Gwely a brecwast yng nghanol Cwm Elan

Wedi’i leoli ger Argae Pen y Garreg, Tŷ Penbont yw’r unig B&B yng nghanol Cwm Elan.

Mae’r llecyn tawel yma yn ysblennydd ym mhob tywydd – boed glaw neu hindda –  ac yn cynnig y man perffaith i chi ddarganfod Cwm Elan a Mynyddoedd y Cambria.
Mae Tŷ Penbont wedi cael ei adnewyddu a’i ehangu mewn modd cariadus i ddarparu pum ystafell en-suite cyfforddus, a enwyd ar ôl argaeau godidog Cymoedd Elan a Claerwen. Eistedd yn ôl, ymlacio a chymryd seibiant o straen bob dydd.

Mae gan bob ystafell deledu FreeSat a mynediad at WiFi

Ymgollwch yn y dirwedd hyfryd, hanesyddol a mwynhewch y byd natur wrth eich drws.