Croeso i ddiweddariad y mis hwn i ddarganfod beth sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Medi.

Ym Mharc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan, fe ellir gweld y Llwybr Llaethog ychydig i’r gorllewin o’r gorwel deheuol wrth iddi nosi.  Fe fydd yn edrych ar ei orau o 10yh ymlaen ar ddechrau’r mis, pan bo’r sêr-dywyllwch yn dechrau ac yn parhau tan 4 o’r gloch yn y bore.  Ar ddiwedd y mis, fe fydd y sêr-dywyllwch yn dechrau am 8.50yh ac yn gorffen am 5.20yb, gan roi wyth awr o wybren dywyll, sy’n berffaith ar gyfer darganfod y gwrthrychau aneglur.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Fe fydd golygfa  holl wybrennol o’r cytserau am 10yh yn ystod mis Medi, yn ôl in-the-sky.org

Yn isel ar y gorwel de i dde-orllewinol, fe fyddwch yn gweld cytser y Saethydd, sy’n debyg i debot, gyda’r Alarch, Ercwlff, Offichws, Acwila a Thelyn Arthur wedi’u lleoli’n dda uwchben.

Yn y dwyrain, gorwedd cytserau’r hydref, sef Pegasws, Andromeda a’r Llys Dôn sydd ar ffurf ‘w’.  I’r gorllewin, mae Boötes yn dechrau machlud gyda Choron y Gogledd yn dilyn.

Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 7fed o Fedi a’r Lleuad Newydd ar yr 21ain o Fedi.

Diffyg ar y Lleuad

Ar ddechrau’r noson ar y 7fed o Fedi, oddeutu 7.50yh, edrychwch tua’r dwyrain i weld y Lleuad Lawn yn codi.  Fodd bynnag, ar y noson hon, fe fydd hi’n wahanol – wrth iddi nosi, fe welwch gysgod dros y rhan fwyaf o’i hwyneb.  Mae hyn oherwydd bod cysgod y Ddaear yn syrthio dros wyneb y lleuad – ac fe’i elwir yn ddiffyg ar y lleuad.

Pan fydd y lleuad yn codi, fe fydd yn gyfan ond efallai bydd yr wybren yn rhy ddisglair i weld y lleuad goch. Wrth iddi nosi, fe welwch fod rhan fwyaf o wyneb y Lleuad wedi’i gysgodi wrth i’r Lleuad symud allan o’i chyfanrwydd. Fe fydd y Cysgod Du, neu’r rhan fwyaf tywyll o gysgod y Ddaear yn gadael wyneb y Lleuad oddeutu 9yh.

 Credyd: Stellarium

Y Planedau ym mis Medi

Y Blaned Iau

Mae’r Blaned Iau yn codi am 1.30yb ar ddechrau’r mis ac am hanner nos at y diwedd.

Y Blaned Sadwrn

Fe fydd y Blaned Sadwrn yn codi am 8.45yh ar ddechrau’r mis ond yn ymddangos yn wybren y nos, yn isel ar y gorwel dwyreiniol ar y diwedd.  Ar yr 20fed o Fedi, fe allwch wylio cysgod Titan yn teithio ar draws wyneb Sadwrn – fe fydd yn dechrau am 5.13yb.  Fe fydd cylchoedd Sadwrn yn ymddangos yn denau ac ni fyddant yn dechrau agor allan hyd fis Chwefror 2026, oherwydd ei 27-gradd gogwydd echelinol a’i chylchdro o amgylch yr Haul.

Y Blaned Gwener

Fe fydd y blaned Gwener yn codi am 3.20yb yn y gogledd-ddwyrain ar ddechrau’r mis ac am 4.40yb ar y diwedd.

Y Blaned Neifion

Mae’r blaned Neifion yn gorwedd yn agos at y blaned Sadwrn, wedi’i lleoli ar safle 10 o’r gloch i’r blaned gylchog.  Ar y 23ain o Fedi fe fydd mewn gwrthwynebiad, sy’n golygu y bydd yn amser perffaith i’w gweld â thelesgop ac ysbienddrych, gan mai hi fydd yr un fwyaf agos a disglair ar y pryd.  Fe fydd yn ymddangos fel seren las ddiffocws, a gyda chwyddhad uchel trwy delesgopau canolig, efallai y byddwch yn gallu gweld ei lleuad fwyaf, sef Titan.

Cysylltiad y Lleuad a’r Blaned Gwener

Os ydych o gwmpas yn gynnar ar y 19eg o Fedi, efallai y byddwch eisiau edrych allan er mwyn gweld y Lleuad ar ei thrail uwchben y blaned Gwener ddisglair.  Fe fydd y cysylltiad hwn yn codi’n uchel i’r wybren cyn iddo bylu wrth i’r Haul wawrio.  Edrychwch am Lewyrch Daear hyfryd ar ochr dywylla’r Lleuad cyn i’r wybren oleuo.

