Dolydd Gwair Elan

Collwyd 97% o weirgloddiau traddodiadol y Deyrnas Unedig erbyn hyn. Mae Cwm Elan, serch hynny, yn gartref i lawer o weirgloddiau yr ucheldir – gan gynnwys dôl coronog- sy’n olygfa odidog pan yn eu blodau ac yn amrhisiadwy i beillio.

Mae dolydd Cwm Elan yn cynnal amrywiaeth o flodau gwych ynghyd  â phryfed, ond dengys astudiaethau gwyddonol bod rheolaeth addas megis gwrteithio a thaenu calch yn hanfodol ar gyfer ffyniant y gweirgloddiau hyn.

Bydd y cynllun yn gweithredu ar y cyd gyda ffermwyr er mwyn sicrhau ffyniant ein gweirgloddiau yn y dyfodol.

Mae’r astudiaeth wyddonol sy’n ymchwilio i reolaeth dolydd gwair Elan wedi casglu tystiolaeth glir sy’n dangos bod ein dolydd, yn gyffredinol, yn gynyddol anffrwythlon ac asidig.

Dros y bum mlynedd nesaf, bwriad y prosiect yw i ddarparu:

  • 12 hectar o ddolydd gwair o dan reolaeth ffafriol

  • Cynllun hel gwybodaeth er rheoli caeau

  • Hyfforddi 10 o bobl mewn sgiliau rheoli dolydd gwair

  • Dau ddiwrnod ar gyfer rhanddeiliaid a phum diwrnod o wirfoddoli ac arddangos

  • Adroddiad ar ddiwedd y prosiect gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol

  • Cyfleu i gynulleidfa ehangach

Lawrlwythwch manylion y prosiect

CY – Read our Flowers of the Elan Meadows booklet.

CY – Featuring all the flowers that grow in this unique landscape, this guide is a must for those visiting us during the summer months. See how many flowers you can identify.