Gwella’r hygyrchedd i dreftadaeth
adeiladau ac archeolegol Cwm Elan

Mae’r cyfleon i archwilio 72 erw Cwm Elan yn ddi-ben-draw. Serch hynny, erys rhannau o’r treftadaeth yn anweledig ac yn anodd eu cyrraedd i ymwelwyr. Bydd y cynllun arfaethedig yn darparu mynediad diogel i’r ymwelydd a chwe safle treftadaeth, gan gynnwys: 

Argae Dôl y Mynach sydd heb ei orffen

Ni orffenwyd yr argae yma gan y Fictoriaid.  Adeiladwyd y rhan gyntaf a gobeithiwyd cwblhau yr ail ran o’r gwaith.  Fodd bynnag, ni orffenwyd y gwaith oherwydd y Rhyfeloedd Byd.  Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd y dechnoleg wedi datblygu a chafwyd un argae mwy i fyny’r afon (Claerwen).

Mae gan Dôl y Mynach rhan bwysig i chwarae, mae’n dal argae bach sy’n gysylltiedig â thwnnel (twnnel Dôl y Mynach) sy’n llifo i argae Garreg Ddu ac yna i lawr y draphont ddŵr i Birmingham.

Gan iddo ei gysgodi gan lystyfiant sydd ar ochr y ffordd heb arwydd nag esboniad, mae ymwelwyr yn colli ar ran bwysig o dreftadaeth Elan.  Fe fydd llwybr mynediad i argae Dôl y Mynach, arwyddion ac esboniadau da yn rhoi profiad gwahanol i ymwelwyr.  Fe fydd y llwybr mynediad hefyd yn cysylltu â’r guddfan adar sydd ar lan argae Dôl y Mynach.  Mae’r argae bas yma yn arbennig o addas ar gyfer y bywyd gwyllt ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac fel yr argae ei hun, nid oes llawer o ymwelwyr yn gwybod am ei fodolaeth.

Safle’r Dambusters yn Nant y Gro

Yn ystod adeiladu argaeau Cwm Elan, adeiladwyd argae coffr bach yn Nant y Gro.  Roedd hwn yn darparu trydan a dŵr i’r gweithwyr.  Chwaraeodd yr argae rôl bwysig arall yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Darganfyddwyd bod yr un cynllun yn perthyn i argae Nant y Gro  ag oedd i Argae’r Ruhr yn yr Almaen, sef targed y gelyn. Defnyddiodd Barnes Wallis Nant y Gro i’w helpu i greu ei fomiau ar gyfer ymosodiad llwyddiannus y ‘Dambusters’.  Roedd pellenigrwydd yr argae o fantais er mwyn i’r arbrofion cyfrinachol gael eu cynnal heb ofni y byddai rhywun yn eu gweld.

Camsyniad cyffredin yw y defnyddiwyd yr argae hwn ar gyfer ymarfer adlamu’r bomiau.  Fodd bynnag, nid yw hwn yn wir.  Gwnaeth Barnes Wallis ar y ffrwydron yn y lle hwn. Roedd yr ymgais gyntaf ond wedi ffrwydro copa’r argae.  Arweiniodd hyn at sylweddoli bod angen suddo’r bom.  Crogwyd ffrwydryn ar y dyfnder mwya oddi ar sgaffaldiau hanner ffordd ar hyd yr argae 180 troedfedd a’i danio o hirbell.  Cadarnhaoedd yr arbrawf yma fod angen trosglwyddo dyfais ffrwydrol o dan y dŵr a’i fod yn cyffwrdd â’r wal yn uniongyrchol er mwyn dinistrio’r argae.  Ym mis Gorffennaf 1942, ar ei ail gynnig, gwelwyd ef yn suddo’r ffrwydron a rhwygo’r argae.  Defnyddiodd y cyfrifiadau hyn i adeiladu’r bom adlam a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiad llwyddiannus ym 1943.

