Preswylfeydd i Arlunwyr

Home » Amdanomi » Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr » Mwynhau Elan » Preswylfeydd i Arlunwyr

Mae gan Gwm Elan hanes hir fel lle sy’n ysbrydoliaeth i bobl. Ar hyn o bryd, daw un o bob wyth ymwelydd gyda’r bwriad o ymgymryd â rhyw weithgarwch crëadigol neu gelfyddydol.

Bydd y cynllun yn adeiladu ar yr etifeddiaeth gelfyddydol er mwyn datblygu Cwm Elan fel canolfan i grëadigrwydd. Canolbwyntir ar ddefnyddio’r celfyddydau er mwyn deall, darganfod ac ymdrin â natur, dŵr, cynaladwyedd a’r deinamig gwledig/trefol. Y bwriad yw gweithio law yn llaw â chynlluniau eraill sy’n cael eu datblygu i gynorthwyo i greu Elan Creadigol. Bydd dau arlunydd yn cael eu penodi’n flynyddol. Byddant yn treulio o leiaf mis yn y lleoliad er mwyn cael profi’r tirwedd. Bydd hyn yn creu cyfleon i artistiaid lleol i brofi Cwm Elan drwy lygaid arlunwyr crëadigol profiadol.

Dros y bum mlynedd nesaf y bwriad yw i gyflawni:

  • 10 arlunydd preswyl yn gweithio ar y safle
  • 4 Cymrodoliaeth Creadigol Cymru
  • 80 o bobl ifanc yn gweithio gydag arlunwyr profiadol
  • Arddangosfa
  • Sesiynau portffolio cyfoed i gyfoed

Fe fydd hyn yn diweddu gyda chynhadledd ddŵr a chyhoeddiad mewn print

Lawrlwythwch manylion y prosiect.