Llygaid ar awyr y nos – Hydref 2025

Llygaid ar awyr y nos – Hydref 2025

01st Hydref 2025

Croeso i ddiweddariad y mis hwn am wybodaeth ar yr hyn sy’n awyr y nos ar gyfer mis Hydref.

Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, gellir gweld y Llwybr Llaethog o’r gorwel de-orllewinol wrth i dywyllwch ddisgyn. Bydd ar ei orau o 20:39 ymlaen ar ddechrau’r mis, pan fydd astro-dywyllwch yn dechrau ac yn parhau tan 05:25 yn y bore. Ar ddiwedd y mis, mae astro-dywyllwch yn dechrau am 18:41 ac yn gorffen am 05:12, gan gynnig dros ddeg awr o awyr dywyll, yn ddelfrydol ar gyfer dod o hyd i’r siapiau niwlog gwan hynny.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Golygfa awyr gyfan o’r cytserau o 10pm yn ystod mis Hydref o in-the-sky.org

Ar y gorwel deheuol mae cytser y Dyfrwr, gyda sgwâr Pegasws uwchben. Mae’r Alarch yn dal i fod mewn safle da yn awyr y de-orllewin yn yr hydref. Mae cytserau haf Yr Eryr, yr Ercwlff, Telyn Arthur a Choron y Gogledd yn dechrau machlud yn y gorllewin. Mae cytserau gaeaf y Cerbydwr, y Tarw, yr Efeilliaid ac Orïon yn codi yn y dwyrain. Wrth iddi dywyllu, fe welwch glwstwr tynn, bach o sêr sydd eisoes yn bresennol uwchben y gorwel dwyreiniol – dyna’r Saith Chwaer. 

Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar 7 Hydref a’r Lleuad Newydd ar 21 Hydref.

Peidiwch ag anghofio bod y clociau’n mynd yn ôl awr ar ddydd Sul olaf y mis hwn ar 26 Hydref.

Cawod o Sêr Gwib Orionids

Yn tarddu o’r gomed enwocaf erioed, Comed 1P/Halley, mae’r gawod sêr gwib hon yn weithredol rhwng 2 Hydref a 7 Tachwedd ac yn cyrraedd ei hanterth yn ystod noson 22 Hydref, yn pelydru o gytser Orïon.

Er mai dim ond tua 15 yr awr yw nifer y meteorau a welir yn ystod gyfradd frig anterthol, mae’n dal yn werth cadw golwg amdanynt gan fod y rhai disgleiriach yn edrych yn wych wrth iddynt wibio ar draws yr awyr yn gyflym iawn, gan adael llwybrau sy’n tywynnu sy’n parhau yn awyr y nos am sawl eiliad. Efallai y bydd rhai peli tân hyd yn oed! Mae’r siawns o weld y sêr gwib hyn yn uchel eleni, mewn awyr dywyll yn ystod y Lleuad Newydd.

Credyd: Sean Weekly

Y Planedau ym mis Hydref

Iau

Mae Iau yn codi tua hanner nos yn y gogledd-ddwyrain ar ddechrau’r mis gyda rhai o’i leuadau i’w gweld trwy ysbienddrych, yn edrych fel gleiniau serennog ar fwclis.

Sadwrn

Mae Sadwrn yn blaned nos, wedi’i lleoli ger cytser y Dyfrwr – bydd y modrwyau’n dal i fod yn denau ond bydd telesgop 8 modfedd yn cydrannu hyd at wyth o’i leuadau.

Gwener

Planed fore yw Gwener, sy’n codi tua 2 awr cyn machlud haul, er y bydd yn codi’n ddiweddarach bob dydd wrth i’r mis fynd rhagddo a phylu i oleuni’r bore.

Wranws

Mae’n hawdd dod o hyd i Wranws yn yr un maes golwg â Chlwstwr Sêr Pleiades, gan ddefnyddio ysbienddrychau 10×50, gan ymddangos fel gwrthrych gwan, serennog, gwyrdd ei liw.

Credyd: Stellarium

Cytser y Mis

Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.

Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.

Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.

Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.

Clwstwr y Mis – Andromeda a Phegasws

Bydd y cytserau hyn mewn safle da yn awyr y nos yn ystod mis Hydref ac maent yn un o ddim ond ychydig sy’n cael eu huno gan un seren.

Yng nghornel chwith uchaf y Sgwâr Pegasws mae’r seren Alpheratz – mae cytserau Andromeda a Phegasws wedi’u cysylltu gan y seren hon

Mewn mytholeg Roegaidd, Andromeda oedd merch hardd Llys Dôn a Seffws, brenin a brenhines eu teyrnas. Roedd Llys Dôn yn ymfalchïo yn harddwch naturiol ei merch, y dywedwyd ei bod yn rhagori ar harddwch nymffau môr-gantroed.

Gwylltiodd hyn dduw’r môr, Poseidon, a anfonodd Cetus, anghenfil y môr i ddod allan o’r môr a dinistrio’r deyrnas.

