Croeso i ddiweddariad y mis hwn i weld beth sydd yn wybren y nos ym mis Mehefin.
Ym Mharc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan, nid oes tywyllwch seryddol yn ystod y mis hwn, mae’r nosweithiau mewn cyfnos parhaol.
Golygfa holl-awyr o’r cytserau o 12yb ym mis Mehefin o ‘in-the-sky.org’
Yn isel ar y gorwel deheuol, fe welwch gytser y Fantol, gyda Choron y Gogledd a Boötes wedi’u lleoli’n hwylus uwchben. Gellir adnabod Boötes wrth ei Arctwrws mawr coch, sef y pedwerydd seren fwyaf llachar yn wybren y nos.
Yn y dwyrain, mae cytserau haf yr Alarch, Saethlin ac Acwila yn codi, gydag Ercwlff, Telyn Arthur ac Ophiuchus wedi’u lleoli’n hwylus yn wybren y nos.
Mae cytersau gwanwyn Corfis, y Cranc, y Forwyn a’r Llew yn machlud yn y gorllewin.
Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar yr 11eg o Fehefin a’r Lleuad Newydd ar y 25ain o Fehefin.
Heuldro’r Haf
Eleni mae heuldro’r haf yn digwydd ar ddydd Sadwrn 21ain o Fehefin 2025, sef y diwrnod hiraf a noson fwyaf byr y flwyddyn. Fe fydd 16 awr a 38 munud o olau dydd.
Ar hyn o bryd, mae Hemisffer y Gogledd ar ei gogwydd mwyaf tuag at yr Haul.
Tymor y Cymylau Noctilucent
Mae’r cyfle i weld cymylau symudliw y nos yn cynyddu yn ystod mis Mehefin.
Gan ddibynnu ar nerth y ‘storm’, fe ellir gweld rhain 90 a 120 munud ar ôl iddi fachlud a chyn y wawr. Os bydd y sioe yn arbennig o gryf, efallai y byddwch yn gallu eu gweld oddeutu 30 munud ar ôl i’r haul fachlud.
Edrychwch ar wefan Spaceweather.com er mwyn gweld sylwadau NOAA21.
Y Planedau ym mis Mehefin
Ar y 1af o Fehefin, fe fydd y blaned Gwener ar ei hestyniad gorllewinol mwyaf, sy’n golygu bod ei chylchdro mewn safle sy’n ymddangos fel petai y pellaf i’r gorllewin o’r haul a phetai’n fertig, byddai’n ffurfio rhan o ongl sgwâr (90 gradd) gyda’r Haul a’r Ddaear yn freichiau. Pob bore ar ôl hyn, fe fydd y blaned Gwener yn symud yn agosach tuag at yr Haul. Fe fydd y blaned Gwener yn codi yn y dwyrain am 3.24yb ar ddechrau’r mis a 2.36yb ar y diwedd.
Fe fydd y blaned Sadwrn yn y dwyrain am 2.44yb ar ddechrau’r mis a 12.53yb ar y diwedd.
Cysylltiad y Lleuad, y Blaned Sadwrn a’r Blaned Neifion
Ar y 19eg o Fehefin, fe fydd y Lleuad a’r blaned Sadwrn yn rhannu’r un esgyniad cywir ac wedi’u gwahanu’n agos gan 3˚23’ o bellter. Mae’r blaned Neifion wedi’i lleoli yng nghanol y ddau wrthyrch, sy’n rhoi cyfle i’w gweld, ond efallai y bydd hyn yn fwy anodd oherwydd y nosweithiau golau. Mae’n werth yr ymdrech, yn enwedig ar noson lonydd. Os oes gennych delesgop chwe modfedd, ceisiwch ddod o hyd iddi trwy ddefnyddio chwyddiad uchel. Fe fydd y cysylltiad yn edrych yn dda trwy ysbienddrych bach. Os oes gennych ysbienddrych wedi’i leoli ar trybedd gamera, efallai y byddwch yn gallu gweld y blaned Neifion, er y bydd yn ymddangos fel seren wan.
Cysylltiad y Lleuad a’r blaned Gwener
Ar yr 22ain o Fehefin, fe fydd y Lleuad ar ei chil ac yn pasio 7˚10’ i’r gogledd o’r blaned Gwener, gan rannu’r un esgyniad cywir ac yn ymddangos fel gwrthrychau boreuol hyfryd yn y dwyrain.
Cytser y Mis
Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.
Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.
Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.
Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.
