Gall pobl sy’n byw ymhell o Gwm Elan brofi gwir rhwystrau wrth geisio cyrraedd ardaloedd o weithgarwch awyr agored. Bydd y cynllun hwn yn cynorthwyo grwpiau o bobl o ardal Birmingham i gysylltu â Chwm Elan. Trwy eu galluogi a chynnig pecyn o lety a chefnogaeth, bwriedir cynnig cyfleoedd i wella a newid ansawdd bywyd pobl; wrth iddyn nhw dreulio amser mewn amgylchedd o fyd natur gan feithrin ymwybyddiaeth o’r hyn a gynigia’r amgylchedd iddynt – drwy eu darparu â dŵr.
Fe fydd y prosiect yma yn darparu pecynnau encil i grwpiau digyswllt o ardal Birmingham er mwyn cysylltu â Chwm Elan. Ynghyd ag arhosiad o un i bedair noson, fe fydd gweithgareddau addas at bwrpas wedi’u trefnu ar gyfer pob grŵp.
Fe fydd y prosiect yma yn cefnogi grwpiau sydd ddim fel arfer yn ymweld â chefn gwlad, ond sydd â chysylltiad â Chwm Elan trwy eu cyflenwad dŵr.
Y bwriad yw cynnal 30 encil yn ystod y dydd a’r nos gyda sesiynau gweithgarwch at bwrpas bob blwyddyn. Y gobaith yw y bydd 1,000 o bobl o’r grwpiau digyswllt o Birmingham wedi mwynhau ac wedi elwa o benwythnos ‘Profiad o Gwm Elan’.