Croeso i ddiweddariad y mis hwn o beth sydd yn yr wybren ar gyfer mis Rhagfyr.
Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, mae’n tywyllu hyd yn oed yn gynt y mis hwn – 6.10pm ar ddechrau’r mis a 6.18pm ar y diwedd.
Golwg o gytserau’r wybren gyfan o hanner nos ym mis Rhagfyr o in-the-sky.org
Am hanner nos, y cytserau sy’n dominyddu wybren ddeheuol y nos yn ystod mis Rhagfyr yw Orion, y Cerbydwr, y Tarw a’r Efeilliaid.
Mae Andromeda, Perseus a Chadair Dôn mewn safle da yn yr awyr orllewinol. Mae cytserau’r haf Dolen yr Alarch a Thelyn Arthur yn machlud ar y gorwel gorllewinol ac mae cytserau’r gwanwyn Trofan y Cranc a’r Llew yn codi yn y dwyrain.
Digwydd y Lleuad Lawn ar 15fed Rhagfyr. Mae dwy Leuad Newydd y mis hwn: y cyntaf ar 1af Rhagfyr a’r ail, a elwir hefyd yn lleuad ddu, ar 30 Rhagfyr.
Mae Heuldro’r Rhagfyr ar 21ain Rhagfyr 2024, sef y diwrnod byrraf ar 7 awr, 39 munud â’r noson hiraf o 12 awr a 5 munud. Digon o amser i syllu ar y sêr!
Credyd: Sorcha Lewis
Cawod o Sêr Gwib Geminids
Disgyn Cawod o Sêr Gwib Geminids rhwng 4ydd a 20fed Rhagfyr, ac yn cyrraedd uchafbwynt yn hwyr yn y nos ar 14eg Rhagfyr ac yn gynnar ym more 15fed Rhagfyr.
Gwŷr ei fod yn cynhyrchu 150 o sêr gwib ar ei hanterth, mae’r gawod wib yn gyflym, yn llachar ac yn lliwgar, gan oleuo’r awyr gyda sêr gwib coch, gwyrdd, gwyn, melyn a glas. Yn rheiddio o gytser yr Efeilliaid, credir bod y gawod yn tarddu o’r gweddillion a adawyd gan asteroid 3200 Phaethon. Yn anffodus, bydd y Lleuad Lawn yn llesteirio gweld cawod o sêr gwib yn ei llawnder felly mae’n werth edrych i fyny yn ystod y dyddiau cyn ac ar ôl yr anterth.
Credyd: NASA/JPL
Y Lleuad a Fenws
Ar 4ydd Rhagfyr, bydd y Lleuad yn pasio’n agos at Fenws ar orwel de-orllewin isel.
Bydd y Lleuad wedi’i oleuo’n 12% felly edrychwch am lewyrch hyfryd y Ddaear, lle mae golau’r haul yn adlewyrchu oddi ar wyneb y Ddaear, gan oleuo rhan dywyllaf y Lleuad. Digwydd hyn am ychydig ar ôl machlud haul.
Credyd: Sam Price
Ar noson 14eg Rhagfyr, bydd y Lleuad yn pasio’n agos at Iau ar bellter o 5°26′. Mae hyn ychydig dros led tri bys wedi’u dal gyda’i gilydd a’u dal hyd braich.
Ar noson 18fed Rhagfyr, bydd y Lleuad yn pasio’n agos at Fawrth. Yr amser gorau i’w weld byddai yn y bore cyn iddi wawrio.
Bydd y Lleuad yn pasio o flaen (cuddio) Mawrth tua 9.30am ond yn anffodus bydd golau dydd yn ei gwneud hi’n anodd ei weld.
Ar gyfer y rheini â thelesgopau bach, efallai y byddwch chi’n gallu ei weld os ydych chi’n gwybod ble i edrych, yn enwedig wrth i Fawrth gyrraedd ei wrthsafiad, gan ymddangos ar ei fwyaf a’i ddisgleiriaf (16 Ionawr 2025), sy’n golygu bod y cyfle i weld yr argeliad hwn yn dda.
Bydd Mawrth yn ymddangos o ystlys de-ddwyreiniol y Lleuad am 10:16am ond erbyn yr amser hwn, mae’r ddau wrthrych yn isel iawn ar y gorwel.
Credyd: Stellarium
Nifwl Orion (M42)
RA 5h 35m 17s | Dec -5° 23′ 28″
Mae’n werth crybwyll Nifwl Orion adeg yma’r flwyddyn gan mai dyma’r nifwl harddaf i’w hastudio, p’un a oes gennych chi ysbienddrych neu delesgop.
Hyd yn oed heb un o’r rhain, mae’r nifwl hwn yn ymddangos fel seren ddisglair, foliog, fel tlws yng ngwain cleddyf sy’n hongian o wregys Cytser Orion.
