Casgliadau Pobl

Nôd y cynllun yw i warchod, cofnodi a dathlu treftadaeth ddiwylliannol Cwm Elan. Golyga hyn gasglu dogfennau, atgofion, lluniau ac arteffactau. Bydd y cynllun yn sicrhau bod pob elfen o dreftadaeth yn cael ei asesu, ei gofnodi a’i gynnig i’n gwahanol gynulleidfaoedd wrth iddynt werthfawrogi’r ardal. Gan ddefnyddio gwirfoddolwyr a rhaglen o weithgareddau bydd y cynllun yn cofnodi a chyflwyno hanesion llafar, ffotograffau a ffilmiau er mwyn cynnig darlun hanesyddol o Gwm Elan, ei harferion amaethu ynghyd â’r cysylltiadau rhwng Rhaeadr Gŵy a Birmingham.

Bydd y prosiect hwn yn cyrraedd yr amcanion canlynol:

  1. Datblygu strategaeth archifo i’w gytuno gan bob partner i sicrhau bod eitemau’r dreftadaeth yn cael ei ddiogelu;
  2. Sicrhau bod yr holl dreftadaeth cymwys yn cael eu hasesu, eu harchifo ar-lein ac ar gael i gael mynediad iddo fydd o fudd i’n gwahanol gynulleidfaoedd a’u gwerthfawrogiad o Elan;
  3. Darparu hyfforddiant i wirfoddolwyr ddysgu ac ymgymryd â nifer o agweddau o archifo, casglu atgofion a logio’r archif ar-lein;
  4. Gweithredu rhaglen atyniadol o ddigwyddiadau, gan gynnwys rhannu atgofion, cofnodi arferion diwylliannol gwahanol, bywyd a gweithgareddau cyfoes;

Datblygu casgliad ar-lein fydd yn cynnwys eitemau allan o gasgliadau perthnasol y partneriaid gwahanol.

Lawrlwythwch manylion y prosiect.