Cysylltiad y Mis – Coron y Gogledd, ‘Caer Arianrhod’
Mae cysylltiad Coron y Gogledd yn hawdd i’w weld unwaith i chi wybod beth i edrych amdano! Ymhlith patrwm hanner cylch tynn o sêr, mae wedi’i lleoli rhwng cysylltiad Boötes a Chlwstwr Mawr Ercwlff. Y mis hwn, mae wedi’i lleoli’n berffaith yn y de am hanner nos. Gellir ei gweld trwy chwilio am Asterism Carreg Pen y Gongl yn Ercwlff – edrychwch am y seren fwyaf llachar yn safle pedwar o’r gloch o’r asterism ac fe welwch Arcturus, y bedwaredd seren fwyaf disglair yn wybren y nos, yng nghytser Boötes. Yng nghanol y ddau wrthrych, edrychwch am drefniant o sêr hanner cylch sy’n debyg i goron: mewn gwirionedd, fe’i hadwaenir fel y Goron Ogleddol.
Fe gysylltir Coron y Gogledd gyda nifer o chwedlau ar draws y byd, megis y Dywysoges Ariadne o Ynys Creta o Chwedl Roegaidd; Woomera, bwmerang o Awstralia, a’r Cylch Gwersyll, a enwyd ar ôl Cheyenne, sef pobl brodorol Gorllewin yr Unol Daleithiau.
Mae’r chwedl Gymreig yn cysylltu hwn â Chaer Arianrhod, Castell y Cylch Arian, sef cartref nefolaidd Arianrhod, merch Don.
Mewn gwirionedd, enw’r seren fwyaf llachar yw Gemma, sef y Lladin am y gair gem.
Chwiliwch am ambell Sêr Ddwbl
Oherwydd bod y nosweithiau yn oleuach, nid oes rhaid i chi rhoi eich ysbienddrych o’r neilltu. ‘Rydych chi dal yn gallu chwilio am sêr ddwbl a chlystyrau agored.
Edrychwch am y seren Zubenelgenubi gan sganio’ch ysbienddrych yn araf tua’r dde – fe ddylai 17 ac 18 Librae ymddangos fel sêr oren wedi’u gwahanu’n eang.
Adwaenir y ddau bâr fel sêr dwbl gweledol, sy’n golygu eu bod yn ymddangos yn agosach atom o’n safbwynt ar y ddaear.
Tair belen o Sêr
Gall syllu ar y sêr yn yr haf fod yn brofiad pleserus, yn enwedig gyda’r nosweithiau cynnes.
Os oes gennych delesgop, mae’n werth edrych am y gwrthrychau mwyaf llachar megis clystyrau crwn – maent yn gallu ymddangos ychydig yn aneglur trwy sylladur, ond maent yn rhoi blas i chi o beth sydd i ddod pan fydd y tywyllwch seryddol yn dychwelyd.
Mynnwch delesgop, yn ddelfrydol gydag agorfa o 6 – 8 modfedd
ac ewch ati i chwilio!
Messier 3
RA: 13h 42m 11.62s | Dec: +28° 22′ 38.2″
Mae Messier 3 yn wrthrych sydd ar ei orau i’w weld yn y gwanwyn ond yn dal wedi’i leoli’n dda am hanner nos. Wedi’i leoli rhwng cytserau Coma Berenices a Boötes, mae’r clwstwr o sêr crwn hyn yn gorwedd 34,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd ac yn cynnwys hanner miliwn o sêr. Mae’n ymddangos fel pelen dynn o sêr o dan wybren dywyll iawn ond yn y cyfnos mae’n ymddangos rhywfaint yn aneglur.
ESA/Hubble a NASA
Messier 5 (Clwstwr y Rhosyn)
RA: 15h 18.6m | Dec: +02° 05´
Messier 5 yw ein hail glwstwr crwn i’w ddarganfod yng nghytser Serpens. Mae’r gwrthrych hwn yn gorwedd 24,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd ac yn cynnwys 100,000 o sêr. Fe fydd yn ymddangos fel darn aneglur gydag ychydig o sêr; efallai bydd yn heriol i’w weld o dan wybren y nos oleuach.
ESA/Hubble a NASA
Messier 13 (Y Clwstwr Mawr yn Ercwlff)
RA: 16h 41m 41s | Dec: +36° 27′ 35″
Mae’r Clwstwr Mawr yn Ercwlff (Messier 13) yn glwstwr crwn da sy’n hawdd ac yn hyfryd i’w darganfod. Wedi’i leoli yng nghytser Ercwlff, mae’n ymddangos trwy delesgop fel pelen lachar o binnau sêr a ellir eu cydrannu i’r craidd o dan wybren fwy tywyll. Mae’n cynnwys 300,000 o sêr, ac wedi’i lleoli 25,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd o’r Ddaear.
ESA/Hubble a NASA