Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan

Home » Ymwelwch » Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan

Gweinyddir Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan gan Dŵr Cymru Welsh Water ac mae wedi’i leoli mewn lleoliad rhyfeddol yn erbyn cefndir syfrdanol argae cerrig Fictorianaidd.

Ebrill – Hydref 9am – 5pm

Tachwedd – Mawrth 10am – 4pm

Dyma fan cychwyn perffaith ar gyfer eich ymweliad â’r ardal. Mae rhywbeth i bawb.

Rydyn ni ar agor drwy’r flwyddyn heblaw am Ddydd Nadolig.

What’s Here

  • Desg Wybodaeth
  • Siop
  • Caffi
  • Llogi Beiciau
  • Ardal Arddangos
  • Hygyrch i’r Anabl
  • Parcio Car a Choetsys
  • Lle Chwarae Plant
  • Safle Picnic Mawr
  • Cyfeillgar i Gŵn

Ymwelwyr ar Fysiau Moethus

Rydym yn croesawu nifer helaeth o ymwelwyr ar fysiau moethus trwy gydol y flwyddyn ac fe’ch cynghorwn i drefnu ymlaen llaw i sicrhau y cewch y gorau o’ch ymweliad. Gallwn e-bostio Pecyn Gweithredwr Bysiau manwl atoch. Rydym hefyd yn cynnig teithiau tywys o’r Ystâd gyda Cheidwad, gan gynnwys hyd yn oed ymweliad tu mewn i argae Pen y Garreg, cysylltwch â ni er mwyn trafod eich taith.

Nodwch bod rhaid i fysiau moethus ddilyn taith glocwedd o gwmpas y cwm oherwydd natur cul y ffordd! Cysylltwch â’n Tîm o Geidwaid yn y Ganolfan Ymwelwyr am ragor o wybodaeth am yr Ystâd: 01597 810880. Rydym hefyd yn darparu lluniaeth am ddim ar gyfer gyrrwyr y bysiau moethus a’u Tywyswyr Taith.

Llogi Beiciau

E-feiciau, llwybr, mynydd a beiciau plant… Mae ganddon ni’r cyfan. Llogwch eich beic ar-lein a byddwn yn ei gael yn barod i chi ar y diwrnod. Gallwch hefyd logi un o’n beiciau ar ddiwrnod eich ymweliad.

Pysgota

Mae taflen wybodaeth am bysgota a thrwydded ar gael o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan.

Rheolir pysgota bellach i ffwrdd ar Afon Gwy/Elan a Marteg ynghyd â Llyn Llyngwyn gan Gymdeithas Genweiriol Rhaeadr a Chwm Elan, rhif cyswllt 01597 810383 neu ewch at www.rhayaderangling.co.uk

Rhaid i bob pysgotwr dros 12 oed gael trwydded wialen.  Mae’r rhain ar gael o Swyddfa Bost ac ar-lein.  Ni roddir hawl bysgota heb drwydded wialen ddilys. Am wybodaeth am drwyddedau wialen ewch at Cyfoeth Naturiol Cymru.



Maes parcio

Cost parcio car yn Cwm Elan yw £3.00 y diwrnod. 

Rydyn ni wedi cyflwyno rheolaeth newydd ar barcio yng Nghwm Elan sy’n cael ei fonitro’n barhaus (ar ffurf System Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig) ynghyd ag opsiynau talu newydd. Bydd hyn yn creu profiad mwy hwylus, gan roi mwy o amser i chi fwynhau prydferthwch Cwm Elan.

Gall ymwelwyr dalu ag arian parod neu â cherdyn yn y Ganolfan Ymwelwyr, neu dalu â cherdyn credyd/debyd gan ddefnyddio’r peiriannau. Gallwch drefnu lle parcio ymlaen llaw a thalu am barcio trwy ddyfais symudol hefyd gan ddefnyddio ap NexusPay-GroupNexus (y gallwch ei lawrlwytho gan ddefnyddio’r codau QR ar y safle).

Gall ymwelwyr rheolaidd brynu tocyn parcio blynyddol ar gyfer un cerbyd am £35.00. Bydd hyn yn gadael i chi barcio’r cerbyd hwnnw ar y safle mor aml ag y mynnwch chi am flwyddyn gron.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn darparu cyfleusterau bendigedig i ymwelwyr eu mwynhau. Er mwyn i hyn barhau, mae angen i ni godi tâl am barcio yn ein hatyniadau ymwelwyr. Byddwn ni’n defnyddio’r incwm i wasanaethu’r safleoedd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal i safonau rhagorol, ac i ddarparu amgylchedd glân a thaclus.