Fel rhan o gynllun Elan Links rydym wedi datblygu adnodd addysgiadol ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr. Mae’r adnodd hwn yn cynnwys themâu gwahanol sy’n ymwneud â gorffennol, presennol a dyfodol Elan, gan gynnwys defnydd gynaliadwy o ddŵr, y dyffrynnoedd coll, newid hinsawdd ynghyd â chelf.
Mae’r adnodd traws cwricwla wedi’i anelu at Flynyddoedd 6 a 7 ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, yn amgylchedd stepen drws y myfyriwr neu yng Nghwm Elan ei hun. Mae ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim trwy’r cysylltau isod
Lawrlwytho’r Adnodd yn Saesneg
Lawrlwytho’r Adnodd yn Gymraeg
Rydym hefyd yn cynnal nifer o alwadau cyflwyniadol ar gyfer athrawon er mwyn esbonio’r adnoddau, esbonio ein methodoleg, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am weithio gyda rhain. Rydym yn cynnig y galwadau hyn trwy Google Meet ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol, fe allwch ddefnyddio’r cyswllt hwn ar gyfer galwad.
Os nad ydy’r amserau neu’r llwyfannau hyn yn gyfleus i chi, cysylltwch â rosie.slay@elanvalley.org.uk i drefnu galwad arall.
Dydd Iau, 12fed o Hydref 3.30-4.30yp
Dydd Mercher, 25ain o Hydref 3.30-4.30yp
Dydd Iau 26ain o Hydref 4-5yh
Dydd Mercher 1af o Dachwedd 3.30-4.30yh