Credyd: Stellarium

Gan ddymuno tawelu Cetus, clymodd y rhieni eu merch Andromeda i graig ger y môr. Gwaeddodd Andromeda am help wrth i’r anghenfil môr symud yn agosach. Roedd yr arwr dewr Persews yn dychwelyd o’i ymgais i ladd y Gorgon Medusa, gan hedfan ar ei geffyl asgellog Pegasws, a gwelodd drafferthion Andromeda, gan ddisgyn i lawr a’i hachub o ên Cetus. Syrthiodd y ddau mewn cariad â’i gilydd a byw’n hapus byth wedyn.

O ran Llys Dôn, penderfynodd Sews a’r duwiau eraill ei thynged fel cosb am ei balchder, gan ei chlymu i gadair ac achosi iddi droelli yn ddiddiwedd yn awyr y nos, ddydd a nos am dragwyddoldeb. Mae Llys Dôn yn gytser ambegynol, sy’n golygu nad yw byth yn machlud. Rhoddodd y dduwies Athena achubiaeth Andromeda ymhlith y sêr.

Tair Galaeth mewn Un Sylladur!

Os oes gennych syllwr ongl-lydan, ceisiwch ddod o hyd i dair galaeth yn yr un maes golwg! Gellir gweld ein galaeth gyfagos, Messier 31 neu Alaeth Andromeda, gyda’r llygad heb gymorth o’r awyr wledig-maestrefol a thywyllach, sy’n ei gwneud hi’n hawdd lleoli ac astudio trwy delesgop.


Yn gyntaf, edrychwch am sgwâr Pegasws trwy wynebu’r de-ddwyrain ac edrych ar y pwynt hanner ffordd rhwng y gorwel a’r anterth. Fe welwch sgwâr enfawr tua 15 gradd o ran maint – neu faint eich llaw estynedig gyda’ch mynegfys a’ch bys bach wedi’u hymestyn. Edrychwch am gornel chwith uchaf y sgwâr, yn chwilio am handlen sy’n ymestyn tair seren i’r dwyrain. Dylech gyfrif dwy seren o’r seren gornel yn Pegasws a chyfrif dwy seren i fyny – fe welwch hirgrwn niwlog gwan. Galaeth Andromeda sydd yma.

Symudwch eich telesgop i weld Andromeda a defnyddio sylladur pŵer isel, gweler Messiers 110 a daw 32 i’r golwg. Os welwch chi awgrym o chwyrlïad tywyll yn strwythur Andromeda, rydych chi’n gweld yn gywir – rydych chi’n gweld un o lonydd llwch Andromeda! Gallwch ei weld â mwy o gydrannau mewn awyr dywyllach ac mae hefyd yn werth ceisio ei weld mewn ysbienddrych.

Mae ein cymydog galactig 2.5 miliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd ac mae’n cynnwys dwywaith cymaint o sêr â’n Llwybr Llaethog ein hunain, sy’n dod i gyfanswm o 1 triliwn o sêr o leiaf. Mae Galaeth Andromeda hefyd yn symud yn nes, a allai achosi llwybr gwrthdaro gyda’n galaeth ein hunain – credir y gallai’r uno hwn ddigwydd mewn tua 4.5 biliwn o flynyddoedd a chreu galaeth eliptig newydd, unedig.

Mae Messier 110 yn alaeth eliptig corrach ar tua 2.7 miliwn o flynyddoedd golau o’r Ddaear. Fe’i gelwir hefyd yn alaeth loeren Andromeda, sy’n golygu ei bod yn rhwym i’r alaeth fwy gan ddisgyrchiant. Credir bod gan Andromeda 35 o alaethau lloeren o’r fath. Mae Andromeda yn 220,000 o flynyddoedd golau o led sy’n dipyn mwy na chwmpas Messier 110 o 17,000 o flynyddoedd golau.

Messier 32 yw’r ail alaeth. Mae hefyd yn alaeth gorrach sy’n cylchdroi Messier 31 (Galaeth Andromeda). Mae hyd yn oed yn llai na Messier 110, yn 6.5 blwyddyn golau mewn diamedr. O’n safbwynt ni, mae Messier 32 yn edrych yn fwy disglair ond mae ganddo ddisgleirdeb arwyneb uchel a chraidd mwy cryno.

Comed Unwaith mewn Oes

Ers canol mis Awst, dechreuodd Comed C/2025 A6 Lemmon ddisgleirio, gan godi gobeithion y bydd yn wrthrych i’r llygaid heb gymorth yn ystod ei ddynesfa agosaf ar 21 Hydref. Wrth ysgrifennu, mae’n weladwy trwy ysbienddrychau yng nghytser yr Arth Fawr, yn isel ar y gorwel gogledd-orllewinol pan fydd tywyllwch yn disgyn. Defnyddiwch eich ysbienddrych i sganio’r ardal o dan draed yr Arth Fawr a cheisio gweld smotyn gwan a allai fod ag arlliw gwyrdd. Erbyn ei ddynesfa agosaf, bydd yn mynd trwy gytser Boötes.

Bydd y disgrifiadau hyn yn newid wrth i faint y gomed gynyddu – mae’n anodd rhagweld eu hymddygiad felly cadwch lygad ar newyddion y gofod wrth i bethau ddatblygu.  

Edrychwch ar y siart isod i ddilyn cynnydd Comed Lemmon.