Fe fydd ein prosiect yn gwaredu’r llystyfiant oddi ar weddillion yr argae, ac yn gwella’r arwyddion i’r safle.  Fe fyddwn hefyd yn diweddaru’r byrddau dehongli ar y safle ac ar y llwybr hygyrch sydd gyferbyn â’r cwm er mwyn adrodd yr hanes am yr argae.

Pillboxes yr Ail Ryfel Byd

Yn ystod 1940-1941, adeiladwyd pillboxes ar gyfer gwarchod y cyflenwad dŵr i Birmingham.  Roedd rhain yn benodol ar gyfer gwarchod Tŵr Foel ac argae Garreg Ddu.  Adeiladwyd pedwar pillbox, mae tri dal yn sefyll heddiw ac yn gofadeiladau hynafol rhestredig.  Lleolwyd y milwyr yn y pillboxes er mwyn iddynt allu anelu eu drylliau peiriannol allan o’u llecynnau manteisiol gwarchodedig, yn barod ar gyfer yr ymosodiadau. 

Saif y Pillboxes sydd ar ôl ar Fryn Foel sy’n edrych allan dros grofa ddŵr Garreg Ddu, gyda dau arall wedi’u lleoli ger maes parcio’r Foel.  Fe fydd y prosiect yma yn gwella’r llinellau gweld rhwng y pillboxes, yn gosod byrddau dehongli a fydd yn rhoi gwybodaeth am y safleoedd.

Safle ffermio cwningod yn yr oesoedd canol

Yn dilyn arolwg Treftadaeth o dan Fygythiad, amlygwyd Esgair-y-Tŷ  fel adnodd o arwyddocad cenedlaethol.  Mae’r nifer o dwmpathau clustogol nodedig yma oddeutu 40 metr o hyd, 6 metr o led ac 1 metr o uchder, ac yn esiampl cynnar o ffermio cwningod a ffermio dwys yn Elan.

Fe fydd gwella mynediad a hwylustra i’r ardaloedd yma yn helpu pobl i ddychmygu’r safle ffermio cwningod a ffordd wahanol o fyw yn y cyfnod hwnnw.

Fe fyddwn yn defnyddio realiti estynedig er mwyn dangos ffiniau’r twmpathau clusogol, ac yn darparu dehongliadau digidol ar gyfer y safle.

Gwersyll Gorymdeithio Rhufeinig

Dargafyddwyd esiampl o gaer Rhufeinig dros dro neu ‘gwersyll gorymdeithio’ ar Esgair Perfedd sydd ar Gomin Cwmdauddwr, a gellir ei weld fel llociau gwrthglawdd isel.

Mae’r gwersyll wedi’i amgáu mewn ardal o ychydig dros 6 hectar a gafodd ei adeiladu ar gyfer lloches i lu o oddeutu 4,000 o ddynion a’u cyflenwadau mewn pebyll am efallai ond ychydig o ddyddiau.  Mae’n debyg bod y gaer yn perthyn i‘r cyfnod rhwng 74-80 OC.

Ni ddarganfuwyd y gwersyll tan y chwedegau gan fod y ffin ond yn weladwy o’r awyr.  Mae nifer o ymwelwyr felly yn anymwybodol eu bod yn teithio heibio i Wersyll Rhufeinig.

Bwriad ein prosiect yw i ddefnyddio realiti estynedig i ddod â’r ardal yn fyw.

Mwynfa Cwm Elan

Roedd yn weithredol rhwng 1796 a 1877, ac mae Mwynfa Cwm Elan yn gorwedd ynghudd ym mryniau Cwm Nant Methan uwchben taith gerdded boblogaidd ger gronfa ddŵr Garreg Ddu.

O fewn y prosiect yma, fe fyddwn yn gosod arwyddion i’r mwynfa ble yn bosib ac yn nodi’r llwybr ar y wefan ac mewn cyhoeddiadau.

Lawrlwythwch manylion y prosiect.