Credyd: NASA ESA M. Robberto Space Telescope Science Institute ESA a Thîm Prosiect Hubble Space Telescope Orion Treasury
Mae mewn safle da yn yr awyr de-ddwyreiniol / deheuol tua 10pm yn ystod mis Rhagfyr. Mae’r cytser hefyd yn hawdd ei ganfod gan mai ef yw un o’r rhai disgleiriaf a mwyaf cyfarwydd.
Y ffordd hawsaf o adnabod y cytser hwn yw edrych am dair seren yn agos at ei gilydd ac â’r un pellter rhyngddynt sy’n cynrychioli Llathen Fair.
Ychydig islaw iddi y mae tair seren fechan sy’n hongian yn fertigol fel cleddyf. Edrychwch am ddwy seren lachar sydd y naill ochr i’r llall o’r cleddyf, gan gynrychioli traed Orion a thair uwchlaw’r gwregys, sy’n cynnwys yr ysgwyddau a’r pen. Dylai debygu i awrwydr onglogs.
Credit: Sam Price
Trwy ysbienddrych 10×50, ymddengys bod y Nifwl Orion yn edrych fel proffil ochr blodyn agored bychan, gyda chraidd llachar ac amlinelliad aneglur, tenau. Mae’r nifwl yn cydrannu yn hyfryd trwy delesgopau o agorfa chwe modfedd ac uwch. Trwy delesgopau mwy, gellir gweld ffilamentau nifylaidd a gyda llygaid ifanc, fe welwch ychydig o liw.
Credyd: Michael Vlasov o Deepskywatch.com
37 Clwstwr (NGC 2169)
RA: 06h 08m 24.3s | Dec: +13° 57′ 53″
Dyma wrthrych hwyliog i’w ddarganfod. Wedi’i leoli 3600 o flynyddoedd golau o’r Ddaear, mae’r clwstwr agored hwn wedi’i leoli yng nghytser Orïon ac mae’n heriol i’w ganfod. Edrychwch am seren gawraidd goch Betelgeuse ac yn y wybrennau tywyll, byddwch chi’n gweld braich Orïon wedi’i chodi.
Defnyddiwch eich cwmpas canfod i leoli’r ddwy seren wrth y ‘cymal penelin’ a’i symud i lawr ychydig hyd nes i chi weld clwstwr tynn, bychan o sêr.
Edrychwch drwy eich sylladur; dylai’r sêr hyn ymdebygu i’r rhif 37, neu’n dibynnu ar y telesgop, XY, neu LE neu hyd yn oed fersiwn drych o’r rhif 37.
Credyd: ScottRak – Own work CC BY-SA 3.0
Clwstwr coeden Nadolig (NGC 2264)
RA: 06h 42m 20s | DEC: +09° 52’ 13”
Gorwedd y clwstwr agored hwn, sy’n llawn sêr ifanc, 2350 o flynyddoedd golau oddi wrthym ac mae wedi’i leoli yng nghytser Monoceros.
Edrychwch am y seren goch Betelgeuse sy’n cynnwys ysgwydd ochr dde cytser Orion. Edrychwch am y seren llaw chwith sy’n droed i gytser yr Efeilliaid a gorwedd Cytser Coed Nadolig ychydig bellter o’r seren honno. Defnyddiwch gwmpas canfod eich telesgop i leoli clwstwr tynn, bach o sêr ac yna edrychwch drwy’ch sylladur i’w weld yn fanwl iawn.
Gellir gweld y sêr yn hawdd ond gallai’r Côn Nifwl fod yn ychydig o her – yn bennaf gan ei fod yn fach iawn! Defnyddiwch eich golwg ochr i weld a allwch chi weld y côn.
Gallwch weld o’r ddelwedd bod y clwstwr agored hwn yn debyg i olau ar goeden Nadolig. Ar ben y goeden, gorwedd y Côn Nifwl ar bellter o 2700 o flynyddoedd golau. Digwydd bod, ymddengys bod y ddau wrthrych hyn yn ffurfio’r siâp Nadoligaidd hwn o’n safbwynt yng Ngalaeth y Llwybr Llaethog.
Credyd: ESA
Mae’r NGC2264 yn nifwl allyriad lle ffurfiodd y sêr, ond dim ond camerâu sy’n gallu eu cipio.
Ym mis Rhagfyr 2023, creodd NASA animeiddiad lle cafodd ffotograff o’r sêr ifanc yn allyrru pelydrau X eu troshaenu ar yr allyriad nifylaidd. Gallwch ei weld trwy dapio ar y ddelwedd.
Gallwch weld dwy o’r tair cydran hon yn weledol gan ddefnyddio telesgopau wyth modfedd neu fwy – cyhyd â’ch bod yn ddigon pell o lygredd golau.
Credyd: NASA