Mae gwaith Adfer Mawndiroedd eleni ar y gweill yng Nghwm Elan!
Y nod yw sefydlogi’r mawn moel, arafu llif y dŵr oddi ar y gors a chodi’r lefel trwythiad cyffredinol, sy’n hanfodol i iechyd y mawndir.
Mae’r gwaith yn bwysig i ni am nifer o resymau, rhai ohonynt yw:
Lleihau’r allyriadau a ryddheir gan y mawn sy’n ocsideiddio trwy ddatguddiad, erydiad a sychu.
Er mwyn lleihau gwaddod mawn yn golchi i lawr yr afon, sy’n golygu bod angen trin y dŵr ac yn amlwg yn colli carbon wedi’i storio.
I ail-greu amodau ar gyfer ffurfio mwy o fawn, sy’n cynnwys creu amodau dyfrlawn yn llawn llystyfiant â’r rhywogaethau priodol.
I gynyddu cysylltedd cynefinoedd a bioamrywiaeth.
I’w helpu i weithredu fel rhwystr tân mewn achos o danau gwyllt.
I wella cadernid yr hinsawdd: i’w baratoi at y dyfodol rhag tywydd eithafol a fyddai’n gwaethygu’r difrod.


Gweld y gwaith sy’n mynd rhagddo

Gyda’r mawn wedi’i sefydlogi a’r lefel trwythiad wedi’i hadfer, bydd y llystyfiant yn dechrau aildyfu yn yr ardaloedd hyn a gall y mawn ddechrau adeiladu eto. Isod, gwelir safle 3 blynedd ar ôl gwaith adfer.
Pan fydd y mawndir mewn cyflwr iach, mae’n cadw ac yn storio carbon am gyfnod amhenodol. Mae hefyd yn cynnig cartref i lawer o fywyd gwyllt.



