Safbwynt yr Ehedydd

Rydych yn ehedydd ac wedi ymgartrefu ym mryniau Cwm Elan.

Ar ôl gaeaf hir ac oer, mae’r gwanwyn wedi dod o’r diwedd, ac felly, rydych chi hefyd yn bywiocau! Gyda’ch canu gorfoleddus yn atsain ar draws y bryniau ac i lawr y dyffrynnoedd, gan chwilio am y cymar perffaith. Wedi wythnosau o ganu ac arddangos, rydych yn cyfarfod yr un! Gyda’ch gilydd, rydych yn adeiladu ac yn creu nyth wedi’i wehyddu’n ofalus ar gyfer magu’ch cywion sydd ar ddod. Rydych yn dyfalbarhau trwy’r amodau llym sy’n rhan o fywyd ar y bryniau, gan weithio’n ddiflino ar gyfer deor eich cywion. O’r diwedd, fe ddaw’r tywydd cynhesach a sychach! Mae’n dda bod eich cywion ifanc yn bwyta pryfed, sy’n dod gyda’r tywydd cynhesach.

Ond yn sydyn, fe ddaw trychineb. Yn gyntaf, rydych yn clywed y clecian. Yna’r mwg sy’n amlyncu’r cwm. Yn olaf, mae’r tân wedi’ch cyrraedd, ac ymhen munudau mae’ch nyth a’ch holl cywion wedi mynd. Rydych yn dianc gyda’ch cymar ond nid yw’r galar yn gorffen. Mae’ch cartref wedi’i ddinistrio. Ble fyddwch yn nythu nawr?

Mae unrhyw lystyfiant sydd ar ôl yn rhy fyr i’ch amddifyn rhag yr ysglyfaethwyr, ac mae’r pryfed i fwydo’ch ifanc wedi’u dileu.

Nid ydych bellach yn canu’n orfoleddus o’r bryniau.

Mae poblogaeth yr ehedydd wedi gostwng 63% ers 1967. Mae’n rhaid iddynt geisio nythu 2 – 3 gwaith rhwng mis Ebrill a mis Awst er mwyn cynnal y boblogaeth. Mae effaith un tân yn gallu bod yn drychinebus i’r ehedyddion yn yr ardal. Dyma un esiampl o rywogaeth sy’n cael ei heffeithio.

Fe allwch chi wneud eich rhan i warchod tir gwerthfawr Cwm Elan yn ystod eich ymweliad:

Dim tân gwersyll neu farbeciw
Dim gwersylla gwyllt
Ewch â’ch sbwriel adref
Cadwch at y cilffyrdd cyfreithlon

Gyda’n gilydd fe allwn weithio i leihau amlder ac effaith tanau gwyllt ar ein bryniau a gwarchod y bywyd gwyllt sy’n ei alw’n gartref.