Collwyd 97% o weirgloddiau traddodiadol y Deyrnas Unedig erbyn hyn. Mae Cwm Elan, serch hynny, yn gartref i lawer o weirgloddiau yr ucheldir – gan gynnwys dôl coronog- sy’n olygfa odidog pan yn eu blodau ac yn amrhisiadwy i beillio.
Mae dolydd Cwm Elan yn cynnal amrywiaeth o flodau gwych ynghyd â phryfed, ond dengys astudiaethau gwyddonol bod rheolaeth addas megis gwrteithio a thaenu calch yn hanfodol ar gyfer ffyniant y gweirgloddiau hyn.
Bydd y cynllun yn gweithredu ar y cyd gyda ffermwyr er mwyn sicrhau ffyniant ein gweirgloddiau yn y dyfodol.
Mae’r astudiaeth wyddonol sy’n ymchwilio i reolaeth dolydd gwair Elan wedi casglu tystiolaeth glir sy’n dangos bod ein dolydd, yn gyffredinol, yn gynyddol anffrwythlon ac asidig.
Dros y bum mlynedd nesaf, bwriad y prosiect yw i ddarparu:
- 12 hectar o ddolydd gwair o dan reolaeth ffafriol
- Cynllun hel gwybodaeth er rheoli caeau
- Hyfforddi 10 o bobl mewn sgiliau rheoli dolydd gwair
- Dau ddiwrnod ar gyfer rhanddeiliaid a phum diwrnod o wirfoddoli ac arddangos
- Adroddiad ar ddiwedd y prosiect gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol
- Cyfleu i gynulleidfa ehangach
Lawrlwythwch manylion y prosiect
CY – Read our Flowers of the Elan Meadows booklet.
CY – Featuring all the flowers that grow in this unique landscape, this guide is a must for those visiting us during the summer months. See how many flowers you can identify.