Mae gan Gwm Elan hanes hir fel lle sy’n ysbrydoliaeth i bobl. Ar hyn o bryd, daw un o bob wyth ymwelydd gyda’r bwriad o ymgymryd â rhyw weithgarwch crëadigol neu gelfyddydol.
Bydd y cynllun yn adeiladu ar yr etifeddiaeth gelfyddydol er mwyn datblygu Cwm Elan fel canolfan i grëadigrwydd. Canolbwyntir ar ddefnyddio’r celfyddydau er mwyn deall, darganfod ac ymdrin â natur, dŵr, cynaladwyedd a’r deinamig gwledig/trefol. Y bwriad yw gweithio law yn llaw â chynlluniau eraill sy’n cael eu datblygu i gynorthwyo i greu Elan Creadigol. Bydd dau arlunydd yn cael eu penodi’n flynyddol. Byddant yn treulio o leiaf mis yn y lleoliad er mwyn cael profi’r tirwedd. Bydd hyn yn creu cyfleon i artistiaid lleol i brofi Cwm Elan drwy lygaid arlunwyr crëadigol profiadol.
Dros y bum mlynedd nesaf y bwriad yw i gyflawni:
- 10 arlunydd preswyl yn gweithio ar y safle
- 4 Cymrodoliaeth Creadigol Cymru
- 80 o bobl ifanc yn gweithio gydag arlunwyr profiadol
- Arddangosfa
- Sesiynau portffolio cyfoed i gyfoed
Fe fydd hyn yn diweddu gyda chynhadledd ddŵr a chyhoeddiad mewn print