Byddwn ni’n dirwyn tymor yr haf i ben â gŵyl penwythnos arbennig sy’n dathlu popeth sy’n gwneud Cwm Elan yn lle hynod.
Casglwch eich teulu a’ch ffrindiau ynghyd ar gyfer Elan Fest 2026 – dau ddiwrnod bythgofiadwy o gerddoriaeth, natur a diwylliant lleol.
Bydd mynediad am ddim i brif ran yr ŵyl yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, ond codir tâl bach am rai gweithgareddau.
