Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar gyfer wybren y nos ym mis Rhagfyr.
Ym Mharc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan, mae tywyllwch seryddol yn ymestyn am 11 awr a 52 munud ar ddechrau’r mis o 17:58, a 12 awr a 4 munud yn dechrau am 18:06 ar y diwedd. Digon o amser i ddod i adnabod yr wybren dywyll ac unrhyw bethau sy’n ymweud â seryddiaeth sy’n berthnasol i’r Nadolig!

Golyfa holl-wybrennol o’r cytserau o 10yh ym mis Rhagfyr o in-the-sky.org
Yn isel ar y gorwel deheuol, mae’r cytser gwan Eridanws. Yn uwch i fyny yn y de, mae cytserau’r Tarw, yr Hwrdd, y Triongl, Persews a Casiopeia. Tua’r gorllewin, mae cytserau Andromeda a Pegasws yn dechrau machlud, tra bo cytserau haf yr Alarch, Telyn Arthur a’r Forhwch yn machlud yn y gorllewin.
Mae cytserau Orion, Lepws, y Cerbydwr, yr Efeilliaid a Monoceros yn dechrau dominyddu wybren y gaeaf, tra bo’r Arth Fawr a’r Arth Fach yn gorwedd yn isel uwchben y gorwel gogleddol.
Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 4ydd o Ragfyr a’r Lleuad Newydd ar yr 20fed o Ragfyr. Adwaenir Lleuad Lawn ‘Oer’ y mis hwn fel y Gorleuad ac yr olaf o’r dair dilynol, a’r un agosaf i’r Ddaear yn ei chylchdro eliptigol. Fe all y Gorleuad fod yn 14% – 30% yn fwy ac yn fwy llachar nag arfer – fodd bynnag, nid yw’r maint yn weledol i’n llygaid ni.

Cawod o Sêr Gwib Geminid
Mae’r ail gawod o sêr gwib mwyaf syfrdanol y flwyddyn yn barod i ddisgleirio yn ein hwybren mis Rhagfyr!
Mae’r Gawod o Sêr Gwib Geminidau yn digwydd rhwng y 4ydd a’r 20fed o Ragfyr, ac mae ar ei hanterth yn hwyr yn y nos ar y 14eg o Ragfyr.
Fe wyddir iddi gynnwys oddeutu 120 meteor yn ystod ei hanterth, ac mae’r meteorau yn gyflym, llachar a lliwgar, gan oleuo’r wybren gyda sêr gwib coch, gwyrdd, gwyn, melyn a glas. Yn pelydru o gytser yr Efeilliaid, credir i’r gawod darddu o falurion a adawyd gan asteroid 3200 Phaethon. Fe fydd y Lleuad 28% allan o’r ffordd y rhan fwyaf o’r noson, gan godi am 2.30yb, a fydd yn eich galluogi i gael y wybren dywyll sydd angen er mwyn gweld sêr gwib.

Cytser y Mis
Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.
Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.
Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.
Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.
Cytser y Mis – Orion
Mae cytser Orion wedi’i leoli’n dda yn ystod mis Rhagfyr. Fe ellir gweld y cytser hwn yn codi yn y dwyrain wrth iddi nosi ac wedi’i leoli’n dda oddeutu 10yh. Edrychwch am seren goch, sef Betelgeuse, ac oddi tani mae tair seren lachar mewn llinell. Mae rhain yn cynrychioli Llathen Fair a’r dair seren fertigol llai, wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd gan hongian o dan y lathen yn cynrychioli ei gleddyf.


Ym mytholeg Roegaidd, mae Orion yn cynrychioli’r heliwr, gyda’r ddawn i hela unrhyw greadur ar y ddaear yn llwyddiannus. Roedd yn cael cwmni ei ffrind Artemis yn aml, a oedd hefyd yn heliwr. Roedd yn aml yn ymffrostio am ei sgiliau a gydag amser fe glywodd y dduwies Gaia, a oedd wedi dychryn wrth feddwl y gall ei lwyddiant achosi dinistr i bob anifail ar y blaned.
Er mwyn atal y drychineb hwn, fe anfonodd sgorpion i’w bigo. Roedd yr ymosodiad gan y sgorpion bron a lladd Orion ond fe wnaeth oresgyn drwy neidio i’r môr a nofio i ffwrdd. Fe welodd Apollo Orion yn y môr a’i ddangos i Artemis, a wnaeth ei gamgymryd am anghenfil du. Anelodd ei bwa a’i saeth ar y targed gan saethu, heb sylweddoli mai ei ffrind Orion oedd. Wrth iddi sylweddoli hyn, fe wnaeth ymbil ar y duwiau i’w atgyfodi ond ni wnaethant ganiatáu ei dymuniad. Roedd hi eisiau dial, felly fe aeth i chwilio a lladd y sgorpion.

Trysorau Orion
Mae Nifwl Orion yn hynod yr amser hwn o’r flwyddyn a all cysgodi trysorau seryddol eraill sy’n cael eu hanwybyddu. Fe fydd angen telesgop oddeutu wyth modfedd i weld yr holl wrthrychau, ond bydd telesgop llai yn datgelu nhw i gyd heblaw am un.

Nifwl Orion (M42)
Coordinates: RA 5h 35m 17s | Dec -5° 23′ 28″
Gan ddechrau gyda Nifwl Orion (M42), mae’r gwrthrych hwn yn gallu edrych yn anhygoel trwy delesgop, gydag ôl gwyn a chwyrliadau o gwmpas clwstwr o sêr bach yn y canol a elwir yn y Trapesiwm. Mae ei siap cyffredinol yn debyg i flodyn cosmig wedi blodeuo. Dyma un o’r meithrinfeydd serol mwyaf ac agosaf atom, 1,344 o flynyddoedd golau i ffwrdd. Mae wedi esgor ar dros 3000 o sêr, yn ôl data diweddaraf.
Nifwl y Rhedwr (NGC 1977)
Coordinates: RA 05h 35m 18s | Dec -04° 41’ 5”
Ychydig i’r gogledd-orllewin o’r Nifwl Orion, mae Nifwl y Rhedwr (NGC 1977). Fe fydd telesgop 8 modfedd yn datgelu ei rinweddau nifylaidd gyda chlystyrau o sêr sy’n debyg i ffyn tân gyda breichiau a choesau yn chwyrlïo o gwmpas.
Credyd: NGC1977, by Adam Block CC BY-SA 4.0


Clwstwr y Trol Glo (NGC 1981)
Coordinates: RA 05h 35m 09s | Dec -04° 25′ 30
Ychydig uwchben Nifwl y Rhedwr mae’r ‘Clwstwr y Trol Glo’ (NGC 1981), sef clwstwr bach o sêr sy’n edrych fel hen drol sy’n cario glo. Mae’n fwy tebyg i grocodeil sy’n cerdded!
Credyd: Stellarium with graphics added
Twll Clo Cosmig (NGC 1999)
Coordinates: RA: 5h 36m 27s | Dec -6° 43′ 18.0″
Ac yn olaf, fe fydd angen telesgop 12 modfedd i weld hwn. Adwaenir fel y Twll Clo Cosmig, mae wedi’i leoli i’r de o Nifwl Orion. Efallai y bydd astudio hwn yn yr wybren dywyll yn datgelu’r nifwl adlewyrchol, gyda gwagle ar ffurf twll clo yn y canol, a grëwyd gan jetiau pwerus o nwy yn saethu allan o seren ifanc.

