêr llawer mwy.
Canmoliaeth am y ddelwedd: Michael Vlasov o www.deepskywatch.com
Fe allwch ddod o hyd i’r gwrthrych hwn trwy leoli pedwar cytser: Llys Dôn, Andromeda, Pegasws a Lacerta. Edrychwch am seren Caph yn Llys Dôn a thynnwch linell ddychmygol ar draws i’r seren Scheat yng nghytser Pegasws – mae’r nifwl Pelen Eira Las bron yng nghanol y llinell. Os ydych yn defnyddio’ch darganfyddwr i leoli’r asterism tair seren fach: Lambda Andromedae, Kappa Andromedae ac Iota Andromedae, mae’r nifwl wedi’i lleoli ger y sêr hyn, ond wedi i chi ddefnyddio’ch darganfyddwr i weld y sêr hyn, fe fydd angen i chi edrych trwy’ch sylladur i weld y nifwl wrth iddo ddod i’ch golwg.