Cytser y Mis

Pob mis, mi fyddwn yn nodi cytser ynghyd â’r fytholeg sydd wrth ei wraidd.

Adnabyddir 88 IAU yn wybren y nos a thua 26 sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd.

Mae rhai o enwau’r 88 cyster yn filoedd o flynyddoedd oed. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth a rhesymeg, ynghyd â mwy o bwyslais ar y byd gweladwy, ni ddefnyddir y sêr yng nghalendr ffermio, mordwyo, neu i drosglwyddo gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol.

Ceisiwch weld os gallwch ganfod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser yr ydym yn trafod yw oddeutu 90 munud wedi’r machlud.

Tap to enlarge

Cytser y Mis – Capricornws

Mae cytser Capricornws bron wedi’i golli yn y llygredd goleuni cynyddol yn yr oes fodern, ond dychmygwch amser cyn goleuadau tu allan pan roedd y sêr yn y cytserau yn ddigon llachar i danio dychymyg y bobl hynafol.

Mae gan Capricornws fytholeg hynafol sy’n deillio o  gyfnod y Swmeriaid hynafol oddeutu 4000 CC, pan roedd yn gysylltiedig â SUHUR-MASH-HA sef y pysgod geifr, neu Enki, sef duw’r greadigaeth Swmeraidd.  Yn ddiweddarach, fe wnaeth y Babiloniaid ei gysylltu â duw’r pysgod geifr Ea, ac ym mytholeg Groeg fe barhaodd y thema geifr wrth iddyn nhw gysylltu’r cytser â Amalthea, yr afr a fu’n famaeth i Sews pan oedd yn faban.  Roedd y cytser hefyd yn gysylltiedig â’r duw Groegaidd Pan, a oedd yn hanner dyn hanner gafr, ac a wnaeth ddianc o afael yr anghenfil Typhon gan drawsnewid ei goesau i gynffon pysgodyn a phlymio i’r afon.

Messier 16 (Nifwl yr Eryr)

Coordinates: RA 18h 18m 48s | Dec -13° 49′ 0″
 
Mae dal amser y mis hwn i astudio’r gwrthrych adnabyddus hwn, a wnaed yn enwog gan y ddelwedd Hubble o Bileri’r Greadigaeth.  Mae Messier 16 yng nghytser Serpens, sy’n cynnwys dau wrthrych:  nifwl allyriad a enwir IC 4703 a chlwstwr seren agored NGC 6611.  Wedi’i leoli 7,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd, fe’i ddarganfyddwyd yn gyntaf gan Jean-Phillippe Loys de Chéseaux.  Ganwyd y gwrthrych hwn allan o weddillion seren a ffrwydrodd, gan ddatblygu i fod yn feithrinfa serol gan roi bywyd i dros 8000 o sêr.


Fe allwch ddefnyddio delesgop gydag agorfa o dri modfedd ac yn fwy – ac efallai fe wnewch weld “clwstwr o sêr bychain, wedi’u cymysgu â thywyn gwan”, sef dyfyniad gan Charles Messier dros ddau gan mlynedd yn ôl.  Efallai y bydd telesgop yn fwy mewn wybren dywyll yn datgelu mwy o nifylau ac o bosib yn ymddangos yn debyg i siap eryr.

Messier 17 (Nifwl Omega)

Coordinates: RA 18h 20m 26s | Dec -16° 10′ 36″
Tra’ch bod yn yr ardal, symudwch eich telesgop draw i’r Messier 17 sy’n gyfagos.  Fe’i adwaenir fel yr Omega neu nifwl yr Alarch, ac mae’n un o’r ardaloedd sy’n creu sêr fwyaf yn ein galaeth.

Wedi’i leoli yng nghytser y Saethydd, mae’n gorwedd 5,500 o flynyddoedd golau i ffwrdd ac yn cynnwys un o glystyrau sêr mwyaf ifanc yn y Llwybr Llaethog.  Mae’r feithrinfa serol, enfawr a phwerus yma yn brolio poced o ‘nwy oer’ sydd deg gwaith yn fwy na’n Cysawd yr Haul ni!

Fe ellir gweld clystyrau sêr ac ardal nifylaidd y gwrthrych hwn gydag ysbienddrych, ond gyda thelesgop gydag agorfa o 3 modfedd ac uwch fe fyddwch yn gallu gweld peth ffurfiad.  Fe fydd telesgop gydag agorfa o wyth modfedd ac uwch yn cyfleu siap nodedig yr alarch sy’n edrych yn hyfryd.  Os oes gennych ffilter UHC neu 0III, rhowch hwnnw ar ddiwedd eich sylladur er mwyn datgelu mwy o fanylion.

Credyd: Michael Vlasov o www.deepskywatch.com